06/05/2014

Boko Haram a'r Ku Klux Klan

Tair wythnos yn ôl, fe herwgipiwyd 276 o ferched ysgol yng ngogledd-ddwyrain Nigeria gan y grŵp islamaidd eithafol, Boko Haram. Ddoe, cafwyd cyhoeddiad gan y terfysgwyr eu bod yn bwriadu gwerthu'r merched fel caethweision (ar ben hynny, mae'n debyg eu bod wedi herwgipio wyth o ferched ychwanegol heddiw). Yn y cyfamser, maent hefyd wedi ffrwydro sawl bom, mewn ymgyrch dreisgar sydd wedi lladd miloedd lawer o bobl ers eu dyfodiad yn 2002. Ystyr Boko Haram (yn fras iawn iawn) yw "mae addysg orllewinol yn bechadurus"; mae eu blaenoriaethau moesol yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Mae addysgu merched, pleidleisio a gwisgo crysau yn droseddau anfaddeuol sydd angen eu diddymu, ond mae caethiwo plant ysgol a'u gwerthu i gael eu treisio yn syniad ardderchog. Pawb at y peth y bo, am wn i.

Gyda hynny o gyd-destun, felly, roedd y trydariad yma gan Mehdi Hasan ddoe yn ddiddorol:

Mae'n ddigon cywir mewn ffordd sylfaenol: mae'r rhan fwyaf o fwslemiaid yn ffieiddio ynghylch yr hyn y mae Boko Haram yn ei wneud, ac mae'n bwysig pwysleisio'r ffaith yna. Nid yw'r grŵp yn "cynrychioli" islam, oherwydd mae'n amhosibl i unrhyw fudiad unigol gynrychioli oddeutu biliwn a hanner o bobl. Eto i gyd, yn anffodus mae hefyd yn ffaith bod gan y grŵp gryn gefnogaeth. Wrth gwrs, byddai beirniadu Boko Haram yn gyhoeddus yng ngogledd-ddwyrain Nigeria yn beth peryglus iawn i'w wneud, felly mae'n anodd dweud i sicrwydd beth yw maint y gefnogaeth, ond nid yw mudiadau treisgar trefnus fel hyn yn ymddangos mewn gwagle.

Mae gan y KKK hanes hir, wrth gwrs, ac ymddengys bod Hasan yn manteisio ar yr amwysedd a gynhyrchir gan y ffaith honno. Mae dylanwad y KKK wedi pylu erbyn heddiw a dweud y lleiaf; maent yn destun gwawd hyd yn oed ymhlith y dde adweithiol yn America. Nid yw hynny mor wir yn achos Boko Haram ac islam.

Yn hytrach na KKK heddiw, gellir cymharu Boko Haram â KKK yr 1920au. Roedd gan yr hilgwn Americanaidd gryn ddylanwad a chefnogaeth bryd hynny, ac roedd rhai gwleidyddion amlwg yn aelodau. Roedd - ac mae - y KKK yn fudiad cristnogol: dyfynnu o'r Beibl oedd y bobl yma'n ei wneud wrth gyfiawnhau crogi pobl ar sail lliw eu croen. Ond yn yr achos yma hefyd, wrth gwrs, nid yw'n ystyrlon dweud bod y KKK yn "cynrychioli" cristnogaeth ar y pryd am yr un rheswm a roddir uchod.

Y pwynt perthnasol yw nad yw dweud bod mudiad hyll yn perthyn i - a'n gweithredu yn enw - crefydd neu ideoleg arbennig gyfystyr â dweud eu bod yn cynrychioli pawb sy'n arddel y safbwynt hwnnw. Mae Boko Haram yn fudiad islamaidd, sy'n arddel dehongliad arbennig o lyfr sanctaidd y ffydd honno, ac sydd, am ba bynnag reswm, yn mwynhau cefnogaeth mwy na llond llaw o Nigeriaid. Maent hefyd yn perthyn i duedd dreisgar a welir ledled y byd islamaidd. Gallaf ddeall dyhead Hasan i roi pellter rhwng y grŵp a'i hoff grefydd, ac mae unrhyw un sy'n dweud bod mwslemiaid cymhedrol call yn gorfod ysgwyddo peth o'r bai am weithredoedd Boko Haram yn bod yn dwp. Ond erys y ffaith bod hen ddigon o athrawiaethau erchyll yn y Corán sy'n cyfiawnhau'r union hyn y mae Boko Haram yn ei wneud yn enw'r ffydd. Mae'n berffaith wir nad ydynt yn cynrhychioli islam, ond nid yw Hasan chwaith.

No comments:

Post a Comment