29/08/2016

Clinton a Trump: y 'chwith' adweithiol a phurdeb ideolegol

Rwyf wedi sôn am y ffenomen 'Bernie or Bust' yn America o'r blaen, lle mae rhai o gefnogwyr Bernie Sanders wedi pwdu ac am gefnogi Trump ym mis Tachwedd yn hytrach na chefnogi'r ymgeisydd Democrataidd. Agoriad llygad a braw oedd gweld bod agwedd debyg i'w gweld ymysg Cymry hefyd, gan gynnwys aelodau Plaid Cymru.

Gall purdeb ideolegol eich dallu i'r fath raddau nes i chi golli synnwyr persbectif. I rai, dim ond dau bosibilrwydd sydd: eu hoff opsiwn, neu bob dewis arall, ac mae'r dewisiadau eraill cyn waethed â'i gilydd. Mynnir y perffaith, neu wfft i bopeth. Pwdu plentynnaidd yw'r amharodrwydd yma i roi opsiynau amherffaith mewn trefn. Rwy'n anffyddiwr sy'n gwrthwynebu crefydd yn gyffredinol, ond gan fy mod yn berson synhwyrol a chall rwy'n meddu ar y gallu i weld nad yw pob math neu elfen o grefydd cyn waethed â'i gilydd. Er fy mod yn anghytuno â'u diwinyddiaeth i gyd, mae gennyf y gallu i weld nad yw methodist o Gymru cyn waethed ag efengylwyr rhagfarnllyd Mississippi, ac nad yw'r rheiny cyn waethed â llywodraeth Sawdi Arabia. Ni fyddai'n anodd i mi ddewis rhwng y tri petai rhaid. Nid yw hyn yn gymhleth. Mae pobl aeddfed a normal yn meddwl fel hyn drwy'r amser.

Yn anffodus, er fy mod yn llawer mwy hoff o Sanders na Clinton, ymddengys nad yw llawer o gefnogwyr hwnnw'n aeddfed a normal. O'r herwydd, maent yn mynnu bod Clinton cyn waethed â Donald Trump, a'n gwrthod derbyn mai hi enillodd. Mae rhai'n colli'r plot yn llwyr gan fynd gam ymhellach, gan fynnu bod Clinton yn waeth na Trump. Mae'n anodd canfod y geiriau i fynegi pa mor dwp yw hyn

Rwyf wedi dadlau (neu reslo yn y llaid) gyda rhai o'r bobl hyn ar Twitter. Y ddau fater sy'n codi fynychaf yw polisi tramor Clinton (sydd, mae'n debyg, gyfystyr â hil-laddiad) a'r awgrym ei bod yn llwgr (mae un ffwl arbennig yn mynnu ei bod yn llofrudd). Nawr, mae'n berffaith bosibl beirniadu polisi tramor a 'llygraeth' Clinton, gan osgoi'r honiadau mwy lloerig. Mae hi braidd yn or-awyddus i ddefnyddio grym milwrol yn y Dwyrain Canol, ac wrth gwrs fe gefnogodd y rhyfel yn Irác yn 2003 ar y pryd, y camgymeriad sy'n rhannol gyfrifol am gynifer o'r problemau presennol. Yn y cyfamser, mae yna bryderon gwirioneddol ynghylch ei gweinydd ebost preifat, ac mae cwestiynau i'w hateb ynglŷn â'r berthynas rhwng ei helusen y Clinton Foundation a'i gweithgareddau gwleidyddol. Ond unwaith eto, mae'r feirniadaeth synhwyrol yn cael ei foddi allan gan conspiracy theories o byllau tywyllaf y rhyngrwyd.

Mae Clinton ymhell o fod yn ddelfrydol. Nid yw'r syniad o Arlywydd Clinton yn fy nghyffroi o gwbl. Rwy'n cydnabod ei gwallau. Petai'r ymgeiswyr eraill yn wahanol, buaswn yn eu hystyried (yn anffodus nid yw ymgeiswyr chwerthinllyd y Gwyrddion na'r Libertarians yn opsiynau synhwyrol). Ond eleni mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn ffasgydd gwirioneddol dwp. Dylai hynny fod yn ddigon i ysgogi pobl i sicrhau nad yw Trump yn cael ennill: mae ei ymgyrch wedi bod yn amrwd o hiliol, ac mae'n dangos yn ddyddiol nad yw'n agos at fod yn gymwys. Hyd yn oed o dderbyn y problemau ynglŷn a Clinton yn y paragraff blaenorol, mae Trump yn waeth.

Un peth am Trump sy'n apelio i rai a ddylai wybod yn well yw'r argraff hollol ddi-sail bod y dyn yn gyndyn o ddefnyddio grym milwrol. Y gwrthwyneb llwyr sy'n wir. Er ei ymdrechion i ail-ysgrifennu hanes, roedd yn cefnogi rhyfel Irác ar y pryd. Cyhuddir Clinton o gefnogi rhyfeloedd ac ymgyrchoedd bomio, ond roedd Trump yn fwy brwd byth: mae hwnnw o blaid bomio Libya'n ulw, ac mae wedi sôn yn llawn cynnwrf am ei fwriad i 'bomb the shit out of' tiriogaethau'r Wlawriaethau Islamaidd yn Irác a Syria er mwyn dwyn yr olew! Mae hefyd yn awyddus i gynyddu gwario ar y fyddin yn sylweddol; eto, llawer iawn iawn mwy na Clinton. Mae'n ddi-hid ynglŷn â'r syniad o ddefnyddio arfau niwclear yn erbyn terfysgwyr neu yn Ewrop. Nid yn unig y mae'n awyddus i ddefnyddio dulliau arteithiol yn erbyn pobl a amheuir o fod yn derfysgwyr: mae eisiau arteithio'u teuluoedd hefyd. Mae wedi dangos pa mor denau yw ei groen: nid yw'n anodd ei ddychmygu'n ymateb yn fyrbwyll petai'n teimlo bod rhywun wedi'i sarhau. Nid oes ganddo'r syniad lleiaf am faterion tramor; nid yn unig hynny, ond nid yw hyd yn oed yn chwilfrydig. Rwy'n gwbl argyhoeddedig na fyddai'n gallu canfod Lithiwania ar fap, er enghraifft, ac ar ben hynny na fyddai ganddo ddiddordeb petai rhywun yn ceisio dangos iddo. Er ffaeleddau Clinton, mae'n bosibl dilyn ei rhesymeg a deall ei hegwyddorion, hyd yn oed os nad ydych yn cytuno. Nid oes modd dweud hynny am Trump. Byddai byddin y wladwriaeth rymusaf a welwyd erioed yn nwylo clown erratig hollol anwybodus. Hyd yn oed o dderbyn y ddadl yn erbyn Clinton, mae rhaid ffieiddio hyd yn oed yn waeth at Trump.

Ar ben hynny, mae Trump yn llwgr o'i gorun i'w sawdl. Conman ydyw, fel mae stori ei 'brifysgol' ffug yn ei ddangos. Mae ganddo hefyd record hir o gamddefnyddio cyfreithiau prynu gorfodol er mwyn dwyn eiddo oddi wrth bobl gyffredin, ac o gamwahaniaethu'n systemataidd yn erbyn pobl groenddu. Mae hyd yn oed ei ymgeisyddiaeth yn sgam i raddau helaeth: mae ei ymgyrch yn llogi swyddfeydd gan ei gwmni ei hun, ac unwaith y dechreuodd dderbyn rhoddion gan ffynonellau allanol, fe gynyddodd y llog bum gwaith drosodd. Mae llawer o'r arian y mae ei gefnogwyr yn ei roi iddo'n mynd i boced Trump ei hun.

Dim ond blas yw hyn o'r ffordd mae Trump yn rhedeg ei fusnes. Ac i ail-adrodd, mae'r dyn yn ffasgydd hiliol. Er ffaeleddau niferus Clinton, mae'r dewis i bawb synhwyrol yn hollol, hollol syml: rhaid sicrhau nad yw'r conman ffasgaidd, misogynistaidd, twp, anwybodus, ansefydlog yn cael dod yn agos at y swydd bwysicaf yn y byd. I fod yn glir, rwy'n obeithiol mai colli fydd hanes Trump. Ond rwy'n argyhoeddedig y byddai ffasgydd mwy slic yn gallu ennill yr etholiad yma. Y dychryn yw bod Trump wedi braenaru'r tir ar gyfer eithafwr llai twp y tro nesaf. Cytuno â mi neu beidio bod Trump ei hun yn ffasgydd, nid oes amheuaeth o gwbl y byddai ei gefnogwyr yn barod iawn i gofleidio ffasgydd textbook petai un yn ymddangos. Mae hynny'n hollol amlwg.

Ffrwyth y 'dde amgen' hiliol (yr alt-right) yw llawer o'r conspiracy theories a gyfeiriaus atynt yn gynharach, felly mae'n destun gofid eu bod bellach yn cael eu cofleidio'n frwd gan gymaint o 'sosialwyr' honedig. Mae'n teimlo fel petai yna aildrefnu gwleidyddol rhyngwladol ar y gweill, lle mae rhannau o'r chwith yn cynghreirio ag eithafwyr asgell-dde er mwyn rhoi cic i'r 'sefydliad', troi'n erbyn mewnfudwyr, a chofleidio Rwsia. Taflu bomiau rhethregol yw'r flaenoriaeth, heb boeni am y goblygiadau nac am y cwmni a gedwir. Mae'r 'sosialwyr' hyn hyd yn oed yn barod i amddiffyn Trump, gan wadu'n blaen bod y dyn yn hiliol a misogynistaidd. Wrth gwrs, unwaith mae rhywun wedi mynd mor bell â hynny, nid yw'n gwneud synnwyr i'w gosod ar y chwith wleidyddol mwyach mewn gwirionedd.

Nid gormodiaith, yn fy marn i, yw dweud bod hyn yn dwyn i gof y modd y trodd nifer o gyn-gomiwnyddion at ffasgaeth yn y 1930au. Nid trwy ddirgel hud a lledrith y daeth ffasgaeth i rym yn Ewrop bryd hynny; mae'n rhy hawdd i ni ddiystyru'r posibilrwydd y gall ddigwydd eto. Ond fe all. Mae peidio neilltuo condemniaeth arbennig ar gyfer ffasgwyr yn hynod beryglus, gan ei fod yn eu normaleiddio. Os yw pobl yn dweud bod Clinton cyn waethed â Trump, neu'n waeth, yr awgrym wedyn yw oes unrhyw beth anghyffredin nac eithriadol o annerbyniol amdano. Dyma'r pwynt: mae purdeb ideolegol yn gallu arwain yn uniongyrchol at normaleiddio ffasgaeth. Fe wnaeth unwaith, ac fe all ddigwydd eto. Pe daw ffasgaeth i rym eto, ar bobl sy'n gwrthod gwneud pethau syml fel gwahaniaethu rhwng Trump a Clinton fydd llawer iawn o'r bai. Mae'n anodd dweud faint o bobl fel hyn sy'n bod yn union, ond rwy'n ofni bod yr agwedd yn llawer iawn mwy cyffredin nag yr ydym yn ei sylweddoli.

No comments:

Post a Comment