11/05/2014

Cig halal

Er bod yr holl sôn am gig halal yn y tabloids wythnos yma wedi bod yn boenus o hysteraidd, fel sy'n digwydd mor aml pan mae comics hiliol fel y Sun neu'r Daily Mail yn trafod islam, nid yw hynny'n golygu nad yw'r cysyniad o fwyd halal (a kosher) yn dwp.

Am ryw reswm rhyfedd, mae athrawiaeth islamaidd yn mynnu bod angen gwagio'r gwaed o gorff yr anifail cyn ei ladd. Gwneir hyn trwy dorri gwythiennau'r gwddf. Wrth gwrs, oherwydd pryderon am les yr anifeiliaid, mae Prydain a gwledydd gorllewinol eraill yn mynnu bod angen sicrhau bod y creadur yn anymwybodol cyn gwneud hynny. Mae'n debyg mai 88% o'r cig halal a werthir ym Mhrydain sy'n bodloni'r rheolau hynny, sy'n siomedig o isel yn fy marn i. Beth bynnag am hynny, ystyrir hyn yn gyfaddawd boddhaol. Mae'n well na hollti gwddwf yr anifail tra bod y creadur druan yn ymwybodol, o leiaf.

Er hynny, o gael y dewis, byddai'n gwell gennyf fwyta cig di-halal. Y rheswm yw bod crefydd wedi ychwanegu haenau ychwanegol o gymlethdodau cwbl ddi-angen. Ofergoeliaeth pur sy'n mynnu bod angen gwneud hyn cyn lladd yr anifail. Y canlyniad yw bod y risg o achosi dioddefaint yn fwy (er pob ymdrech i wneud iawn am hynny) nag yn achos cynhyrchu cig cyffredin, sy'n gwneud y job yn dwt gyda bollt syml i'r pen. Mae peth risg yn bod hyd yn oed gyda chig cyffredin, wrth gwrs, ond dyna'r dull gorau sydd gennym ar hyn o bryd. (Waeth i mi ddweud fan hyn fy mod yn hoff iawn o gig ac nad wyf yn squeamish o gwbl wrth ddychmygu'r hyn sydd angen ei wneud mewn lladd-dy er mwyn paratoi fy swper; y ddadl gryfaf o dipyn dros lysieuaeth yn fy marn i yw'r un amgylcheddol.)

Consesiwn afresymegol i fympwy crefydd yw'r arfer o wneud anifail yn anymwybodol er mwyn gallu'i waedu cyn ei ladd. Nid oes cyfiawnhad gwyddonol na dietegol dros ddraenio'r gwaed o gorff y creadur. Dychmyger grefydd newydd sy'n dweud bod rhaid tynnu ysgyfaint (neu lygaid, pam lai?) yr anifail allan cyn ei ladd. Mae'n berffaith bosibl dychmygu dyfeisio dull o wneud hynny heb achosi dioddefaint ychwanegol yn y mwyafrif o achosion, ond beth ddiawl fyddai'r pwynt? Byddai'n ffordd ryfeddol o aneffeithlon o gynhyrchu cig, a byddai'r risg ychwanegol yn sicr yn fwy na 0%, ac felly'n amhosibl ei gyfiawnhau yn ymarferol. Yr unig wahaniaeth rhwng y grefydd hypothetig yma ac achos islam (ac iddweiaeth) yw'r parch di-gwestiwn anhaeddiannol a roddir i grefyddau sefydledig.

Ar ben hynny, mae rheolau halal a kosher yn dweud bod rhaid canmol Duw wrth gyflawni'r weithred, ac mae'r lol yna'n gadael blas cas ar y cig.

O'r herwydd, rwy'n credu ei bod yn berffaith deg mynnu bod cig halal a kosher wedi'i labelu'n glir, er mwyn galluogi cwsmeriaid i osgoi cefnogi dulliau o ladd anifeiliaid sy'n ychwanegu risg heb reswm call. Er bod adroddiadau'r tabloids yn drewi o'r paranoia hyll cyfarwydd sy'n awgrymu bod islam rywsut yn cymryd Prydain drosodd trwy ddirgel a chyfrwys ffyrdd, mae yno bwynt dilys yn llechu.

No comments:

Post a Comment