12/06/2014

Rhagdybiaetheg

Cyfaddefiad: rwy'n eithaf mwynhau gwrando ar ddadleuon cyhoeddus ar YouTube, yn enwedig rhai ynghylch crefydd. Yr un diweddaraf i mi wrando arno oedd un diweddar rhwng yr anffyddiwr Matt Dillahunty a dyn o'r enw Sye Ten Bruggencate, gyda'r cwestiwn "a yw credu mewn duw yn rhesymol?". Mae Bruggencate yn arddel math arbennig o amrwd ac ystyfnig o apologetics Cristnogol o'r enw rhagdybiaetheg (presuppositionalism).

Dyma hi yn ei chyfanrwydd isod. Dylid rhybuddio yn gyntaf bod yr holl beth bron i ddwy awr o hyd, a bod Bruggencate yn debygol o wneud i chi frysio i daro'ch pen yn erbyn y wal agosaf. Byddai hefyd yn syniad esbonio beth yn union sydd yn ein gwynebu fan hyn. Heb symleiddio na gor-ddweud o gwbl, dyma "ddadl" Bruggencate yn ei chyfanrwydd, ar ffurf cyfresymiad:

Gosodiad 1: Mae'n rhesymol credu pethau sy'n wir.
Gosodiad 2: Mae'n wir bod Duw'n bodoli. [!]
felly [!!]
Casgliad: Mae'n rhesymol credu bod Duw'n bodoli!

Nid cariciature mo hyn. Dyna'n llythrennol yw holl ddadl Bruggencate. Gadawaf i chi, felly, benderfynu ai peth doeth yw clicio "Play":



Teg yw gofyn beth oedd pwynt cynnal y ddadl yn y lle cyntaf, oherwydd mae'n safbwynt sy'n amhosibl - yn llythrennol - cynnal unrhyw fath o sgwrs yn ei gylch. Fersiwn estynedig o sgetsh yr Argument Clinic gan Monty Python sydd yma yn y pen draw. "Fi sy'n iawn oherwydd fy safbwynt i yw'r un cywir". Tric Bruggencate yw mynnu mai "gwirionedd absolwt" yw'r unig math dilys o wirionedd, gan honni wrth gwrs mai ei Dduw ef yw unig ffynhonnell bosibl y gwirionedd hwnnw.  Yn bersonol, rwy'n edmygu amynedd Dillahunty.

Yr hyn sy'n drawiadol am bobl fel Bruggencate yw ei bod yn amlwg nad ydynt yn dwp, er eu bod yn arddel safbwyntiau gwirioneddol lloerig a chyfan gwbl anghynaliadwy. Mae'n ddyn hyderus, huawdl ac ymosodol ei arddull. Camp Dillahunty oedd paratoi'n drylwyr. Roedd yn gyfarwydd iawn â dadleuon Bruggencate yn barod, ac roedd wedi rhagweld yn union yr hyn a fyddai'n ei wynebu (i'r graddau iddo allu cyfansoddi ei ymateb cyntaf o flaen llaw). Y gwir yw y byddai anffyddwyr llai cyfarwydd â rhagdybiaetheg wedi cael trafferth.

Mae'n wir bod llawer o ddiwinyddwyr Cristnogol mwy "soffistigedig" yn feirniadol iawn o Bruggencate a'i debyg gan fod ei ddadleuon yn amlwg yn hurt ac felly'n destun embaras i'r ffydd. Rwy'n hapus i gadarnhau bod eu pryderon yn berffaith wir. Eto i gyd, rwy'n tueddu i feddwl bod gan lawer o Gristnogion fwy yn gyffredin â Bruggencate nag y maent yn ei sylweddoli. Wedi'r cyfan, o'm profiad i mae hyd yn oed y Cristion mwyaf nuanced fel arfer yn defnyddio bodolaeth Duw fel man cychwyn a'n awgrymu mai cyfrifoldeb yr anffyddiwr yw gwrthbrofi hynny. Pan mae unrhyw Cristion yn mynnu bod ganddo berthynas bersonol â Duw, nid oes modd dal pen rheswm â'r safbwynt.

Cymwynas Bruggencate, efallai, yw mynegi'r peth yn hollol gignoeth. Dyma ddinoethi'r safbwynt i lawr at yr asgwrn, gan ddiosg yr holl fflwff ffug-ddwys y mae llawer o'i gyd-Gristnogion yn ei ychwanegu er mwyn cymylu pethau. Yn ei ffordd ryfedd ei hun, mae rhywbeth eithaf gonest am ei ddadl yn hynny o beth (ac yn hynny o beth yn unig!). Ond dyna, o ddigon, yw'r peth caredicaf y gallaf ei ddweud amdano.

No comments:

Post a Comment