28/10/2013

Russell Brand, apathi gwleidyddol a phwrpas democratiaeth

Yn ogystal â'r pethau arferol rwy'n cwyno amdanynt ar y blog, rhywbeth arall sy'n fy syrffedu yw apathi gwleidyddol. Yn benodol, mae'n gas gennyf glywed pobl (ifainc fel arfer) sy'n cyfiawnhau eu diffyg diddordeb mewn materion cyfoes trwy fynnu bod angen i wleidyddion "wneud mwy" i apelio iddynt. Nid ymhelaethir beth y dylid ei wneud er mwyn hoelio'u sylw. Pa liw crayon yn union dylid ei ddefnyddio, tybed?

Mae trafod polisi'n fater dyrys. Beth yw'r ffordd orau o strwythuro'r gwasanaeth iechyd? Sut mae gwella'r system addysg? Sut mae hybu'r economi? A ddylid adeiladu gorsafoedd niwclear newydd? Nid oes atebion syml i gwestiynau fel hyn, a'r unig beth i'w wneud yw eu trafod yn ddifrifol a phwyllog.

Mae'r un peth yn wir ar lefel mwy lleol. Mae gan y person mwyaf apathetig ei wleidyddiaeth farn gref fel arfer am ysbwriel ar y strydoedd, ymddygiad gwrth-gymdeithasol, problemau parcio ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond materion gwleidyddol yw'r rhain i gyd hefyd yn y pen draw, ac maent yn gofyn am atebion gwleidyddol. Mae rhywun sy'n dweud nad oes ganddynt ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn dweud nad oes ganddynt unrhyw ots pa mor aml bydd eu biniau'n cael eu casglu.

Fy mhwynt yw bod dyletswydd ar bob dinesydd i ymgyfarwyddo â'r pethau hyn yn hytrach na disgwyl popeth ar blât. Nid wyf yn deall y math o berson sy'n cwyno nad yw gwleidyddion yn "gwneud digon" ar un llaw ond sydd ar y llaw arall yn gwneud dim math o ymdrech i wylio'r newyddion neu i ddarllen papur newydd er mwyn canfod beth yn union y mae'r gwleidyddion hynny'n eu gwneud yn y lle cyntaf. Esgusodi eu diogi eu hunain yw hynny.

Mae pobl fel yr uchod yn cytuno bod gwleidyddion yn crap a bod angen rhyw fath o "newid" annelwig, ond beth? Am ba bynnag reswm, penderfynodd Newsnight wythnos ddiwethaf y byddai'n syniad da i Jeremy Paxman gyfweld â Russell Brand. Mae hwnnw'n chwyrn a thaer yn erbyn cyfundrefn wleidyddol bresennol Prydain, ond nid yw erioed wedi bwrw pleidlais mewn etholiad. Yn wir, mae'n annog pawb arall i atal eu pleidlais hefyd, gan honni bod cymryd rhan yn y broses yn dilysu ac atgyfnerthu'r sefyllfa sydd ohoni. Gweler y fideo isod, os y gallwch ei ddioddef.


Mae'n swnio fel cymeriad o un o raglenni dystopaidd Charlie Brooker, a dweud y gwir. Ei gŵyn yw bod pob gwleidydd gynddrwg â'i gilydd, ac nad oes diben pleidleisio o blaid un dros y llall. Fel yr hen jôc: "no matter who you vote for, the government always gets in". Mae Brand o ddifrif, fodd bynnag. Mae'n teimlo'n arbennig o gryf bod angen gwneud "rhywbeth"; y broblem yw nad yw'n siwr beth yn union yw'r "rhywbeth" hwnnw.

Mae Brand yn honni mai ef yw llais y bobl, tra'n lladd ar ddemocratiaeth yn yr un gwynt. Nid yw democratiaeth yn berffaith o bell ffordd ("y system waethaf heblaw am y gweddill i gyd" ac ati) ond dylai Brand fod yn onest a chyfaddef mai ei ddymuniad yw llywodraeth unbeniaethol. Ni ddylid ei gymryd o ddifrif, ond mae'n werth gwerthfawrogi serch hynny bod ei agwedd yn beryglus.

A dweud y gwir, rwy'n credu bod gwleidyddion eisoes yn treulio llawer iawn gormod o amser yn ceisio "apelio" at eu hetholwyr. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd yr hen athronydd ceidwadol Edmund Burke yn ei araith enwog ym 1774 (heblaw am y darn am ragluniaeth ddwyfol, wrth gwrs):
it ought to be the happiness and glory of a representative to live in the strictest union, the closest correspondence, and the most unreserved communication with his constituents. Their wishes ought to have great weight with him; their opinion, high respect; their business, unremitted attention. It is his duty to sacrifice his repose, his pleasures, his satisfactions, to theirs; and above all, ever, and in all cases, to prefer their interest to his own. But his unbiassed opinion, his mature judgment, his enlightened conscience, he ought not to sacrifice to you, to any man, or to any set of men living. These he does not derive from your pleasure; no, nor from the law and the constitution. They are a trust from Providence, for the abuse of which he is deeply answerable. Your representative owes you, not his industry only, but his judgment; and he betrays, instead of serving you, if he sacrifices it to your opinion.
Cyn etholiad, dylai'r holl ymgeiswyr egluro'u safbwyntiau'n llawn a'n onest, gan obeithio bod yr etholwyr yn cydweld. Cyfrifoldeb y cyhoedd yw gwrando a darllen, cyn pwyso a mesur. Unwaith y mae'r gwleidyddion yn ennill eu lle yn y ddeddfwriaeth, dylai'r rheiny ddilyn eu cydwybod yn unig, hyd yn oed os yw hynny'n debygol o fod yn niweidiol pan ddaw'r etholiad nesaf. Dylent wrando ar ddadleuon eu hetholwyr (a phawb arall hefyd), wrth reswm, ond os nad yw hynny'n eu darbwyllo fel arall o ddifrif, dylent barhau i arddel eu polisïau'n ddidwyll.

Delfryd bur yw hon, wrth gwrs, ac roedd y syniad yn naïf, hen-ffasiwn ac anymarferol hyd yn oed yng nghyfnod Burke. Mynnaf o hyd mai dyna amcan democratiaeth gynrychiadol, fodd bynnag, hyd yn oed os yw gwneud hynny fel piso mewn i'r gwynt. Ond mae'n ddelfryd llawer iawn mwy adeiladol na'r nonsens gwag a gafwyd gan Brand.

2 comments:

  1. "Pa liw crayon yn union dylid ei ddefnyddio, tybed?"

    Awtsh. :D

    ReplyDelete
  2. Dwi hefyd wedi "syrffedu yw apathi gwleidyddol", ond yn wahanol i chdi, heb wneud dim am y peth... Blog gwych arall - diolch!

    ReplyDelete