02/07/2013

Ynghylch gorfod amddiffyn Marine Le Pen

Mae safbwyntiau gwleidyddol Marine Le Pen yn hyll. Hi yw arweinydd y Front National yn Ffrainc, a merch ei rhagflaenydd, y mochyn Jean-Marie. Er hynny, mae'r newyddion yma'n warthus. Yn 2010, fe gymharodd fodolaeth mwslemiaid yn Ffrainc â goresgyniad y Natsïaid. O ganlyniad, mae hi wedi bod yn wynebu cyhuddiadau o "annog casineb crefyddol". Mae Senedd Ewrop bellach wedi diddymu ei himiwnedd, sy'n golygu y bydd yn cael ei herlyn mewn llys am fynegi barn.

Mae'r hyn a ddywedodd yn enghraifft amlwg o ragfarn afresymol, paranoid a dwl. Nid oes gennyf lawer o bethau caredig i'w dweud am islam, wrth gwrs, ond mae safbwyntiau Le Pen yn wallgof. Am y rheswm hwnnw, rwy'n anhapus bod angen i mi ei hamddiffyn. Ond ei hamddiffyn sydd raid. Mae cyfreithiau ynghylch "annog casineb crefyddol" yn syniad erchyll, ac ni ddylent fodoli o gwbl. Nid oes gan unrhyw un yr hawl i beidio cael eu hypsétio, ac ni ddylid trin un set o safbwyntiau yn wahanol i unrhyw safbwyntiau eraill.

Yn ogystal â bod yn anfoesol, y broblem arall yw bod hyn i gyd yn rhoi cyfle ar blât iddi honni ei bod yn ferthyr a'n dioddef erledigaeth. Yn yr achos yma, mae hi'n dweud y gwir.

2 comments:

  1. Dydw i ddim yn un o gefnogwyr y ffasgydd Marine Le Pen ond yn hytrach na cheisio rhoi taw ar geg y rhai hynny yr ydym yn anghytuno â nhw, dylem groesawu cynhadlau egnïol ar bob pwnc llosg o ddiddordeb i ni megis, er enghraifft, effeithiau Mahometaniaeth yng ngwledydd Ewrop yn barchus a heb gorddi teimladau pobl yn ddi-alw-amdano oblegid onid yw ceisio gwahardd yr hawl i fynegi barn yn niweidio'r gwrandawr yn ogystal â'r llefarydd ?

    ReplyDelete