25/12/2013

"Gwir ystyr" y Nadolig

Fel y crybwyllais yn y cofnod diwethaf, celwydd llwyr yw'r honiad mai gŵyl Gristnogol yw'r Nadolig. Er mwyn egluro, nid wyf yn dweud bod dylanwad Cristnogaeth ar yr ŵyl wedi gwanhau yn yr oes fodern o'i gymharu â'r gorffennol. Na, fy mhwynt yw nad oedd y Nadolig erioed yn ŵyl Gristnogol yn y lle cyntaf.

Os oes "gwir ystyr" yn perthyn i'r ŵyl, yna honno, siwr o fod, yw gwledda gyda theulu a chyfeillion, a rhannu anrhegion. Roedd pobl yn gwneud hyn ar yr adeg hon o'r flwyddyn (i godi calonau yn ystod gaeafau oer a thywyll Ewrop, siwr o fod) ymhell cyn i Gristnogion geisio meddianu'r traddodiad er eu dibenion eu hunain.

Ystyriwch y symbolau a'r traddodiadau a gysylltir â'r Nadolig: coed addurnedig, anrhegion, Siôn Corn, twrci, mins peis, uchelwydd, ffilmiau gwael Tim Allen a Vince Vaughn, cracyrs ac yn y blaen. Dyma yw'r Nadolig i'r mwyafrif o bobl (hyd yn oed i lawer sy'n ystyried eu hunain yn Gristnogion), ond nid oes gan yr elfennau uchod unrhyw gysylltiad â genedigaeth honedig Iesu Grist (mae'r cysylltiad rhwng y Siôn Corn modern a'r esgob Cristnogol Sant Niclas yn ddigon tila mewn gwirionedd).

Nid yw'r Beibl yn dweud pryd y ganed Iesu. Ar ben hynny, nid oedd cyfrifiad ym Methlehem ar y pryd, ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod Herod wedi mynnu lladd babanod cyntaf-anedig yr ardal. Penderfyniad gwleidyddol a strategol post hoc oedd gosod dathliad y geni yng nghanol Rhagfyr: gwelodd y Cristnogion cynnar bod pobl y cyfnod eisoes yn mwynhau eu dathliadau eu hunain ar yr adeg honno o'r flwyddyn, ac roedd meddianu'r traddodiadau hynny'n fodd cyfleus o draflyncu arferion amgen ac o ddarbwyllo'r barbariaid i gofleidio'r ffydd newydd.

Ni ddylid talu'r mymryn lleiaf o sylw i geidwadwyr crefyddol sy'n cwyno dro ar ôl tro am "ryfel" chwedlonol yn erbyn "gwir ystyr" y Nadolig. Y gwrthwyneb llwyr sy'n wir: Cristnogion aeth ati i geisio (a methu) dwyn dathliad a fodolai'n barod.

Am y rheswm yma, nid oes rheswm i anffyddwyr deimlo'n euog o ragrith am ddathlu'r Nadolig. Mae'n ŵyl hollol seciwlar. Felly mwynhewch y gwledda a'r ymddiddan, a nadolig llawen i chi!

No comments:

Post a Comment