25/09/2011

Dirywiad democratiaeth yn America

Pob hyn a hyn, bydd y cylchgrawn Americanaidd Rolling Stone yn cyhoeddi erthyglau cwbl hanfodol y dylai pawb eu darllen. Dyma'r enghraifft ddiweddaraf. Mae'n trafod ymdrechion plaid Weriniaethol yr Unol Daleithiau i'w gwneud yn anodd i gefnogwyr y blaid arall, y Democratiaid, fwrw pleidlais mewn etholiadau. Mae myfyrwyr, lleiafrifoedd ethnig, pobl dlawd a chyn-garcharwyr yn tueddu i ffafrio'r Democratiaid, a bwriad digywilydd y Gweriniaethwyr yw sicrhau bod cyn lleiad ohonynt yn gallu mynd allan i bleidleisio ag sy'n bosibl. Maent yn mynd ati mewn modd systematig, bwriadol a haerllug i ddatgymalu democratiaeth eu gwlad ac fe ddylai fod yn sgandal rhyngwladol.

Eu hesgus yw eu bod yn atal "twyll etholiadol", er nad oes unrhyw dystiolaeth o gwbl bod problem o'r fath yn bodoli. Maent yn ceisio darbwyllo pawb bod twyll etholiadol yn rhemp yn America, ond mae hynny'n gelwydd noeth. Yr unig fygythiad i ddemocratiaeth deg yno yw'r Blaid Weriniaethol wallgof ei hun. Moch.

No comments:

Post a Comment