25/09/2016

Wedi'r Chwyldro

Os oes un thema gyson i wleidyddiaeth y blynyddoedd diweddar, yna dyhead cynifer i gicio'r 'sefydliad' yw hwnnw. Eu cwyn, mae'n debyg, yw bod y bobl sydd â grym wedi colli cysylltiad â'r werin gyffredin, felly mae rhaid troi at bobl 'o'r tu allan' er mwyn ysgwyd pethau.

Mae hyn yn deg i raddau. Mae cyflwyno gwaed newydd a phersbectifau gwahanol i'r  dosbarth llywodraethol yn amlwg yn gallu bod yn fuddiol, ac mae cadw ein harweinwyr ar flaenau'u traed yn hanfodol. Ond yn anffodus, ymddengys bod llawer o bobl bellach yn ystyried bod yn 'wrth-sefydliadol' yn rhinwedd ynddo'i hun. Eu hunig ystyriaeth yw sicrhau bod y 'sefydliad' presennol yn cael cweir.

Mae cael gwared ar 'y sefydliad' yn amhosibl, wrth gwrs, felly mae'n ddwl bod cynifer yn ei drin fel cysyniad haniaethol. Mae cicio'r sawl sydd mewn grym allan yn golygu gosod pobl eraill yn eu lle, ac hyd yn oed os yw'r bobl hynny wedi dod o'r 'tu allan', trwy gipio'r awennau mae'r rheiny wedyn yn dod yn aelodau o'r 'sefydliad'. Os cael rhyw fath o lywodraeth (ac oni bai eich bod yn anarchydd, mae rhaid), rhaid cael sefydliad. Nid yw hyn yn gymhleth.

Am ryw reswm, mae llawer yn dymuno i'w harweinwyr fod yn debyg iawn iddynt hwy'u hunain. Rwy'n casáu, â chas perffaith, y syniad mai'r ystyriaeth bwysicaf wrth ddewis eich hoff ymgeisydd yw 'pa un fyddai'n cynnig y gwmnïaeth orau dros beint?' Dylai'r bobl sy'n rhedeg y wlad fod yn llawer iawn iawn galluocach na fi. Mae rhedeg llywodraeth yn gamp rhyfeddol o anodd; ni ddylai fod yn swydd y gall unrhyw un ei chyflawni. Mae rhaid iddi fod yn swyddogaeth elitaidd yn ei hanfod.

Nid oes gan y 'sefydliad' ddiffiniad clir. Mae Nigel Farage yn ffigwr gwrth-sefydliadol poblogaidd, er ei fod yn filiwnydd a wnaeth ei ffortiwn yn y Ddinas ac sydd bellach yn wleidydd proffesiynol. Yn y cyfamser, mae Donald Trump wedi seilio'i holl ymgyrch arlywyddol ar y syniad ei fod yn eithriadol o wrth-sefydliadol, ond os nad yw biliwnydd sydd wedi bod yn ffigwr amlwg ers degawdau yn aelod o'r 'sefydliad', pwy ddiawl sydd? Dyna ddau ddyn sydd wedi llwyddo i feithrin y myth eu bod yn un o'r bobl gyffredin, er bod y syniad yn chwerthinllyd mewn gwirionedd. Dyma sut sut y darbwyllwyd cynifer o Lafurwyr traddodiadol, sy'n casáu'r Ceidwadwyr, i droi at UKIP, a hynny'n groes i'w buddiannau'u hunain gan fod y blaid honno'n fwy Thatcheraidd na Thatcher ei hun.

Yn achos Bernie Sanders, mae'r ffigwr gwrth-sefydliadol hwnnw wedi bod yn aelod o Gyngres UDA ers 1991. Rwy'n edmygu Bernie, a'n gresynu na chafodd enwebiad arlywyddol y Democratiaid, ond mae rhai o'i gefnogwyr yn dangos yn gliriach na dim bod y dicter gwrth-sefydliadol presennol yn gallu mynd yn hurt. Rwyf wedi sôn hyd syrffed am bobl sydd wedi pwdu wedi i Clinton ennill enwebiad y blaid, ac sydd o'r herwydd am gefnogi Trump neu Gary Johnson, ymgeisydd y Libertarians. Ymhob achos, mae Trump (sy'n ffasgydd) a Johnson (sydd am weld y wladwriaeth yn crebachu'n ddim ac sy'n credu mai'r farchnad yw'r ateb i bob un o broblemau bywyd) yn benderfynol o chwalu a datgymalu pob un dim sy'n annwyl i Sanders. Gallwn felly ddiystyru'r posibilrwydd bod y bobl hyn wedi cefnogi Sanders am resymau egwyddorol. Chwyldro er mwyn chwyldro yw eu nod. Chwalu'r consensws presennol heb boeni dim am yr hyn a fyddai'n cymryd ei le, hyd yn oed os yw'n arwain at ffasgaeth. Rwy'n ystyried yr agwedd yna'n bathetig o blentynnaidd.  Rwy'n berwi â dirmyg at bobl fel hyn ar y funud.

Nid yw dymchwel y system bresennol yn ddigon felly. Mae'n hanfodol sicrhau bod rhywbeth gwell ar gael i'w osod yn ei le. Mae torri pethau'n hawdd. Gall unrhyw dwpsyn wneud hynny. Adeiladu yw'r gamp.

Fel mae'n digwydd, mae hyn yn berthnasol i ddadl fawr sydd wedi hollti'r 'mudiad anffyddiaeth' (os gellir ei alw'n hynny) ers ychydig o flynyddoedd bellach. Mae yna garfan sy'n mynnu mai'r cyfan yw anffyddiaeth yw'r diffiniad geiriadurol 'diffyg ffydd mew duw', a dyna ni. Yn ôl yr anffyddwyr hyn, nid oes gan anffyddiaeth unrhyw beth pellach i'w ddweud am yr hyn a ddylai gymryd lle crefydd. Rwy'n anghytuno'n chwyrn â'r safbwynt hwnnw. Mae goblygiadau anferthol i'r ffaith bod duw'n absennol, ac rwy'n mynnu bod cyfrifoldeb ar anffyddwyr sy'n dadlau'n erbyn crefydd i egluro sut fyd yr hoffem ei weld. Mae hyn yn anorfod yn golygu pwysleisio cyfiawnder cymdeithasol. Wedi'r cyfan, crefydd sy'n gyfrifol am lawer o'r gormes a ddioddefir gan fenywod, pobl gyfunrywiol a lleiafrifoedd ethnig (ac, yn wir, lleiafrifoedd crefyddol), ac fe ddylai cefnogi'r frwydr i sicrhau cydraddoldeb yn y meysydd hyn fod yn rhan annatod o anffyddiaeth ei hun. Nid yw'n gwneud synnwyr i gael gwared ar grefydd heb geisio cael gwared ar y rhagfarnau hynny sydd wedi bod mor ddibynnol arni ar hyd y blynyddoedd.  Hawdd yw dangos pam mae crefydd yn anghywir. Mae'r gwaith caled yn dod wedyn.

No comments:

Post a Comment