25/06/2012

Crefydd, cysur a hunllef y nefoedd

Un o brif rinweddau honedig crefydd yw'r cysur a geir ynddi, yn enwedig pan mae angen ymdopi â marwolaeth. Fe haerir bod ffydd grefyddol, a'r cysyniad o nefoedd yn benodol, o gymorth pan fyddwch ar eich gwely angau neu'n dioddef profedigaeth. Yn wir, ambell dro fe glywch rhywun yn dweud bod gwirionedd y crefydd ei hun yn llai pwysig na'r cysur yma a gawn trwy gredu ynddi. Wrth gwrs, gan fy mod yn anffyddiwr rhonc, byddech yn disgwyl i mi anghytuno â hyn i gyd. Byddech yn berffaith gywir, ond mae'n werth esbonio pam.

Y peth amlwg cyntaf i'w ddweud yw nad yw ein dyhead i rywbeth fod yn wir yn golygu ei fod. Hyd yn oed petai'n berffaith gywir bod crefydd yn cynnig cysur a gobaith, a'n diwallu pob math o anghenion emosiynol personol, nid yw hynny ynddo'i hun yn golygu bod unrhyw wirionedd yn perthyn iddi. Mae'r canlynol yn osodiadau cyffredin iawn: "Ond mae'n rhaid bod yna rywbeth", neu "Mae'n rhaid ein bod yn mynd i rywle wedi i ni farw". Yr unig sail i'r 'rhaid' yma yw dyhead. Yn y ddau achos, yr unig ymateb synhwyrol yw "Na; pam ddylai yna fod?" Efallai eich bod yn ystyried yr ateb yn anfoddhaol neu'n greulon, ond mae hynny'n gwbl amherthnasol. Nid yw realiti'n poeni amdanoch. Tystiolaeth sy'n bwysig; nes bod rhywbeth felly'n dod i law sy'n rhoi rheswm da i dderbyn gwirionedd y grefydd, nid oes pwrpas rhuthro ymlaen i drafod unrhyw fanteision honedig a gawn o'i herwydd. Mewn byd call, y man cychwyn yw dangos bod yr holl beth yn wir yn y lle cyntaf. Rydym yn aros o hyd. Efallai mai fi sy'n od, ond yn fy marn i nid oes cysur o gwbl i'w gael mewn celwydd.

Er yr uchod i gyd, erys y ffaith mai pryder am farwolaeth yw un o'r prif resymau mae cymaint o bobl yn dal gafael ar ffydd grefyddol. Yn wir, mae'n syndod cymaint o anffyddwyr, hyd yn oed, sy'n rhy barod o lawer i ildio'r pwynt bod gan grefydd fwy i'w gynnig i bobl mewn galar. Rwy'n credu bod hynny'n gamsyniad enfawr: os oes cysur a gobaith i'w gael trwy dderbyn rhyw athrawiaeth grefyddol neu'i gilydd, mae hynny'n wir dim ond cyn belled nad ydym yn meddwl am y peth am fwy nag ychydig eiliadau.

Pan mae rhywun yn troi at grefydd oherwydd galar neu am eu bod ar fin marw eu hunain, teg dweud mai'r prif gysur iddynt yw'r cysyniad o'r nefoedd. Mae pob un o'r prif grefyddau'n cynnwys fersiwn ohono, ac mae'n siwr bod hynny'n dweud cryn dipyn am y natur ddynol, ein dyheadau, a'n niwrosis parthed marwolaeth. Ar yr olwg gyntaf, mae synnwyr cyffredin yn awgrymu bod y nefoedd yn lle braf i fod. Pwy yn ei iawn bwyll fyddai'n anghytuno bod dedwyddwch tragwyddol, yng nghwmni pobl rydych yn eu caru a'u hoffi, yn rhywbeth i obeithio amdano? Fel y dywedais uchod, fodd bynnag, mae meddwl am y peth yn ddyfnach yn dod â nifer o broblemau i'r amlwg.

Yn un peth, mae'r syniad o nefoedd yn drafferthus iawn os ystyriwn y goblygiadau i ewyllys rydd. Cofier bod ewyllys rydd, i fod, yn rodd y mae'r duw wedi'i roi i ni. Eto i gyd, os mai un profiad cyson-dragwyddol o bleser a hapusrwydd pur a gawn yn y nefoedd, a yw hynny'n golygu nad oes gennym y gallu i wneud penderfyniadau gwael yno? Mae gorchfygu heriau er mwyn gwella'n hunain yn ran bwysig o'r hyn sy'n creu ein personoliaeth, ond sut mae gwneud hynny os ydyw'n amhosibl cymryd unrhyw gam gwag? Neu beth am ein cyfathrach ag eraill? A oes anghytuno a dadlau a checru yn y nefoedd? Os na, onid yw hynny'n peri i ni golli rhan enfawr o'r hyn sy'n ein gwneud yn unigolion, yn gymeriadau gwahanol? Wedi'r cyfan, mae pawb yn anghytuno weithiau, hyd yn oed gyda'r bobl maent yn eu caru fwyaf. Dylai fod yn amhosibl osgoi'r peth yn y nefoedd, cofier, gan fod y preswylwyr yno am byth! Yn fwy na hynny, mae rhai pobl yn mwynhau dadl dda weithiau; dyna i chi benbleth! Ond os yw gwrthdaro'n gwbl absennol yn y nefoedd, mae'n rhaid bod cydymffurfiaeth gadarn yn cael ei orfodi ar bawb. Dyna amen ar ein hawl i fynd yn groes ag unrhyw un arall, ac o'r herwydd gyda'r gyfundrefn ei hun. Roedd Christopher Hitchens yn berffaith iawn i ddweud mai'r disgrifiad gorau o deyrnas duw'r beibl yw rhyw fath o 'divine North Korea' hunllefus.

Y paradocs yma yw'r brif ddadl resymegol yn erbyn y syniad o'r nefoedd. Dau bosibilrwydd yn unig sydd: unai'r hyn y disgrifiaf uchod ar un llaw (gan olygu bod rhaid dweud hwyl fawr wrth ewyllys rydd), neu ar y llaw arall fe ganiateir gwrthdaro (gan roi'r farwol i'r syniad bod popeth yn ddedwydd). Ni ellir cael ewyllys gwbl rydd a gwynfyd tangnefeddol pur ar yr un pryd.

Mae hyn yn cyffwrdd ar bwynt arall, sef y byddai'r cydymffurfiaeth yma'n gwneud pethau'n eithriadol o ddiflas. Eto, cofier mai aros yn y nefoedd yw tynged y ffyddlon hyd dragwyddoldeb: nid oes dianc rhag y rhigol. Mae rhywle lle mae pawb yr un fath a'n cytuno'n llawen, fel petaent i gyd yn zombies di-gymeriad llawn morffîn, yn syniad brawychus i mi. Beth fyddai testun unrhyw sgwrs? Os nad oes anghytundeb i fod, mae hynny'n gwahardd trafodaeth gall a chyflawn am bron bob pwnc. A oes modd dweud unrhyw beth heblaw canmol y duw?

Yn ogystal, hyd yn oed pe ystyriwn ein pleserau pennaf, nid yw'n bosibl iddynt barhau i roi pleser i ni am byth. Mae gormod o unrhyw bwdin blasus yn ein diflasu'n y pen draw. Wedi mileniwm, neu filiwn neu chwe biliwn o flynyddoedd, mae'n anodd dychmygu na fyddai hyd yn oed ein hoff bethau'n ein syrffedu ar ôl cyfnod mor faith. Un ddelwedd gartwnaidd o'r nefoedd yw lle sy'n orlawn o angylion yn chwarae'r delyn. Er mor bersain yw'r offeryn honno, rwy'n sicr y byddwn wedi mynd yn wallgof ymhen llai nag wythnos o'i chlywed yn ddi-baid, heb sôn am chwe biliwn o flynyddoedd a mwy. Os mai'r ateb i hyn yw bod pawb yn y nefoedd yn mwynhau sain y delyn ac na fydd unrhyw un yn blino arno, unwaith eto mae hynny'n difetha ein hunigoliaeth.

Ystyrier hefyd achos islam a'r syniad (anhygoel o blentynnaidd) bod 72 houri ar gyfer pob dyn yn fersiwn y grefydd honno o baradwys. Er bod llawer o'r hadithau a'r sylwebaeth islamaidd sy'n trafod y pwnc yma'n darllen fel cynnyrch ffantasïol bechgyn pymtheg oed, mae'n rhaid y byddai hyd yn oed y pleser cnawdol hwnnw'n pylu ar ôl biliwn o flynyddoedd neu wyth.

Beth am ornestau neu gystadlaethau? A oes gemau yn y nefoedd? Nid pwynt gwamal mo hyn: maent yn ran hynod bwysig o adloniant a diddanwch yma ar y ddaear, ond mae natur y fath bethau'n golygu bod rhaid i rywun golli. Yn ôl y cysyniad o'r nefoedd nid yw'n bosibl i unrhyw un 'golli' unrhyw beth, ond mae hynny'n golygu nad oes cystadlaethau i'w cael yno o gwbl. Eto, y canlyniad yw diflastod pur.

Hyd yn oed os oes modd mwynhau bod yn y nefoedd er gwaethaf yr hyn rwyf wedi'i ddweud yn barod, dylai'r ymwybyddiaeth o fodolaeth uffern sbwylio popeth i unrhyw un sy'n meddu ar ronyn o empathi a thrugaredd. Nid wyf yn credu mewn unrhyw dduw, a hyd yn oed petai'r duw cristnogol (dyweder) yn bodoli, byddai'n rhaid i mi ei gasáu. Os yw'r uffern gristnogol yn bodoli, felly, mae'n eithaf saff mai dyna fydd fy nghynged yn y pen draw. Gobeithio nad wyf yn bod yn hy wrth obeithio y byddai fy nioddefaint tragwyddol yn pwyso'n drwm ar galon unrhyw aelodau o'm teulu neu gyfeillion sy'n digwydd edrych i lawr o'r nefoedd (yn ôl ambell eithafwr, mae edrych lawr ar y dioddefwyr yn cael eu poenydio'n y fflamau yn ychwanegu at y pleser o fod yn y nefoedd, ond nid oes angen dweud mwy am agweddau afiach fel hynny). Yn sicr, petawn yn gristion ffyddlon ac ufudd sydd wedi llwyddo i gael mynediad i'r nefoedd, byddai gwybod bod pobl eraill yn dioddef y fath artaith yn y tân a'r brwmstan yn gwneud y profiad yn annioddefol. Wrth gwrs, yr unig ateb i hynny yw nad yw'r math yna o beth yn poeni pobl yn y nefoedd, ac ein bod yn colli pob owns o empathi. Morffîn eto, fe ddichon. Yr un yw'r canlyniad ag o'r blaen: gan fod tosturi a'r gallu i gydymdeimlo'n ran annatod ohonom oll, fe ddinistrir yr hyn sy'n ein gwneud yn gymeriadau cyflawn.

Mae yna broblem enfawr ac amlwg arall: os yw'r nefoedd mor fendigedig, pam gwastraffu amser ar y blaned yma? Oni ddylai marwolaeth fod yn destun gorfoledd? Oni ddylai gwellhad rhag unrhyw salwch fod yn rywbeth i'w osgoi? Petai gennyf ddedwyddwch tragwyddol i edrych ymlaen ato, byddwn yn osgoi gwneud unrhyw beth i ohirio'r cyfnod hwnnw. Mae yna rywbeth annifyr yn y syniad, gan ei fod yn tanseilio a di-brisio ein bywydau presennol, ein bywydau go iawn, sef yr unig fywyd a gawn o gwbl mewn gwirionedd. I'r anffyddiwr mae bywyd yn werthfawr er ei fwyn ei hun, a dylem wneud y gorau ohono oherwydd dyma ein hunig gyfle. I bobl grefyddol, dim ond modd o sicrhau rhywbeth gwell yn nes ymlaen ydyw.

Mae popeth sydd gan grefydd i'w gynnig parthed ymdopi â marwolaeth yn gelwydd di-synnwyr yn fy marn i. Mae'n deg gofyn felly sut atebion sydd gan anffyddiaeth i'w cynnig, ac efallai bod deunydd cofnod blog arall yn yr ateb. Am y tro, digon yw dweud bod pawb yn dygymod â sefyllfaoedd fel hyn mewn ffyrdd gwahanol (mae'n bosibl iawn bydd f'atebion i'n wahanol i rai anffyddwyr eraill). Er popeth rwyf wedi'i ddweud, nid fy mwriad yw mynnu bod pobl yn galaru neu'n wynebu marwolaeth mewn ffordd benodol. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i wneud hynny, gan ei fod yn fater mor bersonol. Rwy'n pwysleisio hyn rhag ofn i unrhyw un neidio i'r casgliad fy mod yn hoffi teithio o fynwent i fynwent yn sgrechian ar weddwon dagreuol am iddynt gredu pethau anghywir. Yr hyn rwy'n ymosod arno yw'r syniad bod gan grefydd fonopoli yn y maes. Mae'r canfyddiad hwnnw'n wrthun i mi, am y rhesymau uchod.

4 comments:

  1. Dyna pham, mae'n siwr, nad oes yna lawer iawn o gwbwl o fanylion penodol ynglŷn ag union natur y nefoedd, naill ai yn y beibl neu mewn llenyddiaeth cristnogol yn gyffredinol. Cymharwch hyn a'r manylion helaeth a roddir i ni am yr artaith sy'n ein disgwyl yn uffern - brwmstan, picelli yn y tin ayyb - mae'r tawelwch cymharol hyn yn dweud cyfrolau, ddwedwn i, er nad oes neb yn sylwi arni'n aml. Siaradwch â christnogion pybr a fe roddwn nhw lawer iawn o fanylion am uffern ond dim ond rhyw 'generalisations' eang am y nefoedd.

    Mae'n amlwg bod pobl wedi sylweddoli nad yw'n bosib disgrifio dedwyddwch perffaith heb orfodi cwestiynnau anodd, fel y rhai yr wyt ti'n ei ofyn yma! Da iawn!

    ReplyDelete
  2. Diolch!

    Mae'n siwr byddai llawer o gristnogion yn ateb hynny trwy awgrymu bod gan bawb syniad gwahanol o'r hyn a fyddai'n baradwys ddedwydd berffaith. Ni fyddai nefoedd pawb yr un fath. Ond hyd yn oed o dderbyn hynny byddai'r problemau cysyniadol yn parhau.

    ReplyDelete
  3. Un o'r pethau sydd yn mynd dan fy nghroen i yn y byd gwleidyddol yw troliaid sydd yn mynnu "os wyt yn credu X mae'n rhaid dy fod yn credu z hefyd". Er enghraifft gan fy mod yn genedlaetholwr Gymreig mae'n raid fy mod yn casáu Saeson; neu gan fy mod yn geidwadol mae'n rhaid fy mod yn gwrthwynebus i hawliau gweithwyr.

    Mae'r tuedd yna yn dy bost uchod , Dylan.

    Yn rhyfedd iawn , er fy mod yn hyn o lawer na thi a gan hynny yn debycach o dy ragflaenu di i'r fedd neu'r amlosgfa, nid ydwyf yn poeni fy mhen yn ormodol am y byd a ddaw. O feddwl am farwolaeth rwy'n poeni am yr un pethau a phawb arall – a fydd to uwchben fy ngwraig a fy mhlant os caf hartan heno? A fydd costau cynhebrwng yn achosi dyled a loes ariannol i'r teulu?

    Ers dyfod yn Gristion ym 1975, nid ydwyf unwaith wedi meddwl mae fy ngwobr am ddilyn y ffydd byddai ffwcio gwyryfon na gwylio Cymru yn enillit pob gêm rygbi tu hwnt i'r llen. Dadl dyn gwellt, Dylan – rydym yn haeddu gwell!

    Dyma stori difir i godi dy wrychyn, un sy'n gwneud imi deimlo bod ambell i Gristion yn gwneud gwell job na thi i godi gwawd ar fy ffydd:

    Loch Ness Monster is Proof that evoloution is a Myth

    ReplyDelete
  4. Ystyr dadl dyn gwellt yw creu cariciature camarweiniol o ddadl dy wrthwynebydd ac ymosod ar hwnnw yn hytrach na'r ddadl go iawn.

    Nid wyf wedi gwneud yr hyn rwyt yn fy nghyhuddo o'i wneud yn unman. Mae dy gyhuddiad fy mod wedi adeiladu dyn gwellt yn enghraifft o'r dacteg honno ynddi'i hun.

    Fe amlinellais sawl elfen o'r canfyddiad poblogaidd o'r nefoedd, gan ddangos y problemau a geir wrth graffu arnynt yn fanylach, ond nid wyf wedi dweud o gwbl bod pob cristion yn rhannu'r un weledigaeth o'r hyn a geir ym 'mharadwys'. Mae croeso i ti gynnig fersiwn sy'n osgoi'r holl drafferthion rhesymegol ac ymarferol a drafodir uchod, os oes gennyt un mewn golwg.

    Os nad wyt yn fodlon gwneud hynny, rwyt yn cadarnhau pwynt BoiCymraeg. Mae'n hawdd dweud "Wel nid dyna rwyf i yn ei gredu". Iawn, digon teg. Ond beth yn union wyt ti'n ei gredu?

    Er lles y drafodaeth rwy'n fodlon anwybyddu'r ffaith nad oes unrhyw dystiolaeth o blaid y nefoedd yn y lle cyntaf ac nad yw'n bosibl cyfiawnhau darlun manwl ohono. Adlewyrchiad o ddyheadau personol y crediwniwr fyddai peth felly. Ond byddai rhyw syniad bras hypothetig ohono nad yw'n baglu dros ei anghysonderau ei hun yn welliant ar yr hyn rwyf wedi'i glywed gan unrhyw un hyd yma.

    ReplyDelete