Mae pawb wedi clywed am y golofn warthus a ymddangosodd yn y Sun dros y penwythnos, lle argymhellodd yr awdur (nad wyf am ffwdanu ei henwi) saethu'r 'cockroaches' sy'n ceisio ffoi o ogledd Affrica i Ewrop. Gwarthus iawn wrth gwrs. Mae'r awdur yn llwyddo i wneud bywoliaeth trwy ddweud y pethau mwyaf ymfflamychol sy'n dod i'w phen, ac mae rhai papurau newydd yn hapus i gyhoeddi'r rwtsh, yn rhannol er mwyn denu sylw. Mae'n strategaeth lwyddiannus, oherwydd dyma fi.
Sut ddylai pobl synhwyrol ymateb i'r stwff yma? Dechreuwn trwy ddweud sut na ddylid gwneud. Yn benodol, ni ddylwn alw'r heddlu. Er mor uffernol y safbwynt, ni ddylai ei fynegi fod yn anghyfreithlon. Dylai fod ganddi hawl i'w barn, a dylai fod gan bapurau newydd yr hawl i roi platfform iddi os mai dyna'u dymuniad.
Yn ail, ni ddylwn geisio cysuro'n hunain trwy ddweud bod 1) ei barn yn unigryw, a 2) nad yw'n ddidwyll. Y gwir yw mai'r hyn sy'n frawychus am y golofn yw'r ffaith ei bod yn adlewyrchu barn lled-gyffredin, nid ei bod rywsut yn eithriadol. Rhaid i ni roi'r gorau i dwyllo ein hunain bod rhagfarn yn beth prin erbyn hyn.
Gallwn gymharu'r sefyllfa â phobl fel Ann Coulter a Rush Limbaugh yn America, shock jocks sy'n ymhyfrydu mewn dweud pethau twp ac ymfflamychol iawn am ryddfrydwyr a Democratiaid, ac sy'n gwerthu llyfrau, a denu gwylwyr a gwrandawyr, wrth eu miliynau. Dro ar ôl tro, fe welwch bobl synhwyrol yn gwadu'r posibilrwydd bod y ddau wir yn credu'r hyn y maent yn ei ddweud, gan eu bod mor 'eithafol'; dim ond chwarae cymeriad er mwyn gwneud arian y maent, meddir. Mae'r celwydd yma'n anghyfrifol. Wedi'r cyfan, os oes ganddynt gynulleidfa o filiynau, a'r rheiny i gyd yn amlwg yn cytuno â'r hyn sy'n cael ei ddweud, yna nid yw'n annhebygol o gwbl bod Coulter a Limbaugh eu hunain yn ei gredu hefyd. QED. Mae'r un rhesymeg yn dilyn yn achos awdur y golofn uchod; gwirion fyddai awgrymu bod mwyafrif, neu nyd yn oed leiafrif sylweddol, o'r darllenwyr yn ffieiddio. Y gwrthwyneb sy'n debygol o fod yn wir.
Dyma pam rwy'n amheus iawn bod anwybyddu pobl fel hyn yn ddoeth. Nid yw cuddio'n pennau yn y tywod yn debygol o gyflawni unrhyw beth o werth. Rhaid ei herio'n ffyrnig. Mae'r byd yn llawn pobl annifyr iawn o hyd, a dylid cydnabod hynny.
No comments:
Post a Comment