06/11/2013

Cristnogaeth a'r Gymraeg

Wrth ddathlu tranc crefydd yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf, mae rhywun yn aml yn cael ateb i'r perwyl bod gan y Gymraeg lawer o le i ddiolch i Gristnogaeth. Y ddadl yw y byddai'r iaith mewn lle llawer gwaeth heddiw oni bai am anghydffurfiaeth a diwylliant y capeli, sef, fwy neu lai, yr unig sefydliadau ffurfiol yng Nghymru lle roedd y Gymraeg yn gyfrwng naturiol. Cyn dyfodiad y system addysg Gymraeg, mae'n berffaith wir mai yn y capeli yr oedd y rhan fwyaf o Gymry'n dysgu defnyddio'u hiaith eu hunain yn hyderus, yn enwedig yn ysgrifenedig. Ni ddylid anghofio cyfraniad llawer o eglwyswyr chwaith: roedd cyfnod yn y ddeunawfed ganrif pan roedd Cymru ymysg y gwledydd mwyaf llythrennog yn Ewrop gyfan, diolch i Griffith Jones, Llanddowror.

Ond ai un ochr y stori'n unig yw hyn? Onid yw'n bosibl bod Cristnogaeth wedi niwieidio'r iaith mewn rhai ffyrdd? Tybed ai un sgil-effaith o ffyniant y Gymraeg yn y capel oedd arafu brys y Cymry i fynnu system addysg go iawn (a sefydliadau eraill) yn eu hiaith?

Rwyf wedi pendroni ynghylch hyn ers amser, ond ysgogwyd y cofnod hwn gan gyfrol Siôn Jobbins, The Phenomenon Of Welshness (rwyf newydd ddarllen hwnnw a bellach wedi dechrau'r ail. Difyr a phryfoclyd. Mae llawer iawn i gytuno ag ef, er nid popeth: byddai'n gas gennyf weld teulu brenhinol Cymreig, er enghraifft). Yn y gyntaf mae ganddo ysgrif am anghydffurfiaeth a diwygiad enwog 1904 sy'n mynegi'r ddadl yma: "Nonconformism created a ghettoised Welsh counter-culture, with its own institutions and networks". Â ymlaen:
Rather than saving the language, the Sunday school, however successful, acted as an educational ghetto, diverting energy from campaigning against the Welsh Not. For as long as nonconformity was the badge of Welsh identity, the British state could continue its strategy of creating compliant Welsh subjects. The Revival of 1904 was a shot in the arm for a religious cultural movement, which intellectually stonewalled the development of a civic, assertive Welsh-speaking identity. 1904 prolonged the frigid long Victorian age that did so much to weaken the Welsh language.
Rwy'n credu bod yma lawer o wirionedd. Efallai bod bodolaeth yr adeiladau hyn (i'w mynychu un dydd yr wythnos) wedi peri i'r Cymry laesu dwylo, ac wedi llesteirio eu huchelgais. Pa angen am sefydliadau cenedlaethol call, os oedd ganddynt y capel bach lleol? Mae modd dadlau bod degawdau gwerthfawr iawn wedi'u gwastraffu.

Mae'n amhosibl dweud i sicrwydd wrth gwrs; ni ellir ail-redeg tâp hanes. Dadl ofer fyddai ceisio pwyso a gwerthuso'r effeithiau cadarnhaol a negyddol ar yr iaith. Y pwynt am wn i yw nad yw'r darlun yn un syml. Wrth gwrs, hyd yn oed petai'n wir o hyd mai'r capeli yw cadarnle'r Gymraeg (a nid dyna'r sefyllfa, diolch byth), ni fyddai hynny'n reswm i gefnogi ac arddel casgliad o gredoau sydd wedi'u seilio ar ofergoeliaeth gyntefig.

3 comments:

  1. Rwy o'r farn bod crefydd wedi bod o les i'r iaith Gymraeg hyd nes yr 19eg ganrif. Cyn hynny crefydd a'r wladwriaeth oedd yn rheoli cymdeithas. Roedd y wladwriaeth yn elyniaethus tuag at y Gymraeg, ond roedd o fudd mawr i hygrydedd y Gymraeg i fod yn iaith crefydd - iaith neb llai na Duw ei hun wrth gwrs! Ond erbyn diwedd yr 19eg ganrif roedd crefydd eisoes wedi dechrau colli ei afael ar gymdeithas a'r system ryddfrydol cyfalafol wedi cymryd ei le, y wladwriaeth yn gorfod gwrando ar y 'sffer gyhoeddus', ac roedd gan dymuniad democrataidd pobl Cymru am addysg a sefydliadau Cymraeg gyfle i ennill y dydd. Fel y dywed Sion Jobbins mae'n ddigon posib bod ceisio glynu at grefydd yn hytrach na chofleidio y drefn newydd wedi dal yr iaith yn ol bryd hynny.

    ReplyDelete
  2. Yn ddi-os yr wyt ti a Siôn yn gywir. Oherwydd bod Anghydffurfiaeth yn gallu cael ei ddehongli /camddehongli fel rhywbeth "gwrth sefydliadol" o ran natur yr oedd yn wleidyddol bwysig bod yr anghydffurfwyr Cymreig yn dangos eu ffyddlondeb i'r sefydliad Prydeinig, y Brenhiniaeth, ac ati ym mhob agwedd arall o fywyd a bu hynny'n rhwystr i ddatblygu cenedligrwydd Cymreig. Cyn (ac am gyfnod maith ar ôl) sefydlu Cymdeithas yr Iaith ymateb nifer o "Gymry Da" i ymgyrchoedd dros hawliau'r iaith oedd bod dim achos drostynt gan fod y Gymraeg yn saff yn y capel.

    Wrth gwrs rhaid cofio mae achub eneidiau nid achub iaith oedd priod waith yr Eglwysi, damweiniol gan hynny, nid bwriadol bu unrhyw gysylltiad rhwng parhad y Gymraeg ac Anghydffurfiaeth a does gan neb hawl i dderbyn clod dros gyd ddigwyddiad damweiniol.

    ReplyDelete
  3. Mae'n hen fyth bod gan dranc y Gymraeg lawer i'w wneud â gormes gan y wladwriaeth, yn enwedig erbyn y 18-19fedG. O'i gymharu a bron i unrhyw ddywiliant leiafrifol arall yn Ewrop, fe wnaeth y wladwriaeth brydeinig ychydig iawn yn uniongyrchol yn erbyn y Gymraeg - faint mor erchyll yw'r syniad o'r Welsh Not i ni nawr, ar y pryd roedd hi'n cael ei ystyried yn ddull effeithiol o gael plant i ddysgu Saesneg - Cymry Cymraeg eu hun oedd llawer o'r ysgolfeistri oedd yn eu defnyddio.

    Prin oedd yna unrhyw ymdrech ymhlith Cymry'r 19fedG i gwestiynnu'r syniad a ddylai'r Saesneg gael ei ddysgu i'r plant - hi, yn eu tyb nhw, oedd iaith "progress" a roedd y rhai nad oedd yn ei fedru'n cael eu gweld yn anwybodus a thruenus. Ni chafodd hwn eu helpu gan y ffaith bod dosbarth canol Cymraeg y capeli yn edrych tuag at mudiadau Methodistaidd yn Lloegr, a oedd yn arddel dysgu Saesneg drwy'r ymerodraeth i gyd am resymau 'utilitaraidd'.

    ReplyDelete