Bu Harri Pritchard Jones yn rhy garedig o lawer yn
ei erthygl am ymddeoliad Joseph Ratzinger. Mae’n debyg bod y cyn-Bab yn ddyn
tawel ac addfwyn, a’n bïanydd medrus sy’n arbennig o hoff o Mozart. Nid oes
gennyf reswm i amau gwirionedd yr ychydig rinweddau hyn, ond maent yn dila a
chwbl amherthnasol o’u cymharu â holl gamweddau arswydus y dyn. Dengys hyn yn
eglur y cam a wneir â phawb gan y parch anhaeddiannol a roddir i grefydd gan
ein cymdeithas.
Mae bron pob un o bolisïau ac athrawiaethau Mr
Ratzinger a’i eglwys wedi bod yn niweidiol ac anfoesol, wrth gwrs. Byddai’n
ddigon anodd maddau’r homoffobia a’r misogynistiaeth canol-oesol, heb sôn am
effaith ei wrthwynebiad i’r defnydd o gondoms, sydd wedi arwain at filoedd ar
filoedd o farwolaethau di-angen o AIDS bob blwyddyn. Ond y gwaethaf un yw ei
ymateb cwbl ffiaidd i’r ffaith bod cannoedd o offeiriaid wedi bod wrthi’n
treisio plant ers degawdau. Mae hyn tu hwnt i anghytuno ynghylch materion cymdeithasol:
yn yr achos yma, y gwir plaen yw bod Mr Ratzinger wedi troseddu’n ddifrifol.
Swydd Mr Ratzinger cyn ei ddyrchafiad diwethaf oedd
Prif-Oruchwyliwr Athrawiaeth y Ffydd (pennaeth y Chwilys, i chi a fi; mae’r enw
wedi newid dros y canrifoedd, mewn ymdrech i swnio’n llai hunllefus). Yn y
cyfnod yma, rhwng 1981 a 2005, mae’n hysbys bod Mr Ratzinger wedi datgan ei
fwriad i esgymuno pobl o’r eglwys mewn cysylltiad â’r sgandalau ynghylch
camdrin plant. Byddai unrhyw un call yn tybio mai’r pedoffeiliaid eu hunain
oedd dan ei lach. Mewn gwirionedd, gorchymyn i gadw popeth yn gyfrinachol
ydoedd, ac i drin pob honiad o gamdrin yn fewnol: bygwth esgymuno unrhyw un a
feiddiai achwyn yn allanol (gan gynnwys wrth yr heddlu) oedd Ratzinger. Gwyddom
hyn â sicrwydd: mae ei lofnod ar y llythyrau. Iddo ef, ‘enw da’ yr eglwys oedd
y flaenoriaeth. Yn ôl y dyn hwn, roedd mynd at yr awdurdodau priodol yn waeth
trosedd o lawer na threisio plant yn y lle cyntaf. Mae yna enw ar gyfer y math
yma o beth: gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Diolch i Mr Ratzinger a’i debyg, mae gan yr Eglwys
Babyddol bolisi swyddogol o warchod treisiwyr plant. Mae’n amhosibl
gorbwysleisio pa mor anfoesol yw hyn. Nid yw cadw’n dawel am bedoffeiliaid,
bygwth eraill er mwyn eu cymell i wneud yr un peth, a symud yr euog i blwyf
arall (lle ceir cyflenwad ffresh o blant, wrth reswm) fawr gwell na’r weithred
o gamdrin plant yn y lle cyntaf, os o gwbl.
Am y rhesymau hyn, hyd yn oed petai’n wir mai
Ratzinger yw’r creadur tyneraf i droedio’r byd erioed, ni fyddai’n newid y
ffaith bod gwir angen iddo dreulio’r ychydig einioes sydd ganddo’n weddill mewn
carchar. Byddai’n gwbl anghyfiawn, a’n sarhad creulon i filoedd o ddioddefwyr
sydd wedi bod trwy uffern, petai’r dihiryn gwarthus yma’n cael y fraint o
farw’n hamddenol heb orfod cydnabod ei droseddau.
(gan ddefnyddio google cyfieithu) Pwerau posibl seiciatreg i osod triniaeth uchel ei ben ei hun ac yn anaddas seiliedig ar farn yn aml yn gwneud ei gyn-gleientiaid hir dymor ofnus i herio neu ysgrifennu am yr hyn a ddigwyddodd iddynt. Mae angen iddynt adnabod eu rhyddid yw yn ddiogel rhag pobl gan dybio mai barn y meddyg yn iawn a gwyddonol. Tra bod Harri Pritchard-Jones wedi parhau i fod yn awdur llwyddiannus, roeddwn yn byw cyfnod hir o frawychu gagged fel hyn am rôl yr Uned ei Phobl Ifanc yng Nghaerdydd, lle'r oeddwn yn glaf 14-15 oed yn 1982-3, yn dinistrio fy nghyfle i fod yn awdur plant. www.autismnetworkscotland.org.uk/article-by-maurice-frank/
ReplyDeleteHynny fel safon o ofalu. Roeddwn yno yn ganlyniad i gwymp straen o dan bwysau gwaith ysgol gam-drin, yn yr ysgol anfri Balfour House eu cau roeddwn yn bennaf achos.