Rwyf wedi bod yn weriniaethwr erioed, ond mae fy safbwynt wedi caledu'n arw dros y flwyddyn ddiwethaf neu ddwy. Cyn hynny, roeddwn yn cytuno'n llwyr bod y teulu brenhinol yn gysyniad od a dwl, ond nid oeddwn yn credu bod fawr o ddiben nac angen gwastraffu llawer o amser yn ymgyrchu'n ei erbyn. Erbyn hyn, fodd bynnag, rwy'n casáu'r holl falu cachu gyda chas perffaith a'n dyheu cael gwared arnynt. Mae'n siwr bod amhosibilrwydd dianc rhag y briodas fawr y llynedd a holl lol y jiwbilî y penwythnos yma wedi bod yn ffactorau allweddol yn y chwerwi llwyr yma.
Ffactor arall yw rhywbeth rwyf wedi ceisio'i drafod o'r blaen, sef y sylweddoliad bod anffyddwyr a gweriniaethwyr yn wynebu brwydrau pur debyg. Gan fy mod eisoes wedi hen ymstyfnigo yn fy anffyddiaeth, er cysondeb roedd rhaid gwneud yn yr achos arall hefyd.
Er mai lleiafrif o Brydeinwyr sy'n mynychu gwasanaethau crefyddol erbyn hyn, mae'n siwr bod mwyafrif, pe gofynnech iddynt, yn rhyw gredu bod ffydd grefyddol yn "beth da". Yn yr un ffordd, mae mwyafrif o Brydeinwyr yn lled-gefnogol i'r frenhines (yn wir, mae'r ffigwr o oddeutu 80% wedi bod yn ddigon cyson ers rhai degawdau) hyd yn oed os yw llawer, pe gofynnech, yn cydnabod ei bod yn ffrwyth system od, hynafol neu annemocrataidd. Hynny yw, er bod llawer iawn o bobl nad ydynt yn cefnogi crefydd neu'r frenhiniaeth yn eithriadol o frwd, cymharol brin yw'r sawl sy'n barod i gymryd y cam pwysig hwnnw a dadlau'n gyhoeddus yn eu herbyn. Mae anffyddwyr a gweriniaethwyr yn aml yn ennyn ymateb digon tebyg pan maent yn mynegi eu barn ar y pynciau: difaterwch, codi ysgwydd a'r cwestiwn "pa ots? Mae'n ddigon di-niwed". Ein gorchwyl yn y ddau achos yw atgoffa pawb nad yw hynny'n wir.
Un gobaith sydd gennyf yw mai hoffter personol tuag at Mrs Windsor sy'n gyfrifol am ddyhead cymaint o bobl i addurno'u partïon stryd gyda'i hwyneb y penwythnos yma. Nid oes unrhyw un o dan 65 oed yn cofio unrhyw un arall ar yr orsedd, ac er popeth y mae'r hen wraig yn ei chynrychioli, mae'n wir ei bod yn ymddangos fel person digon addfwyn a di-dwyll. Mae lle i gredu nad yw ei mab hynaf, ar y llaw arall, yn dod yn agos ati o ran poblogrwydd. Gall ddiwrnod coroni brenin Charles III felly fod yn allweddol iawn yn hanes yr ymgyrch yn erbyn statws anhaeddiannol ei deulu. Oherwydd hyn, ac er mor neis yw Mrs Windsor yn ôl pob golwg, mae'n anodd gwadu fy mod yn edrych ymlaen at ei marwolaeth neu ei hymddeoliad. Ar ôl rhai wythnosau o alaru cyfoglyd, ac ar ôl i'w mab fwynhau rhyw fath o "Charles bounce" anochel am gyfnod, rwy'n gobeithio y daw'r deyrnas od yma, yn hwyr neu'n hwyrach, i sylweddoli bod angen cael gwared ar y gyfundrefn gyfansoddiadol ryfeddol fydd wedi'i benodi'n bennaeth ar y wladwriaeth yn ddi-wrthwynebiad.
Rwyf wastad wedi dweud mai'r ddadl fwyaf yn erbyn y Frenhiniaeth yw'r geiriau "y brenin Charles III".
ReplyDeleteGallwn ond obeithio bod Charles yn hawlio'r goron am ddigon o ddegawdau fel ei fod yn difetha hygrededd y frenhiniaeth yn ddigonol cyn i'w fab gael y cyfle i'w adfer unwaith eto.
ReplyDeleteMae'n siwr y bydd Wil yntau'n datblygu'n hen ddyn digon od gydag amser (mae'n anodd osgoi'r peth yn y fath sefyllfa) ond go brin y bydd mor amhoblogaidd â'i dad.
Fel mae'n digwydd, rwyf wedi bwriadu blogio am safbwyntiau dw-lal Charles ynghylch amryw bethau ers sbel. Mae'r dyn yn gyfuniad rhyfedd o aristocrat lletchwith a hipi "oes newydd". Mae'n gwbl anwybodus ond swnllyd (ac mae'r ymyrraeth di-baid hwnnw'n mynd yn groes i'w rôl honedig).
Beth sy'n fy nharo i'n od yw'r gwrthddywediad rhwng y syniad yma bod y Teulu Frenhinol yn well na ni ac y dylen ni i gyd benglinio o'u blaen nhw yada yada... a'r lein ma sy'n cael ei wthio yn y wasg o hyd eu bod nhw'n 'bobol cyffredin' sydd yr union yr un fath a ni.
ReplyDeleteMae popeth am y TB (y diciau fel y dylen ni'r Cymry eu galw) yn hollol wrthyn i mi, a dw i ddim cweit yn deall pam nad yw'r rhan fwyaf o dringolion y Deyrnas Unedig yn teimlo'r un fath. Mae'n nhw'n ddigon abl i weld ffaeledau Cameron a'i griw, felly pam nad ydyn nhw'n gallu gweld ffaeleddau llawer mwy amlwg y TB?!
Mae'n rhyfeddol. Rwyf wedi bod yn ceisio damcaniaethu ynghylch y peth dros y dyddiau diwethaf.
ReplyDeleteY ffactor pennaf efallai yw'r obsesiwn ehangach gyda selebs. Mae llawer fel petaent yn mwynhau'r ffaith bod rhai pobl, megis y teulu brenhinol, yn byw eu bywydau mor gyhoeddus. Efallai bob pobl yn mopio'n wirion am y frenhines am yr un rheswm yn union y mae Peter Andre mor boblogaidd; prin iawn yw'r pethau amdanynt nad ydynt yn hysbys. Mae'r holl beth ychydig bach fel The Truman Show.
Hefyd, mae'r Deyrnas Gyfunol yn genedl-wladwriaeth od sy'n cynnwys llawer o elfennau gwahanol. Hwyrach bod yr holl lol brenhinol yma'n cynnig rhyw fath o undod a bod rhai pobl yn gweld angen y fath beth. Pwy a wyr.
Mae hyn yn cadarnhau'r hyn y dywedais uchod, sef bod Charles yn amhoblogaidd a bod cefnogaeth i'r system frenhinol ar hyn o bryd yn ddibynnol ar y ffaith bod cymaint yn hoffi Elizabeth Windsor ei hun.
Rhaid tynnu sylw at y darn yma:
"Roedd 52% o’r rheini bleidleisiodd o blaid Llafur yn yr etholiad cyffredinol yn 2010 yn credu y dylai Dug Caergrawnt, Tywysog William, fod yn Frenin yn ei le."
Mae 52% felly angen cael dweud eu dweud ynghylch pennaeth nesaf y wladwriaeth Brydeinig. Mae'r 52% yna felly'n weriniaethwyr! Mae angen egluro hyn wrthynt.
Dw i'n siwr unwaith y bydd Charles ar yr orsedd fe fydd y peiriant PR yn brwydro'n ffyrnig er mwyn sicrhau ei fod yn troi'n hynod boblogaidd dros nos. Fe fydd dathliad mawr arall fydd yn costio £1.3 biliwn pan gaiff ei goroni yn siwr o wneud y tro. Wedi'r cwbwl maen nhw wedi llwyddo i droi Dug Caeredin yn 'loveable rogue'...
ReplyDeleteYr wyf yn weriniaethwr hefyd. Yng nghyd-destun Cymru, fodd bynnag, yr wyf yn wastad meddwl mai'r gelyn gwirioneddol i Genedlaetholwyr Cymraeg yw'r Tywysog yn hytrach na'r Frenhines. Mae'r ddau yn Saeson ond mae'r Tywysog yn hawlio'r teitl "Cymru". I ni, mae mwy o'r sarhad a'r difrod yn dod o'r Tywysog nac y Frenhines. Dwi'n berffaith fodlon i'r Frenhines fod yn Frenhines Lloegr yn enwedig os gall Cymru cael Llywydd dros dro yn lle Tywysog am oes.
ReplyDeletePam nad oes ymgyrch yn Gymru i gael gwared a'r teitl Tywysog unwaith ac am byth? Beth am gael etholiad bob 3 i 5 mlynedd ar gyfer "Llywydd Cymru". Ni fydda'r sawl sy'n ennill y teitl yn gorfod cynnig eu hunain hyd yn oed, ond byddai'r broses yn taflu goleuni ar natur annemocrataidd y Frenhiniaeth.
Mae hi'n bwysig i mi mai Charles fydd y Tywysog diwethaf a ni chawn byth gael tywysog Wil. Does neb arall yn cytuno?
Cytuno'n chwyrn.
ReplyDeleteRwyt yn llygad dy le bod y teitl "Tywysog Cymru" yn niweidiol iawn.
Mynnwn yr hawl i ethol Dai Jones Llanilar yn llywydd anrhydeddus i gynrychioli ein gwlad.
Hei mae wedi dechrau'n barod:
ReplyDeletehttp://www.telegraph.co.uk/news/uknews/the_queens_diamond_jubilee/9312742/Prince-Charles-At-ease-with-himself-and-the-nation.html
Dylan - Mae gennym lawer yn gyffredin dwi'n meddwl - chdi a fi. Rwyf innau wedi bod yn anffyddiwr ac yn weriniaethwr ers roeddwn yn hogyn bach fel chdithau.
ReplyDeleteYn ddiweddar rwyf wedi dechrau darllen dadleuon anffyddiaeth yn Saesneg a hefyd wedi disgyn dros dy flog.
Mae anffyddwyr yn ffond o gyhuddo pobol grefyddol o "wish thinking". Beirniadaeth gyfeillgar yw fy mhwrpas yn fan hyn ond mi welaf wish thinking yn y post yma mae gen i ofn.
Un gobaith sydd gennyf ...
Mae lle i gredu ...
Gall ddiwrnod coroni brenin Charles III felly fod yn allweddol iawn ...
ar ôl i'w mab fwynhau rhyw fath o "Charles bounce" anochel am gyfnod, rwy'n gobeithio ...
Mae'r gobeithion yma yn dibynnu ar agwedd Saeson tuag at eu Brenhiniaeth. Rwyf yn byw yn Lloegr ac wedi byw yma ers dros 30 mlynedd. Yn fy marn i does DIM gobaith i'r agwedd newid yn y ganrif hon. Mae'r teulu wedi cael eu hyfforddi rhy dda a gyda'r wasg a'r senedd tu ol iddynt fe fydd y dymuniadau da yn symud o un cenhedlaeth i'r nesa. Ond mae yna reswm i gadw gobaith mewn cyd-destun Cymreig.
"Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi". Ond pa bryd a gannwyd Cymru? Fe wnaeth llywodraeth Glyndwr ddim parhau yn hir. 13 blwyddyn ers dechrau'r cynulliad. Os disgwyl ydym am wir annibyniaeth, mae'r wlad heb ei genni eto. Felly mae hi'n bosib meddwl am Gymru fel wlad newydd nid hen. A pwy fysa'n creu gwlad newydd yn frenhiniaeth? Neb!
Dyna pam rwyf yn gweld hi'n bwysig i'r Cymry ymgyrchu yn erbyn y teitl Tywysog Cymru. Nid yr unigolyn ond y teitl! Ar yr achlysur pan ddaw Charles yn frenin, fe fydd yna gynnig i gael gwared a'r teitl. Cynnig a ddaw ond unwaith pob cenhedlaeth. Fe ddylai ni aredig y cae rwan drwy godi ymwybyddiaeth pobol neu bydd y cyfle yn cael ei wastraffu.
Efallai dy fod yn iawn. Cawn weld yn gymharol fuan, mae'n siwr. Fel y dywedais, mynegi gobaith oeddwn i!
ReplyDeleteBeth bynnag, rwyt yn berffaith gywir bod angen ceisio rhoi stop ar y teitl dwl yma. Ond gan fod ei fab yn cael ei adnabod fel "William Wales" yn barod, fodd bynnag, gall hynny fod yn anodd. Gobeithio na.