12/05/2014

Contio

Rwy'n credu'n gryf bod gan regfeydd le anrhydeddus iawn yn ein geirfa, ac nid oes gennyf lawer o amynedd gyda phobl sy'n cwyno am iaith aflednais. Fel brodor o Gaernarfon, mae un rheg yn enwedig yn dod yn naturiol. Mae Cofis, wrth gwrs, yn enwog am eu defnydd ffwrdd-a-hi o'r gair cont, sy'n cael ei ystyried yn sarhad hyll yn y rhan fwyaf o lefydd eraill. Yng Nghaernarfon, mae wedi'i fabwysiadu fel ffordd o fynegi anwyldeb, neu hyd yn oed fel modd syml o atalnodi brawddegau. Mae rhywbeth boddhaol iawn am y cytseiniau caled yn y gair unsill cont, neu'r fersiwn Saesneg sydd hyd yn oed yn grasach, cunt.

Rwyf wedi bod yn ymwybodol ers blynyddoedd bod y gair, yn America yn enwedig, yn cael ei ystyried yn un rhywiaethol gan lawer. Dros yr Iwerydd, fe'i defnyddir yn bennaf i sarhau menywod (ac mae hynny'n swnio'n rhyfedd o hyd i'm clust i, rhaid cyfaddef). Mae pawb yn gwybod beth yw ystyr y rheg. Am wn i, ystyrir galw rhywun yn cunt yn arbennig o frwnt oherwydd rhyw ymdeimlad hanesyddol bod organnau rhywiol merched yn bethau eithriadol o aflan.

Rwy'n ystyried fy hun yn pro-ffeminydd brwd, a'n ceisio bod mor sensitif ag y gallaf i bethau fel hyn, ond rhaid i mi fod yn onest fy mod wedi parhau i ddefnyddio'r rheg er fy mod yn hollol ymwybodol o hyn i gyd. Mae'n bosibl fy mod yn fwriadol wedi ceisio osgoi dadansoddi'r peth rhag ofn i mi sylwi fy mod yn rhagrithio, ond fy nghyfiawnhad oedd bod y cyd-destun yn hollol wahanol fan hyn, a bod y cysylltiad rhywiaethol, sydd mor gryf o hyd yn UDA, wedi'i golli ym Mhrydain (ac yng Nghaernarfon yn arbennig). Wedi'r cyfan, onid yw'n wirion honni bod dau Gofi sy'n cyfarch ei gilydd trwy holi "iawn cont?" yn atgyfnerthu anghymesureddau grym rhwng dynion a merched?

Ond tybed? Dyna'n union y mae dau flogiwr, y mae gennyf barch mawr tuag atynt, Ophelia Benson a PZ Myers, yn ei honni. Y sylw yma gan Ricky Gervais ar Facebook oedd asgwrn y gynnen: 
If you grabbed Hitler and shouted "stop killing innocent people you cunt", someone on Facebook would call you out on your sexist language.
Mae'n rhaid i mi fod yn onest: nes i'r ddadl yma godi buaswn wedi bod yn fwy na pharod i ddefnyddio'r rheg arbennig yma i ddisgrifio Hitler, yn union fel y gwnaeth Gervais. Mae'n debygol fy mod wedi gwneud hynny droeon. Ond onid yw'n dweud cyfrolau mai'r gair casaf sydd gennym, wrth chwilio am ffordd o fynegi atgasedd tuag at ddyn, yw rhywbeth sy'n cyfeirio at ran o anatomeg y corff benywaidd?

Mae'r erthygl hon, sy'n ymateb i'r ddau uchod, yn olrhain hanes y gair ym Mhrydain a'n egluro'r gwahaniaethau rhwng y fersiynau Americanaidd a Phrydeinig (mae'r darn am Chaucer yn arbennig o ddifyr). Mae'n wir bod geiriau'n gallu colli cysylltiad â'u hystyron gwreiddiol wrth i'w hetymoleg ddatblygu. Ond ar y llaw arall, mae cont yn parhau i gyfeirio at y darn rhwng goesau merched yn y pen draw, hyd yn oed yng Nghaernarfon. Ar y llaw arall eto, mae rhai ffeminyddion, fel Laurie Penny, yn awgrymu y dylai merched feddiannu'r term er eu dibenion eu hunain.

Gorddweud cellweirus, efallai, ond rwy'n cael creisis bach ers darllen y blogiadau yna. Byddai'n gas gennyf feddwl fy mod yn gwneud cam â ffeminyddion trwy gontio. Ond byddai'n anodd newid arfer oes. Beth ydych chi'n ei feddwl? Byddai barn merched yn enwedig o werthfawr!

No comments:

Post a Comment