16/06/2014

Eithafiaeth mewn ysgolion

Mae cryn sylw wedi'i hoelio'n ddiweddar ar y newyddion bod eithafwyr crefyddol yn ymdrechu i ennill rheolaeth dros ysgolion yn Lloegr er mwyn gorfodi athrawiaethau islamaidd ar y disgyblion. Fel mae'n digwydd, rwy'n credu bod ateb eithaf syml i'r broblem: dylid gwahardd ysgolion ffydd yn gyfan gwbl - mae'r syniad yn hollol wrthun - a dylid diddymu pob defod grefyddol o bob ysgol. Rhagrith yw cwyno am orfodi arferion islamaidd ar blant ar un llaw tra'n cefnogi system sy'n ei gwneud yn ofynnol - trwy ddeddf gwlad - i ysgolion arwain disgyblion mewn gweddi Gristnogol bob wythnos. Mae pawb sy'n gwneud hynny wedi hen ildio'r tir uchel moesol.

Fel sy'n digwydd mor aml pan mae eithafiaeth islamaidd o dan sylw, ceir dau begwn afresymol i'r ymateb. Mae hilgwn fel yr EDL a Britain First yn ceisio manteisio ar y stori er mwyn ategu eu neges hurt bod Prydain yn prysur fabwysiadu cyfraith Sharia drwy'r drws cefn ac yn y blaen ac yn y blaen. Ar y llaw arall, mae apologists islamaidd, a rhai rhyddfrydwyr, yn awgrymu mai rhyw fath o helfa wrach hiliol yw'r cyhuddiad, a'i fod yn symptom o islamoffobia lloerig. Mae'r gwir, wrth gwrs, yn y canol.

Mae eithafiaeth islamaidd yn broblem, ac mae'n bwysig wynebu hynny. Ychydig wythnosau yn ôl, aeth prifathro ar Newsnight ac, wrth gael ei holi, nid oedd yn gallu condemnio'r syniad o lofruddio troseddwyr gyda cherrig. Mae'r ateb cywir yn syml; mae ceisio dadlau ei fod yn fater dyrys yn safbwynt erchyll ynddo'i hun:



Os yw pobl fel yr uchod yn rhedeg rhai ysgolion, mae'n anodd honni mai creaduriaid rhyfedd ar yr ymylon ydynt. Mae ganddynt rym, a dylid eu herio.

Ar bwnc tebyg, mae'r Council Of Ex-Muslims wedi cyhoeddi adroddiad pwysig yn ddiweddar ynghylch yr iERA, yr Islamic Education and Research Academy. Mae'r iERA yn cyfleu'r argraff mai "addysgu" pobl am islam yw'r amcan, ond mae safbwyntiau'r arweinwyr a'u haelodau blaenllaw yn eithafol. Er bod eu daliadau ffwndamentalaidd yn hysbys, maent yn tueddu i fod yn gyndyn iawn i ateb cwestiynau syml pan mae eraill yn eu herio. Gan fy mod yn hoffi pigo ffrae ar Twitter o dro i dro, rhoddais innau gynnig arni hefyd, gan ymuno â llu o bobl a oedd wrthi'n ceisio cael ateb syml gan un ohonynt am ei farn ynghylch lladd pobl cyfunrywiol gyda cherrig. Gallwch ddarllen am yr hanes fan hyn, lle mae rhai o drydariadau eich blogiwr hoff wedi'u dyfynnu hefyd. Fel y gwelwch, mae fel ceisio cael gwaed allan o garreg (dim ymddiheuriadau o gwbl am y pun). Mae'r cyndynrwydd i ateb cwestiwn mor syml yn cadarnhau'r dybiaeth ei fod yn cefnogi'r syniad.

Felly er fy mod yr un mor barod i gondemnio paranoia hiliol hyll yr asgell dde eithafol, gocheler rhag gwadu bod problem o gwbl. Yn wir, dylid pwysleisio bod gan Britain First a'u tebyg lawer iawn yn gyffredin â'r grwpiau islamaidd hyn. Eithafwyr asgell dde ydynt i gyd, wedi'r cyfan, ac maent yn cytuno'n ddigon llawen ynghylch cryn dipyn o faterion cymdeithasol. Mae tasg y rhyddfrydwr seciwlar call yn un syml, sef gwrthwynebu'r ddwy garfan fel ei gilydd.

No comments:

Post a Comment