20/05/2012

Diwrnod gwneud llun o Mohammed

Heddiw rydym yn dathlu Diwrnod Dylunio Mohammed. Fe ddechreuodd fel protest yn erbyn penderfyniad y sianel deledu Americanaidd Comedy Central i sensro pennod o'r gyfres South Park oherwydd ei bod yn gwneud jôcs ar draul y proffwyd.

Mae'n bwysig peidio gadael i fwlis gael feto ar yr hyn sy'n dderbyniol mewn celfyddyd neu mewn trafodaeth. Os yw islam yn gwahardd creu delweddau o Mohammed na gwneud hwyl ohono, yna mae gan fwslemiaid bob hawl i beidio gwneud hynny. Ni ddylem adael iddynt fynnu bod pawb arall yn cydymffurfio yn y fath ffordd, fodd bynnag. Oherwydd y mater pwysig hwn, rwyf wedi mynd ati i roi fy noniau darlunio anhygoel ar waith. Boneddigion a boneddigesau, cyflwynaf fy Mohammed:

Os oes gennych gyfrif Facebook, gallwch weld campweithiau llawer o bobl eraill fan hyn. Ymunwch yn yr hwyl!

1 comment: