02/06/2013

Araith Iolo Williams

Dyma araith danbaid ac emosiynol gan y naturiaethwr Iolo Williams. Mae'n werth gwrando ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am bolisïau amgylcheddol a chadwraethol, y gorffennol a'r presennol.


Mae'n anffodus iddo benderfynu siarad yn Saesneg am reswm mor wantan: rhag ofn iddo gael ei "gamddehongli". Mae hynny'n sarhaus iawn i'r cyfieithwyr, a dweud y lleiaf.  Er hynny, mae'r araith yn un bwysig. Mae'n siwr mai Iolo yw naturiaethwr amlycaf Cymru, ac os mai dyma sut y mae'n teimlo am yr hyn sy'n digwydd yn ein hardaloeddd gwledig, dylai pawb dalu sylw.

2 comments:

  1. Rwy'n cofio cael fy synnu pam wnes i ei gyfwrld am y tro cyntaf ryw chwech mlynedd yn ôl pa mor ddi-flewyn ar dafod ydoedd. Rwy'n cofio iddo ddweud nad oedd o blaid y Cynulliad ac yn casau defaid. :!

    ReplyDelete
  2. Ie, nid oes ganddo lawer o bethau da i'w dweud am y Cynulliad:

    “I don’t want to vote No because we’ve fought long and hard for the Assembly but I won’t be voting Yes because I’m so disappointed with the current Assembly government. I won’t give the individuals there any more powers. If we could move them out and get intelligent and erudite individuals in, I’d vote a resounding yes. It will be the first time ever that I haven’t voted.”

    Mae'n safbwynt od yn fy marn i. Os ydych yn anghytuno â pholisi'r llywodraeth, mae'r ateb yn weddol syml: pleidleisiwch dros lywodraeth wahanol.

    Mae'r problemau y mae'n eu disgrifio'n bodoli ers ymhell cyn dyfodiad y Cynulliad (gwnaethpwyd difrod mawr yn yr 1980au, er enghraifft).

    Mae angen pobl heb flewyn ar dafod, er hynny. Mae Chris Packham yr un peth.

    ReplyDelete