29/06/2014

Ynghylch gweld salwch meddwl ym mhobman

Cafwyd stori hyll iawn yn ystod yr wythnos, wrth i anffyddiwr o Nigeria gael ei osod mewn ward seiciatryddol, yn groes i'w ewyllys, gan fod ei deulu a doctor lleol yn teimlo bod peidio credu mewn duw yn arwydd amlwg o salwch meddwl.

Mae hyn yn amlwg yn farbaraidd a gwarthus. Ond dylid cymryd y cyfle i gofio bod honni, neu awgrymu, bod gan ein gelynion ideolegol ryw fath o salwch meddwl yn duedd gyffredin. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn euog ohono ar adegau, gan gynnwys fy hun (mae chwiliad sydyn ar y blog hwn yn dangos ei fod yn gyforiog o eiriau fel "gwallgof", "lloerig" a "nyts" wrth i mi ddisgrifio safbwyntiau gwrthun).

Ceir llawer o hanesion tebyg i'r hyn rydym newydd ei glywed o Nigeria. Mae'n hen dric gan adweithwyr crefyddol. Ond dylem gyfaddef bod anffyddwyr yn gallu bod yn euog o neidio i gasgliadau tebyg (gyda'r gwahaniaeth arwyddocaol nad ydym yn gweithredu ar hynny trwy roi pobl dan glo, wrth gwrs). Wrth ystyried creadyddion, neu derfysgwyr crefyddol, neu bobl sy'n credu bod lladd hoywon gyda cherrig yn syniad call, mae'n demtasiwn i'w pardduo trwy awgrymu bod ganddynt rhyw nam meddyliol.

Camgymeriad yw hyn, am sawl rheswm. Yn un peth, mae'n ddiog. Er mor ddwl yw creadaeth fel syniad, y gwir yw bod llawer o'r bobl sy'n ei arddel, a'n enwedig y sawl sy'n weithgar yn ei hyrwyddo, yn ddigon addysgedig a'n berffaith iach eu meddyliau. Mae eu "cyhuddo" o beidio bod yn eu iawn pwyll yn fodd eithaf cysglyd o'u diystyru heb orfod eu herio'n iawn. Trwy ddilyn camresymeg fel hyn i'r eithaf, byddai angen i ni daflu pawb sy'n anghytuno â ni i'r seilam agosaf ar eu pennau. Ysgrifennodd Michel Foucault lyfr enwog am hynny.

Yn ogystal, mae'n anwybyddu beth sydd yn mynd ymlaen mewn gwirionedd. Cymerer, er enghraifft, hanes ofnadwy Elliot Rodger, y llanc o Galiffornia a lofruddiodd chwech o'i gyd-fyfyrwyr (a chlwyfo 13) yn ddiweddar. Cyn y weithred, roedd wedi cyhoeddi "maniffesto" a sawl fideo'n egluro'i fwriad yn glir. Yn fras, roedd yn chwerw yn sgil ei ddiffyg lwc â merched. Mae'n debyg ei fod yn teimlo bod gan ferched ddyletswydd i fod yn serchus tuag ato, a'u bod yn haeddu cael eu cosbi am fethu â gwneud hynny. Misogynistiaeth, felly, oedd yr ysgogiad. Eto i gyd, greddf llawer iawn o sylwebwyr yn y dyddiau wedi'r gyflafan oedd neidio i'r casgliad bod ganddo salwch meddwl (yn enwedig gan fod sibrydion bod ganddo Asperger's, er na chafodd ddiagnosis ffurfiol erioed). Bu cryn dipyn o drafod o fewn y gymuned o anffyddwyr ar-lein hefyd, gan fod cysylltiad (neu beidio) anffyddiaeth â ffeminyddiaeth yn dipyn o bwnc llosg o fewn y mudiad ar hyn o bryd. Roedd yn syndod gweld cynifer o enghreifftiau o'r ddadl bod unrhyw un sy'n gwneud y fath beth yn sâl yn feddyliol trwy ddiffiniad. Short-cut diog yw hyn hefyd, ac mae'n fodd o osgoi gwynebu'r posibilrwydd bod rhywun fel Rodger wedi'i ddylanwadu gan fisogynistiaeth hyll o fewn ein cymdeithas.

Yn olaf, a'n bwysicaf oll, dylid osgoi'r duedd yma er mwyn peidio atgyfnerthu'r stigma sydd eisoes, yn anffodus, yn gysylltedig â salwch meddwl. Mae byw gyda phroblemau meddyliol yn ddigon anodd yn barod heb orfod dioddef gweld llond lle o amaturiaid hyderus yn taflu diagnoses tebyg, o'u cadeiriau breichiau, i gyfeiriad pob llofrudd ac eithafwr. Cyflwr meddygol yw salwch meddwl, nid label gyfleus i'w defnyddio fel arf wleidyddol.

No comments:

Post a Comment