04/03/2013

Keith O'Brien

Mae wedi digwydd eto. Ar ôl i ffigwr crefyddol amlwg ddweud llawer o bethau creulon ac anghynnes am gyplau cyfunrywiol, daw'r newyddion ei fod ef ei hun yn hoyw.  A bod yn fanylach, mae wedi gorfod ymddiswyddo ar ôl iddo ddod yn hysbys ei fod wedi camymddwyn yn rhywiol tuag at rai o'i gyd-offeiriaid. Mater o amser ydoedd, am wn i: fel mae'r wefan Gay Homophobe yn ei ddangos, mae'r math yma o beth yn digwydd yn syfrdanol o aml.

Bron y gallwch ddweud bod perthynas uniongyrchol rhwng eithafiaeth yr homoffobia a'r siawns bod y person sy'n ei arddangos yn ddryslyd ynghylch ei rywioldeb ei hun. Efallai mai modd o wadu'r dyheadau cyfunrywiol yma yw difrïo hoywon, ac o ddarbwyllo'u cyd-grefyddwyr eu bod yn driw i reolau'r ffydd wedi'r cyfan. Rwy'n credu ei bod yn debygol bod y rheolau hynny'n ffactor enfawr yn achos pabyddiaeth: mae'n hawdd gweld sut mae mynnu bod offeiriaid yn anghydweddog yn gallu arwain at rwystredigaeth rhywiol. Mae'n bosibl yn fy marn i bod perthynas rhwng hynny a'r sgandal camdrin plant.

Brysiaf i ddweud nad yw'r uchod yn awgrymu am eiliad bod gennyf y gronyn lleiaf o gydymdeimlad tuag at Keith O'Brien. Rwy'n ei gasáu â chas perffaith, fel yr wyf yn casáu pob pabydd blaenllaw.

Sylwch ar ei "ymddiheuriad" swyddogol: "To those I have offended, I apologise and ask forgiveness. To the Catholic Church and people of Scotland, I also apologise." Dim gair am y miloedd ar filoedd o gyplau cyfunrywiol y mae wedi'u sarhau mor fileinig, a'u defnyddio fel cocynnau hitio er mwyn ceisio ymdopi â'i angst personol. Arddangosodd ragrith a hyfrdra rhyfeddol wrth feiddio galw cyplau cyfunrywiol yn anfoesol, wedi iddo yntau'i hun blagio'i gyd-weithwyr yn rhywiol yn groes i'w dymuniad. Rwy'n gobeithio hefyd bod yr heddlu'n ymchwilio'r "inappropriate behaviour" a'r "unwanted behaviour" yma, beth bynnag oedd natur hynny. Nid wyf am ddal f'anadl, fodd bynnag, o ystyried record hir a chywilyddus yr eglwys babyddol o geisio ymateb i bethau fel hyn yn fewnol.

Gwynt teg ar ôl y mochyn. Rwy'n mawr obeithio y bydd ei ymddygiad yn niweidiol iawn i'w eglwys.

4 comments:

  1. Mae'n rhaid i mi gyfaddef na fedraf ddeall yn iawn dy safiad yn y blogiad uchod parthed Keith O'B. Pam wyt ti'n ei alw'n fochyn ? Ai oherwydd mai gwrywgydiwr ydyw yr ydwyt yn gwneud hynny ac, os gwir hynny, onid homoffobia yw'r fath sentiment ? Pam ddylai'r Hedlu ymchwilio ei ymddygiad rhywiol ? Nid oes dystiolaeth hyd yma hyd y gwn i ei fod wedi camdrin plant yn rhywiol . Dest gofyn cwestiynau ydwyf.

    ReplyDelete
  2. Mae plagio pobl eraill yn rhywiol yn groes i'w dymuniad yn hyll a mochynnaidd. Mae'n wir nad yw union natur ei ymddygiad yn hysbys, felly nid ydym yn gwybod i sicrwydd a ydyw wedi cyflawni trosedd gyfreithiol. Ond mae bendant yn anfoesol. Nid yw'n berthnasol mai dynion oedd ei dargedau (oni bai am y ffaith bod ei ymddygiad, ar y cyd â'i sylwadau am hoywon, yn golygu ei fod wedi arddangos hunan-gasineb rhyfeddol).

    ReplyDelete
  3. Fel un sydd yn coleddu rhesymeg, rwyf wedi synnu braidd at ba mor aml yr wyt wedi mynegi "casineb" yn dy flogio a thrydar diweddar. Does dim sy'n rhesymegol mewn casineb (na chariad chwaith).

    Gwraidd problem y cyn Gardinal O'Brien yw emosiwn casineb, mae o'n casáu ei hun. Mae O Brien tua ugain mlynedd yn hun na fi, ond rwy'n ddigon hen i gofio cyfnod pan oedd ymarfer cyfunrywiol yn groes i'r gyfraith a bod cael rhyw efo dyn arall yn achos carchar.

    Hyd at ddeng mlynedd yn ôl roedd yna gyfraith yn pennu "a local authority shall not intentionally promote homosexuality or publish material with the intention of promoting homosexuality or promote the teaching in any maintained school of the acceptability of homosexuality as a pretended family relationship".

    O dan y fath orthrwm a oes ryfedd fod dyn fel Mr O' Brien yn casáu ei deimladau rhywiol ei hun ac yn ceisio brwydro yn eu herbyn?

    Pe byddet yn edrych ar y ffeithiau yn hytrach na dy gasineb mi welit mai dioddefwr homoffobia yw O'Brien, dyn sydd angen ei gynorthwyo i ddeall ei rhywioldeb yn hytrach nag un i'w gasáu.

    Yr hyn sydd yn fy nhristau i fwyaf am yr achos yw bod Eglwys Rhufain wedi ymateb yn hynod fuan ar achos o Gardinal yn ymddwyn yn amhriodol gyda chyw offeiriaid ond wedi oedi a thin ymdroi parthed achosion o blant yn cael eu cam-drin.

    ReplyDelete
  4. Fel un sydd yn coleddu rhesymeg, rwyf wedi synnu braidd at ba mor aml yr wyt wedi mynegi "casineb" yn dy flogio a thrydar diweddar. Does dim sy'n rhesymegol mewn casineb (na chariad chwaith).

    Nid yw rhesymeg yn golygu nad oes modd teimlo casineb. Fel pawb arall mae gennyf foesau a set o werthoedd. Rwy'n credu bod rhagfarn a phedoffeiliaid yn ofnadwy, felly os mai'r casgliad yw bod rhywun yn arddel rhagfarnau di-sail (ac yn eu mynegi dro ar ôl tro mewn modd creulon ac anghynnes), neu'n hapus i fod yn aelod blaenllaw o sefydliad sydd â pholisi swyddogol o warchod cannoedd ar gannoedd o bedoffeiliaid rhag cyfiawnder, mae'n rhesymol eu casáu (ac os rywbeth, mae'n anfoesol peidio).

    Eto i gyd, rwy'n deall dy bwynt am homoffobia cymdeithas yn gorfodi pobl i fyw celwydd. Petai O'Brien wedi cydnabod hynny ei hun ac wedi ymddiheuro wrth hoywon yn ei ddatganiad, hwyrach y byddai modd i mi deimlo mymryn o gydymdeimlad tuag ato. Efallai y bydd yn gwneud hynny'n fuan, ond rwy'n amheus rywsut. Mae'n rhy hwyr a bod yn onest.

    Cytuno'n llwyr â'th frawddeg olaf.

    ReplyDelete