Mae'n gallu bod yn anodd penderfynu sut i ymateb i erthyglau fel hyn. Yn y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Barn, mae Emlyn Evans wedi rhoi cynnig ar ail-agor dadl a roddwyd yn y gwely ddegawdau lawer yn ôl. I arbed y drafferth i chi, dyma grynodeb: "blah blah llenyddiaeth a moesoldeb yn dirywio, iaith aflan, merched sydd ar fai, CABLEDD, blah blah blah dylid sensro pob llyfr nad wyf i'n eu hoffi (sef y mwyafrif) blah blah". Cyn i chi feddwl fy mod yn bod yn annheg, mae Mr Evans wir yn chwerw o hyd ynghylch cyhoeddi Lady Chatterley's Lover yn 1960. Mae darllen yr ysgrif fel cerdded ym mherfeddion y jyngl yn rhywle a dod ar draws deinosor: roedd rhywun yn tybio bod y fath greaduriaid wedi hen farw allan.
Rwy'n siwr bod Barn yn deall hyn yn iawn ac mai ennyn ymatebion syn oedd yr amcan wrth ei chyhoeddi. Mae'n debyg bod hynny wedi gweithio, oherwydd dyma fi. Y broblem yw y byddai cael trafodaeth fawr gall a difrifol am y pethau yma'n gwneud i ni gyd edrych yn ddwl fel Cymry Cymraeg. Nid yw safbwyntiau mor druenus o hen-ffasiwn yn haeddu'r fath ymdriniaeth barchus. Ar y llaw arall, rwy'n ei chael yn anodd anwybyddu'r fath sylwadau: byddai gadael i ysgrif fel hon eistedd yn gyfforddus a di-her yn nhudalennau'r cylchgrawn hefyd yn gwneud i ni edrych yn od yn yr un modd. Yr ymateb callaf felly yw pwyntio a chwerthin.
Mae'r ffaith bod rhywun fel Mr Evans yn casáu llyfr yn reswm ardderchog i'w ddarllen. Mae gan Dewi Prysor "froliant" ardderchog i'w roi ar gefn ei gyfrol nesaf, o leiaf.
Braidd yn Daily Mail-aidd gan Barn. Emlyn Evans, Samantha Brick llenyddiaeth Cymru?
ReplyDeleteTaro'r Post wedi manteisio hefyd: roedd trafodaeth ofnadwy am hyn ar raglen heddiw (dechrau awr i mewn). A'n gwaredo. Mae yna rywbeth mawr yn bod ar y math o siaradwr Cymraeg sy'n tueddu i ffonio'r rhaglen yna. Bydd mwy yfory mae'n debyg.
ReplyDeleteY peth yw, mae'n bosibl bod angen trafodaeth gall ynghylch y modd y dosberthir grantiau i awduron Cymraeg (a Chymreig). Mae'n siwr bod modd gwella'r system (e.e. trwy roi'r holl arian i ti). Ond nid weirdos dwl fel Emlyn Evans (a Jiwlian Ryc, o'r eithaf arall) ddylai sbarduno'r fath sgwrs.
Ar nodyn hapusach, mae'r holl falu cachu yma wedi f'atgoffa am fodolaeth y wefan fwyaf anfwriadol ddoniol erioed: ChildCare Action Project.
ReplyDeleteEr enghraifft, dyma ddetholiad o'r adolygiad o Anchorman (dewisaf ar hap):
Wanton Violence/Crime (W)
animal cruelty
threat
gang fight
human ablaze
arm amputation, twice
fighting
assault (man pushed woman into bear pit to get in front of her) attempted murder
bear threat, repeatedly
Mae "human ablaze", "arm amputation, twice" a "bear threat, repeatedly" yn gyfuniadau geiriol athrylithgar. Bron cyn ddonioled â'r ffilm ei hun.
Wrth darllen yr erthygl yn Barn o'n i'n amau bod ffersiwn Cymraeg o Mary Whitehouse wedi codi o'r bedd. Dyn a'n helpu!
ReplyDelete