20/01/2016

Donald Trump a chyflwr y Gweriniaethwyr

Cefais fy synnu pan gyhoeddodd Donald Trump ei fwriad i ymgyrchu i fod yn arlywydd UDA. Roedd wedi chwarae â'r syniad yn gyhoeddus ers blynyddoedd, ond tybiais cyn hynny mai tacteg i gadw'i enw yn y newyddion oedd hynny, ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i ymgymryd â'r gwaith caled o redeg ymgyrch go iawn. Wrth gwrs, nid yn unig yr oedd y dybiaeth honno'n anghywir, ond mae'n bosibl iawn y bydd yn ennill yr enwebiad.

Ers iddo ymuno â'r ras, mae'r sylwebyddion wedi bod yn proffwydo'i dranc, a'n enwedig felly ar ôl iddo ddweud pethau twp (sy'n ddigwyddiad wythnosol). Y gwrthwyneb sydd wedi bod yn wir, wrth gwrs: mae cefnogaeth Trump, os rywbeth, wedi cryfhau gyda phob sarhad hyll a ddaw o'i enau. Yn groes i bob disgwyl, erbyn heddiw, lai na phythefnos cyn yr etholiadau cynradd cyntaf yn Iowa, mae ei sefyllfa'n gryfach nag erioed. Mae ymhell ar y blaen yn yr arolygon cenedlaethol. Ni ddylid canolbwyntio'n ormodol ar rheiny mewn gwirionedd, gan mai fesul taleithiau unigol y daw'r pleidleisiau, ond er ei bod yn wir mai Ted Cruz sydd ar y blaen yn Iowa, mae Trump yn ail agos (a'n bell ar y blaen yn y taleithiau nesaf, sef New Hampshire a De Carolina). Mae llawer, gan gynnwys Nate Silver, yn mynnu ei fod yn annhebygol o gipio'r enwebiad yn y pen draw, ond rwy'n credu bod ganddo siawns ryfeddol o dda. Gobaith mawr ei wrthwynebwyr yw bod ei ddiffyg profiad gwleidyddol yn golygu nad oes ganddo'r drefniadaeth - y ground game bondigrybwyll - i sicrhau bod ei gefnogwyr i gyd yn llwyddo i bleidleisio drosto (gall y system fod yn gymhleth, diflas ac affwysol o hir mewn rhai taleithiau).

Rhethreg gwrth-fewnfudwyr yw ei brif thema, wrth gwrs. Wrth lansio'i ymgyrch, fe ddywedodd bod Mecsico'n 'anfon' eu troseddwyr rhyw dros y ffin. Dyna'i ddymuniad hefyd i fonitro  mwslemiaid yn America, a hyd yn oed i'w gwahardd rhag cael mynediad i'r wlad yn gyfan gwbl. Mae hefyd wedi ymfalchïo bod rhai o'i gefnogwyr wedi rhoi cweir i brotestwyr croenddu, ac mae'n hoff o bardduo a sarhau menywod. Er hynny, neu, fwy na thebyg, o'r herwydd, mae wedi mwynhau mwy o sylw yn y cyfryngau na'r ymgeiswyr eraill i gyd gyda'i gilydd.

Ai ffasgydd yw Trump?  Mae'n gyhuddiad a deflir yn rhy rhwydd yn aml, ond yn yr achos hwn mae'n gwestiwn teg. Yn sicr, mae'n ticio nifer o'r bocsys. Ei arfer o godi bwganod senoffobaidd yw'r un amlwg: fel y dywedais, mae Trump wedi mynd i ymdrech arbennig i ddieithrio'r 'arall', gan fwydo paranoia llawer o'i ddilynwyr (hiliol, gwyn) ynghylch y newidiadau demograffig sy'n digwydd mor gyflym i'r boblogaeth ar hyn o bryd. Ceir hefyd y rhethreg ffasgaidd glasurol ynghylch palingenesis, yr angen i 'ad-ennill y wlad', sydd wedi dirywio i'r graddau bod angen ei ail-godi'n llwyr (teitl llyfr newydd Trump yw Crippled America).

Mae machismo yn elfen berthnasol arall. Ateb Trump i bopeth yw ei fod am gyflawni campau trwy wydnwch  a grym pur ei bersonoliaeth (nid oes sôn o fath yn y byd am fanylion na sylwedd yn ei areithiau). Ei hoff sarhad yw galw'r ymgeiswyr eraill yn 'wan' a dweud bod ganddynt 'ddiffyg egni'. Mae'r misogynistiaeth yn rhan o hyn hefyd, wrth gwrs, a cheir awgrym clir o reddf unbeniaethol. Bwli ydyw, i bob pwrpas.

Wedi dweud hyn i gyd, oedaf cyn ei alw'n ffasgydd o'r iawn ryw. Yn un peth, mae gan ffasgwyr fel arfer adain barafilwrol. Mae'n ddychrynllyd pa mor agos mae Trump yn dod at dicio'r bocs yma hefyd, oherwydd mae Trump wedi annog trais yn erbyn protestwyr, ac mae sawl ciwed o ffug-filwyr hunan-benodedig hanner-pan asgell-dde (fel yr Oath Keepers) wedi datgan eu cefnogaeth. Ond (am y tro!) mae digon o bellter rhyngddo a'r ffyliaid sinistr hyn fel nad oes modd eu galw'n fyddin bersonol. Fodd bynnag, y prif reswm nad yw Trump yn ffasgydd yw ei fod, yn llythrennol, yn rhy dwp. Nid dyn ideolegol ydyw, mewn gwirionedd. Rwy'n gyndyn nad oes ganddo syniadaeth wleidyddol ystyrlon. Yn wir, awn mor bell â mynnu nad oes ganddo'r gallu i ffurfio'r fath beth. Beth bynnag eich barn am arweinwyr ffasgaidd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roeddent yn bobl ddeallusol gyda gweledigaeth bendant a thrwyadl.

Cofier bod 'Y Donald' yn ffigwr cyhoeddus ers degawdau. Nes yn gymharol ddiweddar, bu'n weddol ryddfrydol ynghylch materion cymdeithasol (yn wir, fe roddodd arian i'r Clintoniaid yn y 90au). Mae'r ffaith ei fod bellach yn smalio bod yn Gristion o argyhoeddiad yn adrodd cyfrolau; mae'n amlwg nad oes ganddo'r syniad cyntaf am y ffydd. Ysywaeth, mae'r ffars, rywsut, yn plesio. Mae'n amlwg felly mai'r unig bethau sy'n gyrru Trump yw ei ego, a'r dyhead i gipio grym er ei fwyn ei hun. Os oes y fath beth â Thrwmpiaeth, yna'r diffiniad yw 'beth bynnag sy'n dda i Donald Trump'. Y jôc yw mai un o'i brif rinweddau, yn ôl llawer o'i gefnogwyr, yw ei 'barodrwydd i'w dweud hi'n blaen fel ag y mae hi'. Dyna wrthwyneb llwyr y gwir.

Demagog poblyddol ydyw felly, fwy na ffasgydd. Ni ddylai hynny gynnig cysur, gyda llaw. Rhaid holi sut y daeth y fath gymeriad yn ffigwr mor amlwg yng ngwleidyddiaeth gwlad rymusaf y byd. Y broblem yw bod yr holl sylw i Trump, a'r modd y mae'r cyfryngau'n ei drafod, yn awgrymu ei fod yn bodoli mewn rhyw fath o wacter, fel petai wedi ymddangos o nunlle; roedd y modd y tybiodd y cyfryngau ar y pryd bod ei sylwadau ymfflamychol yn debygol o'i niweidio yn dangos yn glir nad ydynt wedi deall y ffenomen. Y gwir amdani yw mai symptom o broblem ddyfnach yw Trump. Nid y dyn ei hun yw'r drwg, ond bodolaeth cynifer o bobl sydd mor barod i'w gefnogi. Dyma ffaith y mae'n hanfodol i America ymgynefino â hi: mae cyfran anferth o'i phoblogaeth yn arswydus o dwp a rhagfarnllyd. A bai'r Gweriniaethwyr yw'r ffaith bod y garfan yma bellach mor swnllyd.

Mae hanes y dde adweithiol yn America yn hysbys. Gwyddom bod hiliaeth yn broblem anferthol yno hyd heddiw, hyd yn oed os nad yw bellach yn dderbyniol i'w fynegi yn yr un termau amrwd ag y bu yn y gorffennol. Yn hytrach, defnyddir y 'chwiban ci', sef math o gôd sy'n swnio'n gymharol ddi-niwed a didwyll ar un olwg ond sy'n glir ei oblygiadau hiliol i'r gynulleidfa darged. Dyma oedd craidd Strategaeth y De, o gyfnod Nixon ymlaen. Mynegwyd y syniad orau yn 1981 gan un o'i arloeswyr, Lee Atwater, a oedd ar y pryd yn ymgynghorydd yng ngweinyddiaeth Reagan:
You start out in 1954 by saying, "Nigger, nigger, nigger." By 1968 you can't say "nigger"—that hurts you. Backfires. So you say stuff like forced busing, states' rights and all that stuff. You're getting so abstract now [that] you're talking about cutting taxes, and all these things you're talking about are totally economic things and a byproduct of them is [that] blacks get hurt worse than whites. And subconsciously maybe that is part of it. I'm not saying that. But I'm saying that if it is getting that abstract, and that coded, that we are doing away with the racial problem one way or the other. You follow me—because obviously sitting around saying, "We want to cut this," is much more abstract than even the busing thing, and a hell of a lot more abstract than "Nigger, nigger."
Dyma sut mae llywodraethau Gweriniaethol wedi llwyddo i hyrwyddo polisïau hiliol tra'n cadw'r gallu i wadu'r peth (gyda winc). Mae'r pleidleisiwyr hiliol yn gwybod yn iawn beth yw'r amcan, ac felly'n eu cefnogi'n frwd. Mae'r blaid wedi bod yn bwydo a meithrin yr hiliaeth 'gudd' yma ers blynyddoedd. Nid ymddangos o nunlle y mae cefnogwyr Trump wedi'i wneud, eithr magu hyder (a dychryn o weld arlywydd croenddu yn y Tŷ Gwyn). Digwyddiad allweddol yn y broses hon, efallai, oedd penderfyniad hollol anghyfrifol John McCain - aelod o sefydliad 'cymhedrol' y blaid - i ddewis Sarah Palin fel ei ddarpar-is-arlywydd yn 2008. Fel Trump, mae hi'n glown llwyr, ac fe fanteisiodd i'r eithaf ar y sylw gan ddod yn un o arwyr ysbrydol y Tea Party. Fel mae'n digwydd, fe ddatganodd Palin ei chefnogaeth i Trump heno; mae'r ffaith ei bod yn gwneud hynny er i Trump ymosod yn hyll ar McCain yn symbol berffaith o'r modd y creodd y blaid fwystfil sydd wedi tyfu tu hwnt i'w rheolaeth. Mae arweinwyr sefydliadol y Gweriniaethwyr bellach mewn panig.

Y perygl yw bod eithafiaeth Trump wedi gwthio ffenestr Overton hyd yn oed ymhellach i'r dde nag yr oedd yn barod, gan wneud i rywun fel Ted Cruz edrych yn dderbyniol mewn cymhariaeth. A dweud y gwir, buaswn i'n awgrymu bod Cruz hyd yn oed yn waeth na Trump mewn sawl ffordd. Er mai Trump sy'n cael y rhan fwyaf o'r sylw oherwydd ei ymgyrch anghonfensiynol a'i ddiffyg urddas, mae Cruz yn cytuno ag ef ynghylch y materion mwyaf dadleuol. Efallai bod y ffaith bod Cruz yn Seneddwr, a'n wleidydd medrusach, yn gwneud iddo swnio'n llai eithafol. Mae hefyd, yn wahanol i Trump, yn ddyn deallus a chanddo weledigaeth ac egwyddorion clir (er hollol frawychus). Yn hynny o beth, gellir dadlau bod Cruz hyd yn oed yn nes at fod yn ffasgydd nag yw Trump. Beth bynnag, mae'r ddau'n arddel y math o wleidyddiaeth sy'n cael ei neilltuo, fwy neu lai, yn Ewrop, i bleidiau penodol lled neo-ffasgaidd. Y ffaith bod Trump a Cruz yn gweithredu o fewn system wleidyddol dwybleidiol America sy'n niwlogi'r ffin.

Fe ddywedais yn gynharach nad ffasgydd mo Trump. Ond mae'n hawdd dychmygu ei gefnogwyr yn cefnogi ffasgydd go iawn petai un o'r rheiny'n ymddangos. Mae arwyddion mai Cruz yw ail ddewis llawer o gefnogwyr Trump. Felly'r gwir plaen amdani yw bod oddeutu 60% o gefnogwyr y Gweriniaethwyr yn cefnogi rhywbeth tebyg i ffasgaeth. Mewn geiriau plaen, mae mwyafrif o gefnogwyr un o ddwy brif blaid America yn agos at fod yn ffasgwyr. Ni fyddai'n cymryd llawer iddynt gymryd y naid olaf yna, yn fy marn i. Mae'r deunydd crai yno.

Oni bai bod cefnogaeth Marco Rubio - unig obaith y sefydliad erbyn hyn - yn cynyddu'n sydyn, ymddengys yn fwyfwy tebygol mai dewis rhwng Trump a Cruz fydd raid. Y ffaith ryfeddol yw ei bod yn bosibl, yn fy marn i, y byddai'n well gan sefydliad y Gwerinaiethwyr weld Trump yn ennill yr enwebiad na Cruz. Mae hyd yn oed llawer o gyd-weithwyr Cruz, gan gynnwys rhai o aelodau'r Tea Party, yn casáu Cruz oherwydd ei unplygrwydd a'i drahauster. Mewn etholiad cyffredinol, mae'n bosibl dychmygu Trump - sy'n fodlon dweud beth bynnag sy'n gyfleus iddo - yn anghofio popeth am ei ddaliadau blaenorol a smalio bod yn greadur y canol drachefn. Nid yw hynny'n wir o gwbl yn achos Cruz. Ar ben hynny, mae posibilrwydd cryf y byddai Trump yn pwdu'n arw petai'n colli, a'n sefyll fel ymgeisydd annibynnol. Byddai hynny'n gwneud pethau hyd yn oed yn haws i'r Democratiaid.

Pwy bynnag sy'n ennill yr enwebiad, mae'n anodd iawn dychmygu Arlywydd Trump neu Arlywydd Cruz. Er eu poblogrwydd o fewn eu plaid eu hunain, nid yw gweddill y boblogaeth yn meddwl rhyw lawer o'r naill na'r llall. Ond yn y wlad ryfedd yna, ni ddylid bod yn ddi-hid am y posibilrwydd, a dylai'r syniad godi braw ar bawb call. Beth bynnag yw'r canlyniad ym mis Tachwedd, mae'r broblem ar ochr y Gweriniaethwyr yn achosi niwed aruthrol i wleidyddiaeth America.

No comments:

Post a Comment