27/09/2011

Heddwch i lwch Wangari Maathai


Bu farw Wangari Maathai o Kenya - gwyddonydd, gwleidydd ac ymgyrchydd o blaid democratiaeth, amgylcheddaeth, datblygu cynaladwy a ffeminyddiaeth - ddydd Sul yn 71 oed. Yn ogystal ag ysgrif coffa y New York Times, mae'r darn yma o'r Economist o 2006 yn werth ei ddarllen hefyd.

Nid oes dwywaith yn fy marn i ei bod hi'n arwres. Roedd hi'n un o arloeswyr ecoffeminyddiaeth, sef y syniad bod amgylcheddaeth a'r frwydr dros hawliau i ferched fwy neu lai'r un peth, gan fod natur a merched ill dwy yn dioddef o dan ormes cymdeithas batriarchaidd. Afraid dweud nad yw'r syniadaeth honno'n un sy'n plesio llywodraethau dwyrain Affrica fel rheol. Er hynny, fe dreuliodd Maathau'r degawdau diwethaf yn ymgyrchu a'n gweithredu'n ddi-flino er mwyn gwarchod yr amgylchedd a sicrhau urddas i ferched, yn aml gyda syniadau syml fel rhoi arian i fenywod tlawd i blannu coed. Gwnaeth hyn i gyd er iddi gael ei herlyn gan yr awdurdodau (a'r cyn-arlywydd Daniel Arap Moi yn enwedig) ar sawl achlysur.

Hi hefyd oedd y ddynes gyntaf o ddwyrain Affrica i ennill PhD, ac yn 2004 fe enillodd Wobr Heddwch Nobel yn haeddiannol iawn.

Rwy'n credu mai'r stori ganlynol sy'n dangos ei chymeriad a'i chymhelliad orau. Mae'n debyg nad oedd ei cyn-wr, Mwangi Mathai, yn or-hoff o'r ffaith ei bod yn mynnu bod yn lletchwith trwy wneud pethau mor ofnadwy â meddwl drosti ei hun. Yn 1977 fe fynnodd hwnnw ysgariad, ac fe gafodd ei ddymuniad yn y llys. Cafodd ei bychanu'n ddifrifol yn ystod yr achos, ac fe'i gorchmynwyd i ollwng cyfenw'i gwr. Fel safiad, y cyfan a wnaeth oedd ychwanegu "a". Hefyd, fe alwodd y barnwr yn dwp a llwgr. Er bod hynny'n sicr yn wir (neu'n hytrach, oherwydd), fe'i carcharwyd am feiddio bod mor ewn.

Yn hytrach na phwdu a chilio, fodd bynnag, y cyfan a wnaeth y profiad yma oedd ei gwneud yn fwy penderfynol. Yn wir, aeth ati fwy neu lai'n syth i sefydlu'r Green Belt Movement, sef ei llwyddiant pennaf ac sydd bellach wedi'i efelychu ledled dwyrain Affrica. Aeth Maathai o nerth i nerth ar ôl hynny. Efallai, mewn rhyw ffordd od, mai i Mwangi Mathai, ei choc oen o gyn-wr, mae'r diolch am greu ymgyrchydd mor wydn a di-gyfaddawd ohoni.

Yr unig farc du yn ei herbyn hyd y gwn i yw sylwadau digon amheus o'i heiddo'n awgrymu pethau dwl am AIDS. Serch hynny, mae'n amhosibl peidio ei hedmygu'n fawr am yr hyn a gyflawnodd felly mae'n rhaid i mi faddau iddi am hynny.

No comments:

Post a Comment