04/08/2016

Ynghylch pwyntio bys

Darllenais So You've Been Publicly Shamed gan Jon Ronson yn ddiweddar. Mae'n sôn am bobl sydd wedi cael eu cywilyddio'n gyhoeddus oherwydd rhywbeth maent wedi'i ddweud neu ei wneud, yn gam neu'n gymwys. Mae'r we, a'r cyfryngau cymdeithasol yn enwedig, wedi hwyluso ein gallu i bwyntio bys, ac mae'n hawdd i feirniadaeth ysgafn droi'n pile-on blin o fewn dim o dro. Un o'r enghreifftiau a drafodir yw Justine Sacco, person di-nod ar Twitter heb lawer o ddilynwyr, a bostiodd jôc hiliol 'eironig' cyn i'w hawyren ddechrau am Cape Town. Erbyn iddi lanio, roedd hi'n elyn pennaf y wefan gyfan ac fe gafodd fraw ei bywyd wrth droi ei ffôn yn ôl ymlaen. Mae'r llyfr yn ddiddorol, a'n ein gorfodi i gofio bod person go iawn ar yr ochr arall. Mae'r wers honno'n bwysig, hyd yn oed os ydynt wedi dweud rhywbeth gwirioneddol erchyll.

Efallai y dylem gadw hyn mewn cof wrth ystyried y stori ddiweddaraf i gorddi'r Gymry Gymraeg, sef bod ymchwilydd i BBC Radio 5 Live wedi gwneud ymholiadau ar Twitter yn chwilio am gyfranwyr, gan ddweud yn benodol ei bod yn chwilio yn benodol am rywun 'to talk about why the Welsh language should die'. Aeth ati'n arbennig i wahodd dau ddyn sydd wedi gwneud sylwadau hynod ymfflamychol a thwp am yr iaith yn y gorffennol agos. Roedd ei dewis o eiriau'n syfrdanol o drwsgl a hyll.

Nawr, rwyf am rannu cyfrinach. Ers dechrau'r flwyddyn, rwyf wedi bod yn rhedeg cyfrif Twitter o'r enw Take That, Welsh. Y bwriad yw ail-drydar sylwadau dwl neu ddiflas am yr iaith Gymraeg. Nid mynd i ddadlau â'r bobl hyn yw'r nod; dim ond rhoi proc bach cynnil a gwneud y pwynt nad yw eu jôcs neu fyfyrdodau yn wreiddiol na'n ddiddorol o gwbl mewn gwirionedd. Beth bynnag, Take That, Welsh ail-drydarodd yr ymholiad uchod (ddiwrnod a hanner wedi iddio gael ei bostio), ac fe ffrwydrodd y Twitter Cymraeg bron yn syth. Er ei bod yn debygol y byddai rhywun arall wedi sylwi ar y neges yn hwyr neu'n hwyrach (mae'n rhyfeddol o hawdd dod o hyd i'r deunydd crai ar gyfer y cyfrif), rwyf felly'n teimlo peth cyfrifoldeb am y ffaith bod hyn wedi troi'n stori newyddion (gan ennyn ymateb y Comisiynydd, gwleidyddion a gwefan y Daily Mail). Mae gennyf deimladau cymysg am yr ymateb a gafwyd.

Nid yw'r ymchwilydd wedi dweud unrhyw beth o gwbl ers i'r sylw fynd yn feiral, ond buaswn yn dychmygu ei bod wedi cael braw gan ei bod wedi dileu'r trydariadau erbyn hyn. Er bod yr hyn a ddywedodd yn ymfflamychol, rwy'n gyndyn i'w beio hi'n unigol. Symptom o broblem sefydliadol a strwythurol yw beth ddigwyddodd mewn gwirionedd: cyfuniad o anwybodaeth lwyr am y Gymraeg a'i siaradwyr, a dyhead golygyddol i gynnwys safbwyntiau mor eithafol â phosibl er mwyn denu sylw. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion rwyf wedi'i gweld yn beio'r BBC fel corfforaeth, sy'n deg yn yr achos yma, ond mae ambell un wedi mynd ar ôl yr ymchwilydd yn benodol, sy'n anffodus. Gwnaed cwyn i'r heddlu, hyd yn oed, sy'n hollol wirion.

Fel cyfrwng, mae Twitter yn tueddu i annog pile-ons ar adegau fel hyn. Mae unigolion yn gweld yr hyn a ddywedwyd, a'n teimlo'r angen i leisio'u barn. Wrth gwrs, os oes cannoedd (neu filoedd, hyd yn oed) o unigolion yn gwneud hynny, gall fod yn brofiad anghynnes iawn i'r sawl sydd o dan y lach, hyd yn oed os nad dyna fwriad y rhan fwyaf o'r beirniaid.

Mae'r mater yma'n ddyrys. Roedd y trydariad yn annerbyniol, felly ni ddylid fod wedi'i anwybyddu. Mae'n syrffedus eithriadol gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth byth a beunydd. Nid yw'n help chwaith bod cynifer ohonom yn teimlo o dan warchae ers y stori ffug wirion am yr Orsedd a'n tîm pêl-droed y penwythnos diwethaf. Ond mae angen ystyried pwy yw'r person sy'n gyfrifol am ein gwylltio. Ni ddylid ymateb yn yr un modd i sylw gan ymchwilydd ag i sylw gan berson o statws uwch. Mae hefyd yn wahanol os yw'r person yn pigo ffrae neu'n bod yn ymosodol. Byddaf weithiau'n gweud hwyl am ben creadyddion ffwndamentalaidd, er enghraifft, sydd mor hyderus ac awyddus i herio er gwaethaf eu hanwybodaeth lwyr am theori esblygiadol. Ond dim ond gwneud ei swydd (a dilyn cyfarwyddiadau ei rheolwyr, yn ôl pob tebyg) oedd yr ymchwilydd.

Gyda llaw, fe ddarlledwyd yr eitem yn gynharach heddiw. Roedd yn sgwrs adeiladol a diddorol yn y diwedd, heb gyfraniad gan eithafwyr (roedd yno ddyn o'r Alban yn anhapus â'r syniad o wario rhyw lawer o arian cyhoeddus ar ieithoedd lleiafrifol, ond heb fod yn rhy ddwl am y peth). Efallai bod hyn yn dangos bod yr awydd i chwilio pob twll a chornel i ganfod y pobl mwyaf eithafol posibl yn wrth-gynhyrchiol, a bod hynny'n wers ychwanegol a ddysgwyd yn sgil yr helynt hwn.

No comments:

Post a Comment