Yn bendant, mae fy mhrofiad i'n cyferbynnu'n llwyr â stori Barry, perchennog y blog ardderchog Atheos Godless ac un o'm darllenwyr innau (os caf fod mor hy â thybio ei fod yn parhau i bigo draw). Yn y blogiad yma, mae Barry'n adrodd sut y bu'n Gristion efengylaidd am flynyddoedd maith, a hynny hyd yn hynod o ddiweddar. Yn wir, o ddarllen archifau ei flog (a'i gyn-flog o'i gyfnod crefyddol, Honest Faith), mae'n drawiadol pa mor chwim fu ei drawsnewidiad o fod yn Gristion pybyr i fod yn anffyddiwr tanbaid.
Mae lle i ddadlau mai'r sawl sydd yn y safle hwylusaf i ddatgymalu'r dadleuon o blaid ffydd grefyddol yw'r rhai sydd wedi arddel yr union ffydd honno yn y gorffennol. Gellir gweld pa mor ddefnyddiol yw profiad o'r fath trwy ddarllen erthyglau huawdl Barry ar ei flog. Creaduriaid prin eithriadol yw'r Cristnogion sy'n deall athrawiaethau eu crefydd eu hunain yn well nag y mae Barry, gyda'i brofiad fel pregethwr a'i radd mewn theoleg. Mae ganddo arf werthfawr yn hynny o beth, gan fod ganddo'r gallu i feddwl fel Cristion pan fo angen, cyn dychwelyd i'r byd rhesymegol drachefn er mwyn dangos pam fod meddwl fel hynny mor gyfeiliornus.
Mae stori fy anffyddiaeth fy hun, fodd bynnag, yn eithaf diflas o gymharu. Nid oes gen i dröedigaeth fawr i sôn amdani, ac rwyf o hyd wedi ystyried crefydd a duw yn gysyniadau od. Yn enwedig mewn gwledydd fel Cymru lle mae crefydd wedi dirywio, mae llawer o bobl nad ydynt yn grefyddol ond nad ydynt chwaith yn meddwl llawer am y pwnc. Felly oeddwn i pan yn blentyn ac yn f'arddegau cynnar. Rwy'n dychmygu bod hynny'n wir am y rhan fwyaf o bobl; mae gan blant bethau gwell i feddwl amdanynt wedi'r cyfan. Er hynny, roedd Mam yn arfer fy llusgo i'r capel a'r ysgol Sul. Roedd hynny'n ddigon croes i'm hewyllys, ond gydag amser fe ystyfnigais (er rwy'n amau mai ail reswm yn unig oedd fy niffyg ffydd, ac mai'r pennaf oedd y diflastod). Stopio mynd i'r ysgol Sul oedd y frwydr gyntaf i mi ei hennill. Gyda hynny aeth yr ymweliadau â'r capel yn brinach a phrinach, nes i mi roi fy nhroed i lawr unwaith ac am byth pan oeddwn tua 13 neu 14 oed.
Rwy'n cofio'n pryd eginodd fy niddordeb dyfnach mewn crefydd a'r ddadl yn erbyn ffydd. Roeddwn yn astudio ar gyfer arholiad bioleg pan yn rhyw 16 neu 17, a'n ymchwilio ar y we. Daethais ar draws gwefan am fioleg esblygiadol, lle roedd yr awdur yn dyfynnu negeseuon a anfonwyd ato gan Gristnogion ffwndamentalaidd, ac yna'n rhwygo'u dadleuon yn ddarnau. Erbyn hyn ni allaf gofio'r wefan yn fy myw, ond ar y pryd fe dreuliais lawer o amser yn darllen yn awchus a'n rhyfeddu at y pethau rhyfeddol mae rhai pobl yn eu credu. Roedd y peth yn agoriad llygad a dweud y gwir, oherwydd nid oeddwn wedi ystyried bod y fath bobl yn bodoli. Nid oeddwn yn gwybod cymaint â hynny am esblygiad ar y pryd wrth gwrs, ond roedd dadleuon y Cristnogion yn amlwg yn wirion a di-synnwyr i mi, felly roedd yn ddifyr gallu dysgu pam yn union roeddent yn anghywir. Trwy'r wefan angof yma fe ddarganfyddais y Talk Origins Archive (sy'n segur erbyn hyn, yn anffodus, ond mae'n parhau;n adnodd amhrisiadwy), ac o hynny ymlaen rwyf wedi bod â diddordeb mawr yn y ffordd y mae credoau crefyddol yn gwrthdaro â'r byd go iawn. Mae hynny yn ei dro wedi esgor ar ddiddordeb anferth ynof ym maes crefydd a'r 'cwestiynau mawr' yn gyffredinol.
Amatur ydwyf yn hyn o beth. Pan euthum i Brifysgol Caerdydd yn 2002, gwneud hynny er mwyn astudio biocemeg a wnaethais yn wreiddiol. Nid oedd y flwyddyn gyntaf honno'n llwyddiannus iawn, am ba bynnag reswm, ac y flwyddyn ganlynol fe newidiais drywydd a dechrau astudio'r Gymraeg yn lle. Mae fy niddordeb yn y gwyddorau yn parhau, fodd bynnag.
Agnostig oeddwn yn galw fy hun am sbel. Un dydd, fodd bynnag, fe sylweddolais mai'r cwbl yw pobl sy'n galw'u hunain yn agnostig yw anffyddwyr sydd unai a) yn amharod i dderbyn y ffaith eu bod yn anffyddwyr, neu b) rhywun tebyg i'r cymeriad ar y chwith isod:
Rwy'n credu mai b) oeddwn i, yn ceisio ei chael hi'r ddwy ffordd. Mae pam nad yw agnosticiaeth yn foddhaol yn fater ar gyfer post ar wahan felly ni fanylaf ymhellach yma, dim ond i ddweud bod y blogiad yma ar y pwnc o eiddo Barry yn werth ei ddarllen.
Ar ôl arbrofi am gyfnod byr iawn gydag ignosticiaeth, rwyf bellach yn anffyddiwr cadarn a thanbaid ers rhai blynyddoedd. Efallai bod hynny'n od o feddwl cyn lleied o amlygrwydd mae crefydd wedi'i gael yn fy mywyd, ond am rhyw reswm neu ei gilydd mae'r gwrthdaro rhwng crefydd a realiti'n bwnc nad wyf byth yn blino darllen amdano. Dyma'r cwestiynau pwysicaf oll, wedi'r cyfan. Yn ogystal, rwy'n credu bod gwirionedd yn bwysig er ei fwyn ei hun.
Er ein bod yn ffodus yng Nghymru bod ein cymdeithas yn gymharol seciwlar erbyn hyn, rwyf o hyd yn gweld bod crefydd yn tueddu i gael ei roi ar bedestal a'n mynnu (a'n derbyn) parchusrwydd a statws nad yw'n ei haeddu. Mae crefydd yn niweidiol ar y cyfan, ac mae'r elfennau ohono a gymeradwyir fel rhinweddau yn bethau nad oes gan grefydd fonopoli drostynt; nid oes angen duw o gwbl er mwyn eu cyfiawnhau. Tra na chaiff crefydd hawlio perchnogaeth ar y pethau hynny felly, mae'n rhaid iddi dderbyn y bai am annog rhagfarn a gormes, llesteirio chwilfrydedd am y byd o'n cwmpas, ac arafu cynnydd ein cymdeithas. Ymgais fach bitw yw'r blog yma felly i herio'r parch anhaeddiannol a roddir i'r credoau gwirion hyn.
Rwy'n dal yma :o) Diolch am dy sylwadau caredig.
ReplyDelete"Ymgais fach bitw yw'r blog yma felly i herio'r parch anhaeddiannol a roddir i'r credoau gwirion hyn."
Dyna beth sydd ei angen - mwy o bobl i herio'r meddylfryd crefyddol sy'n mynnu bod pawb yn parchu agweddau a chredoau nad yw'n haeddu parch.
Pe bait wedi ddatgan dy fod yn anffyddiwr, yn credu bod pob sôn am grefydd yn rwtsh potes maip, erstalwm, mi fyddet wedi cael dy grogi (os nad gwaeth)!
ReplyDeleteI raddau y ddadl rhwng crefyddwyr a'r dadl rhwng merthyrdod Anghydffurfiol a Chatholig sydd wedi esblygu i roi'r hawl i ti byw fel anffyddiwr.
Oni bai am ferthyrdod John Penri a St John Roberts, dros rhyddid grefyddol gyfreithiol, ni fyddai'r hawl i ti ddatgan dy anghrediniaeth ar dy flog yn bodoli!
Dylid parchu hynny fel rhan o Hanes Cymru!
Mae cyfraniad y ddau John i dy achos di mor fawr ag ydoedd i'w hachosion crefyddol eu hunain!