Roeddwn ar Taro'r Post yn gynharach heddiw (31 munud i mewn), yn trafod y penderfyniad i beidio dangos hysbyseb gan Eglwys Loegr yn sinemâu Odeon, Cineworld a Vue. Mae'n ffrae ffug mewn sawl ffordd. Nid gwahardd hysbyseb unigol a wnaed. Yn hytrach, mae gan y cwmnïau bolisi cyffredinol, ers tro, o beidio dangos unrhyw hysbysebion o natur gwleidyddol neu grefyddol. Yn hynny o beth, mae cynnwys yr hysbyseb benodol - sef pobl amrywiol yn adrodd llinell yr un o Weddi'r Arglwydd - yn hollol amherthnasol (mae rhywbeth bron yn annwyl, gyda llaw, am y syniad mai problem yr Eglwys yw nad yw pobl rywsut yn gyfarwydd â'r weddi honno).
Dau ddewis sydd gan y cwmnïau hyn mewn gwirionedd: y polisi presennol, neu agor y drws i hysbysebion gwleidyddol a chrefyddol o bob math. Byddai polisi o ddewis a dethol hysbysebion crefyddol neu wleidyddol unigol yn creu problemau ymarferol dyrys (a chyfreithiol, fwy na thebyg), felly chwarae'n saff yw peidio'u derbyn o gwbl.
Penderfyniad masnachol llwyr yw hynny. Mae'r mwyafrif o'r cwsmeriaid, wedi'r cyfan, yno'n unswydd er mwyn mwynhau awr a hanner o adloniant di-feddwl. Pryder perchnogion y sinemâu yw y byddai'u gorfodi i eistedd drwy bregeth, neu i wrando ar rywun ar ei focs sebon gwleidyddol, yn diflasu, dadrithio neu dramgwyddo'r cwsmeriaid hynny, gan beri iddynt aros adref yn y dyfodol. Efallai bod hynny'n wir; efallai ddim. Ond cytuno neu beidio, mae gofid y cwmnïau'n berffaith ddealladwy, a gallaf weld y ddwy ochr. Yn bersonol, petawn yn berchen ar sinema, rwy'n credu buaswn i'n fodlon derbyn arian yr Eglwys; ni welaf wahaniaeth egwyddorol o bwys rhwng hysbysebion 'gwleidyddol' a rhai ar gyfer unrhyw gynnyrch cyfalafol; mewn ffordd, mae pob hysbyseb yn wleidyddol. Ond y pwynt yw mai mater o chwaeth bersonol yw hyn, yn y pen draw.
Un peth sy'n sicr: nid mater o ryddid mynegiant mohono, o fath yn y byd. Nid yw rhyddid mynegiant yn golygu hawl awtomatig i fynnu bod rhywun arall yn darparu'r platfform. Roedd Taro'r Post yn ddigon caredig i'm gwahodd i gyfrannu heddiw, ond petawn i'n dechrau mynnu bod rhaid i Garry Owen ddarparu slot deg munud i mi bob dydd, nid amharu ar fy rhyddid mynegiant fyddai gwrthod, eithr penderfyniad golygyddol synhwyrol. Yr un yw'r egwyddor yn union yn achos y sinemâu.
Y peth hanfodol am ryddid barn, wrth gwrs, yw'r hawl i gwyno am farn pobl eraill. Oes, wrth gwrs, mae gan gwsmeriaid Cristnogol y sinemâu bob hawl i roi pwysau arnynt i ail-ystyried y polisi. Ac mae gan y cwmnïau wedyn yr hawl unai i gyd-synio neu i barhau i'w hanwybyddu. Yr hyn sy'n fy nghorddi, fodd bynnag, yw tuedd barhaus a syrffedus gormod o Gristnogion i gwyno bod achosion fel hyn yn symptom o ryw fath o erledigaeth yn eu herbyn. Dyma rwy'n ei gasáu fwyaf am Gristnogaeth fodern: mae gan y ffydd statws breintiedig a gor-barchus yn ein cymdeithas o hyd, ond nid yw hynny'n ddigon i rai o'i lladmeryddion. Yn eu tyb hwy, mae trin Cristnogaeth yr un fath â phob ffydd arall (neu fel unrhyw ideoleg arall o ran hynny) gyfystyr â'u herlid a'u croeshoelio. Mae llawer iawn o'r ymateb i'r stori yma (megis ymdriniaeth ragweladwy'r Daily Mail) yn drewi o'r persecution complex pathetig yma. Yn absenoldeb unrhyw annhegwch go iawn yn erbyn Cristnogion, rhaid iddynt ei ddychmygu.
Mae'n bur amlwg, a dweud y gwir, mai ffrwyth ymgyrch PR ddigon sinigaidd gan yr Eglwys yw hyn i gyd. Mae polisïau o'r fath yn gyffredin dros ben. Wedi'r cyfan, mae cyfyngiadau llym ar y math o hysbysebion y mae modd eu darlledu ar y teledu. Ni fyddai'n syndod petai'r Eglwys yn deall hynny'n iawn o flaen llaw, ac mai'r bwriad o'r cychwyn cyntaf oedd manteisio ar gyfle i bortreadu'u hunain fel merthyrod. O gofio'r holl sylw - a hynny'n rhad ac am ddim - teg dweud bod yr ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus. A dyma fi fy hun yn cyfrannu i'r sylw hwnnw.
Dyma ddolen i'r hysbyseb, gyda llaw; mae'r teitl a roddwyd i'r clip yn profi fy mhwynt.
No comments:
Post a Comment