Dyma'r union fath o beth sy'n fy nghorddi: y dybiaeth hurt yma bod daliadau crefyddol yn sbeshal rhywsut, ac y dylai'r byd i gyd yn grwn ildio a mynd allan o'i ffordd er mwyn cydymffurfio. Nid oes unrhyw reswm o gwbl yn y byd i barchu credoau gwirion Murray.
Gan fod Murray'n chwaraewr rygbi proffesiynol, a bod disgwyl i bobl felly unai 1) chwarae rygbi cystadleuol, neu 2) ymarfer y gamp honno, a hynny fwy neu lai bob dydd, ni allaf ond gobeithio bod ei glwb yn dal eu gafael ar 1/7 o'i gyflog. Os nad yw'n barod i fodloni amodau ei gytundeb, dylai gael ei gosbi.
Nid yw'r byd yn troelli o gwmpas ffydd bersonol Murray. Ni ddylid rhoi credoau crefyddol ar bedestal uwchlaw credoau eraill, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen. Fel arall, byddai'n amhosibl dod i ben â gofynion mympwyol pob Tom, Dic a Harri.
Yr egwyddor yna sy'n bwysig. Ond yr hyn sy'n gwneud ei benderfyniad gymaint â hynny'n fwy pathetig yw nad oes unrhyw sôn o gwbl yn y Beibl ynglyn â pha ddiwrnod yn union yw'r diwrnod gorffwys. Yn wir, dydd Sadwrn ydoedd yn wreiddiol, fel mae pob Iddew'n gwybod. Byddai'n ddifyr gweld pa newidiadau fyddai Murray'n mynnu eu gweld yn y calendr rygbi rhyngwladol petai'r traddodiad hwnnw wedi parhau gyda Christnogaeth! Dyma bwt o'r hyn a ddywedodd y prop:
"It's basically all or nothing, following Jesus. I don't believe in pick 'n' mix Christianity. I believe the Bible is the word of God, so who am I to ignore something from it?Rwy'n cymryd felly bod Murray'n dilyn Lefiticws i'r lythyren, a'n mynd ati ag awch i ladd hoywon ac unrhyw un sy'n gwisgo dillad wedi'u gwneuthuro o ddau wahanol fath o frethyn (yn ogystal â'r holl bethau boncyrs eraill a geir yn ei hoff lyfr). Petai'n aros am eiliad i ystyried ei resymeg hurt, hwyrach y byddai'n sylweddoli nad dyfais rethregol mo'r ail baragraff uchod, eithr syniad da.
"I might as well tear out that page then keep tearing out pages as and when it suits me. If I started out like that there would soon be nothing left."
Fyddet ti'n dweud hyn i'w wyneb? :P
ReplyDeleteO byddwn wrth gwrs, gair am air. Cyn rhedeg i ffwrdd cyn gynted â phosibl. Ahem.
ReplyDeleteTybed a yw Murray'n un o'r athletwyr hynny sy'n diolch i dduw am bob buddugoliaeth? Fel petai duw'n dewis ochr a'n dymuno i'r tîm arall golli. Mae hynny'n rhywbeth arall sy'n codi gwrychyn; mae pobl felly'n meddwl eu bod yn ostyngedig a didraha, ond y gwrthwyneb sy'n wir. Mae tybio bod duw'n eich cefnogi chi'n benodol ar draul eich gwrthwynebwyr yn uffernol o drahaus a hunan-gyfiawn i'w ddweud.
Rhaid dweud nad wyf wedi gweld unrhyw sylwadau i'r perwyl hwnnw gan Murray ei hun, ond maent yn bur gyffredin a'n mynd ar fy nerfau.
Mae yna rywbeth eithaf od am unrhyw un sy'n ymroi i chwarae unrhyw gamp ar y lefel yna yn fy marn i. Os wyt ti'n gwylio fideos 'tu ôl i'r llenni' chwaraeon rwyt ti'n eu gweld nhw'n mynd i ryw fath o berlewyg ysbrydol cyn y gêm. Nid yn unig chwaraewyr rygbi. Dw i wedi cyfweld ambell seiclwr yn fy nydd ac yn gwbl sicr nad oes ganddyn nhw unrhyw fywyd na phersonoliaeth y tu hwnt i bwmpio eu coesau drosodd a drosodd, a gwneud hynny yn gynt na'u gwrthwynebwyr. Weird. Mae pobol fel yna yn chwilio am rywbeth - Duw, medal aur, record y byd. Mae 'na dwll yn eu bywydau nhw a does dim rhyfedd bod cymaint yn troi at y gasgen gwrw ar ôl ymddeol.
ReplyDeleteTybed a fyddai'r Alban wedi ennill petai Mr Murray wedi chwarae.
ReplyDelete