29/05/2012

Safiad dewr Esgob Wrecsam o blaid rhagfarn, anghyfartaledd a chasineb

Mae Esgob Wrecsam, Edwin Regan, wedi dweud wrth raglen Hacio y byddai'n well ganddo fynd i garchar yn hytrach na phriodi cyplau cyfunrywiol.

Ymddengys bod llawer yn parhau i gamddeall cynlluniau arfaethedig llywodraeth Prydain ar y mater yma. Sawl gwaith sydd angen dweud mai dim ond sectau crefyddol sy'n cytuno i briodi cyplau hoyw fydd yn gwneud? Mae'r ffaith mai dim ond y crynwyr a'r undodiaid sydd wedi mynegi'u parodrwydd yn dangos nad oes unrhyw beth o gwbl am newid i'r Esgob Regan. A dweud y gwir, rwy'n ei chael yn anodd credu nad yw'r dyn yn deall hyn mewn gwirionedd; gan fod y pwnc yn un mor amlwg bwysig iddo, mae'n deg tybio ei fod wedi mynd i'r drafferth o wneud ychydig eiliadau o waith ymchwil. Yr unig gasgliad amgen felly yw ei fod yn camarwain yn fwriadol er mwyn gallu chwarae rhan y merthyr hunan-gyfiawn (er mor ddi-sail fyddai hynny). Mae'r ymddygiad yma'n bur gyffredin ymysg cristnogion rhagfarnllyd ac annifyr fel yr esgob.

Dylai Hacio fod wedi egluro pa mor bitw yw'r mesur mewn gwirionedd. Mae'n anghyfrifol creu'r argraff bod pob eglwys, capel, synagog a mósg am orfod priodi cyplau hoyw; mae'n anghywir a gall beri i lawer o bobl, a fyddai fel arall yn lled-gefnogol, wrthwynebu'r mesur yn ei chyfanrwydd.

Wedi dweud hynny, rwyf o'r farn y dylent orfod priodi pob cwpl sy'n dymuno gwneud. Mae cynnal seremoni briodas yn wasanaeth gyhoeddus. Mae'r wladwriaeth yn cydnabod priodasau, ac yn rhoi hawliau, statws a manteision i barau priod nad yw cyplau eraill yn cael eu mwynhau. Cyn belled ag y mae hynny'n wir, ni welaf reswm yn y byd pam y dylai sect grefyddol gael eu heithrio rhag y gwaharddiad ar gamwahaniaethu y mae pawb arall yn gorfod ei ufuddhau. Os nad ydynt yn fodlon priodi cyplau cyfunrywiol - hynny yw, os yw eu rhagfarn gwrth-gyfunrywiol yn bwysicach iddynt na'r ddefod ei hun - mae hynny'n dweud cyfrolau am eu blaenoriaethau ac efallai dylent roi'r gorau i'r cwbl.

Nid dyma fydd yn digwydd gyda'r ddeddf arfaethedig, a chamarwain yw awgrymu fel arall. Ond gyda gwasanaethau cyhoeddus fel hyn, yn y pen draw dylid unai trin pawb yr un fath neu ddim o gwbl.

No comments:

Post a Comment