17/02/2016

Theorïau cynllwyn

Roeddwn yn westai ar Dan Yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth neithiwr, yn trafod theorïau cynllwyn (mae'r eitem yn dechrau ar ôl 27:20).

Mae miloedd o'r rheiny'n hedfan o gwmpas, wrth gwrs. Gofynwyd yn benodol am lofruddiaeth John F Kennedy, a'n anffodus mae'n sbel go hir ers i mi astudio manylion yr achos hwnnw felly roedd yn anodd ymateb i honiadau penodol am yr hyn a ddigwyddodd. Y prif bwynt (ac rwy'n gresynu i mi beidio'i wneud yn gliriach ar y rhaglen) yw bod bywyd yn flêr. Hynny yw, mae cymaint o wybodaeth (a mwy fyth o gamwybodaeth) ar gael am bob digwyddiad o dan haul, mae'n ddigon hawdd dewis a dethol y darnau sy'n cefnogi'ch hoff naratif. Roedd hyn eisoes yn ddigon gwir yn y blynyddoedd wedi saethu JFK, ond mae'n amlwg yn llawer i awn gwaeth ers dyfodiad yr we.

Byddai optimydd wedi gobeithio byddai'r we, gyda'r holl wybodaeth am y byd ar flaen ein bysedd, yn ei gwneud yn haws lledaenu'r gwir ffeithiau ac felly'n ei gwneud yn anos i theorïau amgen ac ecsentrig ffynnu. Y gwrthwyneb sydd wedi troi i fod yn wir, wrth gwrs: mae'r rhyngrwyd wedi'i gwneud yn llawer haws i bobl od ganfod pobl od eraill, gan eu galluogi i atgyfnerthu eu rhagdybiaethau ei gilydd mewn siambr eco. Os rywbeth, mae'r we wedi lleihau ein dibyniaeth ar y cyfryngau prif lif, ac mae hynny'n hwb mawr i rith-gymunedau sydd fel petaent yn byw mewn bydysawd amgen.

Mae pobl yn credu yn y theorïau hanner pan yma am resymau seicolegol, neu sosio-wleidyddol, neu gyfuniad o'r ddau. Y gwir yw bod person sy'n arddel un yn tueddu i dderbyn llawer o rai eraill hefyd, hyd yn oed os ydynt yn gwrthddweud ei gilydd. Mae'n ffenomen ddiddorol, ac roedd yn ddiddorol clywed yr hyn yr oedd gan y seicolegydd Dr Mair Edwards i'w ddweud. Fel anffyddiwr, yr hyn sydd wedi fy nharo ers tro yw bod greddf grefyddol iawn yn amlwg yn y sawl sy'n hyrwyddo'r theorïau mwy cynhwysfawr, (fel David Icke a'i ddilynwyr, er enghraifft) sy'n beio popeth, yn llythrennol ar yr Illuminati bondigrybwyll. Mae pobl felly'n methu'n lân ag amgyffred y syniad bod pethau anffodus weithiau'n digwydd heb fod yna reswm ehangach. Weithiau, mae twysogesau'n marw mewn damweiniau car. Weithiau, mae terfysgwyr yn ymosod. Weithiau, mae pobl yn marw'n annisgwyl. Maent yn ddigwyddiadau anarferol ar lefel unigol, ond y paradocs (yn arwynebol, o leiaf) yw bod pethau anarferol yn digwydd drwy'r amser. Yn union fel y mae'n dra annhebygol i chi ennill y loteri, eto i gyd, bron bob wythnos, mae rhywun yn rhywle'n llwyddo i wneud hynny. Ond i Icke a'i debyg, rhaid bod popeth yn ran o gynllwyn bwriadol. Mewn ffordd, mae'r Illuminati (neu bwy bynnag) yn chwarae rhan y Diafol.

Felly ydw, rwy'n ddrwgdybus o theorïau cynllwyn ar y cyfan. Fel y trafodwyd, mae angen sceptigiaeth; byddai derbyn gair swyddogol y llywodraeth yn ddi-gwestiwn bob tro'n gofyn am drafferth. Pan mae newyddiadurwyr yn y broses o ymchwilio i awgrymiadau bod y llywodraeth wedi camymddwyn, 'theori gynllwyn' yw honno ar y pryd, mewn rhyw ystyr. Ond pan ddaw cadarnhad ei bod yn wir, mae'n colli'r label hwnnw ac mae angen ei alw'n rywbeth arall. 'Sgandal', er enghraifft. Mewn gwirionedd, pan mae pobl yn sôn am theorïau cynllwyn, sôn y maent am honiadau lle nad oes tystiolaeth o'u plaid (a'n aml, lle mae llawer o dystiolaeth yn eu herbyn). Mae cadw meddwl agored yn iawn, ond nid i'r graddau bod eich hymennydd yn syrthio allan.

No comments:

Post a Comment