Mae'r ateb yn syml iawn, wrth gwrs. Mae'n berffaith bosibl casáu cymeriadau ffuglennol, yn union fel y gwnawn mor fynych wrth ddarllen nofelau neu wylio ffilmiau. A Duw'r Beibl yw'r baddie gwaethaf un. Fel y dywedodd Dawkins yn The God Delusion:
The God of the Old Testament is arguably the most unpleasant character in all fiction: jealous and proud of it; a petty, unjust, unforgiving control-freak; a vindictive, bloodthirsty ethnic cleanser; a misogynistic, homophobic, racist, infanticidal, genocidal, filicidal, pestilential, megalomaniacal, sadomasochistic, capriciously malevolent bully.Rwy'n credu ei bod yn anodd iawn dadlau â'r dyfyniad. Dylai fod yn bwynt amlwg nad oes angen i Dduw fodoli er mwyn gallu barnu bod y disgrifiad o'r cymeriad a geir yn y Beibl yn un brawychus. Ond gan fod llawer o Gristnogion mor daer yn eu ffydd yn ei fodolaeth, a'n credu y dylem i gyd ei addoli, mae'n briodol cyfeirio at y portread ofnadwy ohono a geir yn eu hoff lyfr. Ydw, rwy'n casáu'r gormeswr mytholegol, ac mae'n beth da iawn nad yw'r fath fwystfil yn bod. Buasai byw yn y fath fydysawd yn annioddefol.
Mae 'na gwirionedd yn yr hen ddweud "y rhai sy'n curo sy'n caru". I gasáu rhywbeth mae'n rhaid buddsoddi rhywfaint o emosiwn a theimlad iddi, yn yr un modd a mae'n rhaid buddsoddi mewn cariad.
ReplyDeleteTybiwn bod 90% o "anghredinwyr" jyst dim yn credu a dyna fo; nid oes gyda nhw barn am grefydd gan bod crefydd yn dibwys iddynt; dydy o ddim yn effeithio ar eu bywydau, dydy o ddim yn bwysig, prin ei fod yn croesi eu meddyliau. Mae nhw'n mynd i gapel neu eglwys i ddathlu bedydd, priodas neu i goffa er mwyn parch i'r teulu heb malio dim am y geiriau na'r defod.
Yr wyt ti, ar y llaw arall, wedi postio tua 5 post y mis am 4 mlynedd yn gwrthwynebu crefydd, yr wyt ti'n buddsoddi emosiwn i fewn i dy anffyddiaeth, difyr byddid gwybod be sy'n gyfrifol am y fath buddsoddiad!
Rwy'n gwybod bydd y sylw yma'n cael ei ddileu, fel mae sylwadau pawb sy'n anghytuno a thi wedi eu dileu. Peth difyr ynddo'i hyn. Pam dy fod mor ansicr o dy ymrwymiad emosiynol i anffyddiaeth, dy fod yn methu goddef gwrthwynebiad iddi?