01/10/2011

Diwrnod Cabledd Rhyngwladol

Ddoe oedd y diwrnod y daeth y byd i gyd at ei gilydd yn llon er mwyn dathlu a gwerthfawrogi cabledd. Ni chefais gyfle i flogio ddoe yn anffodus, felly dyma gyfle, ddiwrnod yn hwyr, i ddymuno Dydd Cabledd hapus iawn i chi gyd. Fe ddathlais i drwy wisgo un o'm hoff grysau-t. Nid bod hwnnw'n eithriadol o bryfoclyd ar strydoedd Caernarfon, ond dyna ni.

Dim ond yn 2009 y dechreuodd y digwyddiad blynyddol yma, a hynny er mwyn coffáu dyddiad cyhoeddi'r cartwnau hynny o'r proffwyd Mwhamed yn Nenmarc a achosodd gymaint o strach rhyngwladol yn 2005. Fel mae'n digwydd, roedd safon y cartwnau hynny'n ddigon sâl ac nid oeddent yn eithriadol o glyfar na doniol. Ond cyd-destun yw popeth, ac oherwydd yr ymateb gwallgof a gafwyd iddynt, maent wedi magu pwysigrwydd ac arwyddocâd llawer iawn yn fwy na phetaent wedi cael eu hanwybyddu. Dyna pam mae'n werth arddangos detholiad ohonynt yma: nid oherwydd eu bod yn arbennig o dda, ond oherwydd yr egwyddor na ddylai unrhyw un feiddio ceisio atal hawl unrhyw un arall i'w cyhoeddi.




Ac fel bonws bach (ac er mwyn cael mymryn o gydbwysedd), dyma rywbeth gwahanol (a gwell) i chi ei fwynhau: Jesus Dress Up.

2 comments:

  1. Fe gei di weld fy lluniau "Muhammad in the dark", "Muhammad in the snow" a "Muhammad in camouflage" yma: http://www.patheos.com/blogs/friendlyatheist/2011/05/20/draw-muhammad-day-2-a-compilation/

    ReplyDelete