04/10/2011

Smonach Prifysgol Cymru

Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn dilysu graddau nad ydynt yn llwyr o dan ei rheolaeth ei hun o hyn ymlaen. Tros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi bod yn eithriadol o eiddgar i hybu ei hun yn rhyngwladol. Wel, byrbwyll yw'r gair mewn gwirionedd, gan fod sefydliadau mewn gwledydd tramor megis Malaysia a Thailand rhywsut wedi bod yn gwobrwyo graddau ffug yn enw'r Brifysgol. Mae'n anodd gen i ddeall sut mae'r Brifysgol wedi cael ei hun yn y fath sefyllfa a bod yn onest, ac mae'n deg holi pam fod ganddi bresnoldeb yn y fath lefydd yn y lle cyntaf. Mae Prifysgol Cymru unai wedi bod yn eithriadol o naïf a llac ei safonnau, neu'n llwgr. A'n hytrach na chael gwared ar yr is-ganghellor a fu'n goruchwylio hyn oll, mae wedi cael ei wneud yn lywydd. Rhyfedd o fyd.

Mae elfen arall i'r stori hon nad yw wedi denu cymaint o'r sylw yn y cyfryngau torfol, fodd bynnag, a hynny yw bod y Brifysgol hefyd wedi bod yn barod i ddilysu a chymeradwyo graddau mewn "triniaethau amgen". Mae hyn yn hysbys ers peth amser.

Rwyf eisoes wedi egluro fy marn am "driniaethau amgen" (yn fyr: nid ydynt yn gweithio ac mae'r ymadrodd ei hun yn ddi-synnwyr; petaent yn gweithio, ni fyddent yn amgen). Dylai fod yn destun cywilydd bod ein Prifysgol cenedlaethol, un o'n sefydliadau hynaf, yn fodlon puteinio'i henw trwy gefnogi a chymeradwyo'r fath rwtsh. Er nad yr elfen yma o'r stori yw'r un sydd wedi gyrru'r datblygiadau diweddaraf, ni allwn ond gobeithio bydd yr holl strach yn gorfodi'r Brifysgol i syllu ar ei hun a cheisio ad-ennill peth o'i hygrededd trwy stopio cefnogi siwdo-wyddoniaeth.

Roeddwn yn drist pan ddechreuodd Prifysgol Cymru ddatgymalu. Gradd Prifysgol Cymru (Caerdydd) sydd gennyf i. Erbyn hyn, fodd bynnag, nid wyf yn siwr bod hynny'n rhywbeth i fod yn falch ohono.

No comments:

Post a Comment