20/05/2012

Credoau gwirion eithriadol poblogaidd a gwallgofrwydd torfeydd

Rwyf bron â gorffen darllen Extraordinary Popular Delusions And The Madness Of Crowds gan Charles MacKay, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1841. Hwyrach mai dyma'r llyfr cyntaf i arddel sceptigiaeth fodern.

Yr hyn yw'r llyfr yn y bôn yw cyfres o hanesion am lawer iawn o bethau twp y mae pobl wedi'u credu neu eu gwneud ar hyd y blynyddoedd. Ceir penodau am swigod economaidd y Mississippi Company a'r South Sea Company yn y ddeunawfed ganrif, ac am y gwallgofrwydd tebyg yn yr Iseldiroedd ynghylch tiwlipau. Cawn hefyd drafodaethau ar enghreifftiau lu eraill o dwpdra afresymegol, megis proffwydi apocalyptaidd, lol ynghylch ysbrydion, y Crwsadau, dedfrydu "gwrachod", ac adran faith am alcemeg.

Yr hyn sydd wedi fy nharo drwy gydol y llyfr yw cyn lleied y mae pethau wedi newid yn ystod y 171 o flynyddoedd ers ei gyhoeddi. Mae llawer wedi gwneud y pwynt bod y penodau economaidd yn enwedig yn bwysig a pherthnasol o hyd wrth ystyried helynt presennol y byd ariannol. Yn ogystal, mae yna bobl sy'n parhau i ddarogan diwedd y byd, mae yna raglenni poblogaidd ar y teledu am "chwilio" am "ysbrydion", mae pobl yn parhau i ladd ei gilydd fesul miloedd ynghylch Jerwsalem, ac mae'r grêd mewn gwrachod ac ellyllon yn gyffredin o hyd mewn rhannau mawr o'r byd a hyd yn oed ym Mhrydain. Yr unig ffenomen sydd efallai wedi diflannu yw alcemeg. Yn y gorffennol roedd llawer o bobl wedi gwastraffu blynyddoedd yn y gobaith o ddarganfod dull o droi metelau fel plwm yn aur (roedd hyd yn oed y meddyliau craffaf yn euog o hyn, gan gynnwys Isaac Newton). Mae'n deg dweud bod hynny'n llai o broblem bellach.

Mae'r llyfr yn un anferth, ac mae'r hanesion yn teimlo'n ddi-ddiwedd ar adegau (sy'n dangos cymaint o bobl sydd wedi credu pethau rhyfedd, am wn i). Ond mae perthnasedd cyfoes cymaint o'r straeon yn dychryn rhywun, braidd. Byddai disgwyl i'r byd fod wedi symud yn ei flaen cryn dipyn ers 1841, ond yn anffodus nid yw hynny'n wir i'r un graddau ag yr hoffem feddwl.

No comments:

Post a Comment