“The more the world moves away from God, the more clear it becomes that man, in the hubris of power, the void in his heart and in the longing for fulfillment and happiness, is losing ever more touch with his life,” he preached during the Erfurt’s service.Hubris?? Y Pab yn meiddio cyhuddo eraill o hubris? Y dyn sy'n honni mai ef yw lladmerydd duw ar y blaned - mai ef yw unig ddehonglwr dilys y bod goruchaf a greodd y bydysawd - yn dweud ein bod ni yn euog o hubris? Y Pab o bawb, arweinydd y genedl-wladwriaeth fwyaf bling erioed, sy'n defnyddio aur a chelfyddyd gain (sef ffrwyth ysbeilio hanner y byd) yn yr un modd ag y mae pawb arall yn defnyddio brics a mortar? Yr ateb gorau i hynny yw'r gosodiad campus isod:
Ond arhoswch! Dyma fwy:
“That’s why, during an ecumenical meeting, we shouldn’t just be dismayed by the divisions and separation, but we should thank God for all he has done to retain our unity and what he continues to give us.Haeraf yn llawen nad yw'n debygol y bydd llawer o Brotestaniaid y byd yn croesawu'r alwad yma am undod Gristnogol, yn dilyn ymdrechion diweddar y Pab i hollti'r Eglwys Anglicanaidd.
Mae hunan-gyfiawnder y Pab gymaint â hynny'n fwy annioddefol o ystyried y niwed ofnadwy mae ei eglwys yn parhau i wneud. Yn amlwg, mae hanes yr eglwys Babyddol yn ddigon erchyll mewn sawl ffordd, ond maent yn parhau i fod yn gyfrifol am farwolaethau miloedd ar filoedd o bobl hyd heddiw. Maent yn camarwain miliynau o bobl gyda'u celwyddon am HIV a chondoms gan olygu bod llawer ohonynt yn marw o AIDS, ac mae'n llawer gwell ganddynt weld miloedd o ferched yn marw yn hytrach na chael erthyliad. Mae gwaed y meirwon di-rif yma ar fysedd y Pab a'i ragflaenwyr. Pe na bai hynny'n ddigon ofnadwy, dyma'r eglwys sy'n esgymuno esgobion am ordeinio benywod ond sy'n credu mai'r modd cywir o ddelio ag offeiriaid sydd wedi camdrin plant yn rhywiol yw... cadw'n dawel am y peth a'u symud yn slei bach i blwyf arall (lle mae dwsinau o blant bach eraill ffresh yn barod i'w croesawu). Ie, polisi swyddogol yr eglwys Babyddol yw bod rhoi swydd i fenyw yn llawer gwaeth pechod anfaddeuol na threisio plant. Bu'r Pab ei hun, yn rhinwedd ei swydd flaenorol fel y cardinal Joseph Ratzinger, yn gyfrifol am jyglo paedoffiliaid o gwmpas; fe fynnodd, yn blwmp ac yn blaen, bod hygrededd yr eglwys Babyddol yn bwysicach o lawer na gwarchod plant bach rhag y bwystfilod yma a'u cociau rhychiog afiach budr.
Ond cofiwch: ni, bobl seciwlar, sy'n euog o hubris!
Rwyf wir yn casáu'r Pab a'i grefydd. Nis gwn paham yn y byd y byddai unrhyw un yn dymuno bod yn Babydd; mae wir yn ddirgelwch i mi, yn enwedig gan fod ambell un ohonynt yn ddigon addysgedig. Mae'r eglwys yn honni mai hwy yn unig yw cyfrwng awdurdod duw ar y ddaear a'n mynnu y dylem barchu ac ufuddhau gorchmynion yr awdurdod hwnnw. Pa hawl o fath yn y byd sydd ganddynt i fynnu'r fath beth, a phaham yn y byd y mae cymaint o bobl yn parhau i'w cymryd o ddifrif?
Os yw'r llith yma'n peri i amddiffynwyr yr eglwys fy ngalw'n wrth-Babyddol, yr unig beth y gallaf ei wneud yw cytuno ac ymfalchïo yn y label. Pa reswm sydd yna i beidio casáu cyfundrefn mor ragrithiol, sy'n hawlio awdurdod moesol dwyfol tra nad ydyw mewn gwirionedd fawr mwy na cabal rhyngwladol sy'n gwarchod treisiwyr plant?
O ystyried hyn i gyd, mae modd dweud yn deg mai'r eglwys yma, mewn termau absoliwt, yw'r sefydliad mwyaf dinistriol a niweidiol sydd erioed wedi bodoli. Byddai ei thranc yn destun llawenydd i mi, ac fe ddylai fod i bawb.
Gyda llaw, rwy'n defnyddio'r gair "Pabydd" yn hytrach na "Catholic" yn fwriadol. Rwy'n ymwybodol nad yw Pabyddion yn hoff ohono gan ei fod yn debyg iawn i "Papist", sy'n air ag iddo hanes o ddefnydd dilornus ac, wel, gwrth-Babyddol. Ond gan mai holl bwynt Catholigiaeth fel system yw mai un dyn yn unig sy'n gallu dehongli gair duw - ac felly'r unig "wirionedd" o bwys - ar ran y gweddill ohonom, ac mai'r dyn hwnnw yw'r Pab, rwy'n credu bod "Pabydd" yn air addas. Mae'n dangos, yn briodol ddigon, yr hubris, traha ac egotistiaeth sydd wrth wraidd y ddysgeidiaeth honno.
Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r Pab yn gwneud i mi chwerthin a gwylltio yn eu tro. Ar ôl poeri gwaed uchod, felly, mae'n briodol cloi gyda fideo sy'n gwneud i mi wenu o glust i glust yn ddi-ffael. Mae Tim Minchin braidd yn hit and miss yn fy marn i, ond dyma'i gampwaith:
Mae'n werth dyfynnu'r diwedd yn enwedig, sy'n gwneud pwynt hanfodol:
But if you find me more offensive than the fucking possibilityGwych.
The pope protected priests when they where getting fucking fiddly
Then listen to me motherfucker, this here is a fact
You are just as morally misguided as that motherfucking
Power hungry, self-aggrandised bigot in the stupid fucking hat.
Cofiwch gasáu'r Pab. Mae'n bwysig.
No comments:
Post a Comment