Dydd Gŵyl Dewi Sant hapus i bawb, am wn i. Rhaid cyfaddef, serch hynny, nad oes gennyf fawr o ots am yr ŵyl yma. Gan fy mod yn genedlaetholwr brwd, efallai bod hynny'n safbwynt od. Ond wrth feddwl am y peth, rwy'n weddol fyr f'amynedd gyda symbolau, seremonïau a defodau yn gyffredinol (a dyna reswm arall pam mae crefydd yn fy ngadael yn oer, mae'n siwr).
Yr hyn sy'n od am Ddewi yw bod ei stori'n ddigon di-nod yn y bôn. Am resymau amlwg rwy'n ei chael yn anodd cynhyrfu'n ormodol ynghylch stori am bregethwr yn lledaenu'r efengyl. Ond hyd yn oed wedyn, mae ei "wyrth" enwocaf yn un diflas. Yn ôl y chwedl, wrth iddo bregerthu yng nghanol torf o bobl yn Llanddewi Brefi, fe gododd fryn bychan o dan ei draed er mwyn i bawb allu gweld. Ys dywed yr hanesydd John Davies, "prin y gellid dychmygu gwyrth fwy di-alw-amdani, o gofio tirwedd Ceredigion".
Ffigurau crefyddol yw nawddseintiau, wrth reswm, felly nid yw Dewi'n unigryw yn hynny o beth (os rywbeth, mae yn unigryw mewn ffordd arall, gan ei fod yn frodor o'r wlad sydd wedi'i feddiannu: er enghraifft, Groegwr oedd San Siôr, nawddsant Lloegr, Catalonia, Georgia, a sawl lle arall). Rwyf 'n amlwg yn ddrwgdybus o unrhyw ymdrechion i gysylltu cenedlaetholdeb a chrefydd. Ond mae natur grefyddol y cymeriadau yma'n eironig hefyd o gofio mai modd o ddenu pobl i dafarndai yw'r gwyliau yma erbyn hyn, yn anad dim byd arall; roedd Dewi'n gadarn ei wrthwynebiad i gwrw yn ôl pob sôn.
Rwy'n hoff iawn o chwedlau, ond y gwir yw bod rhai'n ddifyrrach na'i gilydd. Byddai'n llawer gwell gennyf petaem yn dathlu un o gymeriadau'r Mabinogi, a bod yn onest. Mae dipyn mwy o fynd i anturiaethau'r rheiny. Fe laddodd Siôr ddraig, mewn difrif calon (ond nid ein draig ni, wrth gwrs!). Ar y llaw arall, gwneud bywyd pawb mor ddiflas â phosibl oedd unig amcan ein nawddsant ni.
Ond dyna ni. Wrth i mi ysgrifennu hyn o eiriau, mae fy narpar-wraig (brodores o Loegr) allan yn galifantio yn nhafarndai Caernarfon yn gwisgo'r "wisg genedlaethol" Gymreig (a ddyfeisiwyd gan Arglwyddes Llanofer yn yr 19eg ganrif). Mae delweddau gwladgarol yn gallu bod yn bethau rhyfedd a chymysglyd, felly hwyrach ei bod yn ofer ceisio'u dehongli'n ormodol.
Dwi ddim yn or hoff o Dydd Gŵyl Dewi chwaith. Fel anghydffurfiwr nid ydwyf yn gyd fynd a mawrygu saint ond nid oes gwrthwynebiad crefyddol arbennig i'r ŵyl; gallwn ddathlu Gŵyl Dewi yn yr un modd ag y mae anghredadun yn gallu dathlu'r Nadolig. Yr hyn sy'n mynd dan fy nghroen i am ŵyl Dewi ydy'r ffaith ei fod yn esgus am gymaint o docenistiaeth Cymreig a Chymraeg.
ReplyDeletePethau fel 10 Stryd Downing yn chwifio'r Ddraig Goch ddoe ac yn gwneud gymaint o ffỳs am dano, fel bod disgwyl inni fod yn ddiolchgar; Gorsaf Paddington yn gwneud cyhoeddiadau yn y Gymraeg unwaith y flwyddyn - tra fo gorsaf Cyffordd Llandudno yn cyhoeddi yn uniaith Saesneg trwy'r flwyddyn ; Caerdydd yn fôr o wyn, coch a gwyrdd am un ddiwrnod yn hytrach na phob diwrnod fel dylai bod yn briodol i brifddinas ein gwlad ac ati - digon i godi cyfog gwir.
Er fod y stori am y tir yn codi dano yn fyth wrth gwrs, mi oedd Dewi yn ffigwr hanesyddol. Mae'n rhyfedd felly fod dy ogwydd wrth-Gristnogol cyn gryfed nes dy fod yn gweld mwy o werth mewn dathlu cymeriad dychmygol o'r Mabinogi rhagor na pherson go-iawn hanesyddol rwyt ti'n digwydd anghytuno ag o. Hyd yn oed os wyt ti'n anffyddiwr o argyhoeddiad dwfn iawn fedri di ddim gwadu fod y ffydd Gristnogol ac arweinwyr Cristnogol wedi chwarae rôl cwbwl ganolog yn ffurfio'r genedl.
ReplyDeleteWedi dweud hynny, dwi yn cytuno gyda ti ar y cyfan! Mae gas gen i'r ŵyl. Pobl yn wlatgarwyr am ddiwrnod yn unig a phawb yn lysho ac anghofio mae pwrpas gwreiddiol yr ŵyl yw cofio am arweinydd Cristnogol nid proto-nationalist.
Pwynt olaf, os ydy'r hyn mae haneswyr yn dweud wrthom ni am Dewi yn gywir sef ei fod yn Gristion o argyhoeddiadau dwfn oedd yn byw bywyd gostyngedig yn ceisio dilyn Iesu yna y person cyntaf un fyddai'n galw am ddiddymu'r ŵyl byddai Dewi ei hun! Y peth olaf byddai ef eisiau byddai gŵyl oedd yn rhoi sylw i ddyn cyn y Gwaredwr!
Diolch.
ReplyDeleteRhys, fel y soniais, fy mhrif broblem yw bod stori'r dyn mor boring. Mae anturiaethwyr cyffrous yn gwneud gwell arwyr/symbolau cenedlaethol o lawer. Dyna pam y byddwn yn ffafrio rhywun o'r Mabinogi yn ei le. Mae'n help hefyd bod modd mwynhau'r ceinciau hynny heb boeni bod pobl eraill yn credu eu bod yn disgrifio digwyddiadau hanesyddol o dragwyddol bwys.
Dim ond hedyn o wirionedd hanesyddol sydd i gymeriad Dewi, cofia. Mae'n wir ein bod yn hyderus bod y fath berson wedi bod, yn fras, ond fel gyda phob ffigwr o'r cyfnod mae haenau o chwedloniaeth wedi'u pentyrru ar ben y ffeithiau. Fel y bryn hwnnw, wrth gwrs. Mae'n siwr bod yr un fath yn union yn wir am y Brenin Arthur neu gymeriadau'r Mabinogi: efallai eu bod wedi'u seilio ar bobl go iawn (neu, yn fwy tebygol, ar gyfuniad o fwy nag un) ac yna mae dychymyg ac amser wedi gwneud y gweddill.