29/04/2014

America ryfedd

Rwy'n hoff iawn iawn o America. Bûm yn Las Vegas am yr ail dro'n ddiweddar, am bythefnos, gan deithio o gwmpas Arizona a de Utah yn ogystal. Mae Monument Valley (Tsé Biiʼ Ndzisgaii yn yr iaith Navajo), yn enwedig, ymysg y llefydd mwyaf syfrdanol a welais erioed:

Mae anferthedd y wlad yn rhyfeddol, ac mae'r de-orllewin yn arbennig yn llawn nodweddion naturiol hynod. Byddai wedi bod yn berffaith bosibl treulio misoedd lawer dim ond yn Arizona, a byddai wedi bod yn anodd gweld popeth hyd yn oed wedyn.

Beth bynnag, bu digwydd i mi ddod ar draws rhestr o'r "20 peth od am America nad yw Americanwyr yn sylweddoli eu bod yn od" ac fe'm trawais gan y ffaith ei fod yn cyd-fynd bron yn llwyr â'm hargraffiadau i (9 ac 11 yw'r unig rai na sylwais yn benodol arnynt):

Petai rhaid i mi ddewis un peth yn arbennig sy'n mynd ar fy nerfau ychydig wrth ymweld ag America, rhif 3 uchod fyddai hwnnw. Nid yw'r pris a ddangosir yn y siopau'n cynnwys treth (sy'n amrywio o dalaith i dalaith), felly mae angen gwneud bach o fathemateg yn eich pen er mwyn deall faint o arian yn union bydd y person ar y til yn gofyn amdano. Y canlyniad fel arfer yw chwarae'n saff a rhoi nodyn arian cymharol fawr iddynt, gan olygu bod eich waled yn pwyso tunnell o fewn tridiau oherwydd yr holl newid mân (nid yw nickels a dimes yn dderbyniol fel tips, wedi'r cyfan).

Yn ogystal, am genedl sy'n obsesiynu cymaint ynghylch diogelwch yn gyffredinol, mae eu hagwedd ffwrdd-a-hi tuag at gardiau credyd ac ati'n syndod. Yr unig lefydd y bu angen i mi roi PIN wrth dalu am rywbeth oedd mewn gorsafoedd petrol. Ym mhobman arall, dim ond sgriblo llofnod sydd ei angen (ac mewn rhai llefydd, nid oes hyd yn oed rhaid gwneud hynny)

Mae'n siwr bod gwahaniaethau bychain fel hyn yn sefyll allan yn amlycach gan eu bod mor debyg i ni mewn cymaint o ffyrdd eraill. Am wn i, rheswm tebyg sydd i gyfrif am fy niddordeb mawr yn eu gwleidyddiaeth gwallgof hefyd. Mae'r lle'n enigma bendigedig. Rwy'n edrych ymlaen i fynd yn ôl eto.

No comments:

Post a Comment