Na, nid rhoi cynnig ar ddehongliad rhyfedd ac optimistaidd o ystadegau Cyfrifiad 2011 ynghylch siaradwyr Cymraeg yw fy mwriad yma (gadawaf yr orchest ofer honno i Dafydd Elis-Thomas). Mae'r ffigurau yma'n wirioneddol ddigalon. Mae pobl eraill wedi gwneud sylwadau craff am y trychineb yna'n barod (Ifan, er enghraifft), ac nid oes gennyf lawer i'w ychwanegu.
Yn hytrach, hoffwn gyhoeddi fy llawenydd ynghylch ffigurau eraill a gyhoeddwyd heddiw: y rhai'n ymwneud â chrefydd (Anffyddiaeth yw enw'r blog yma wedi'r cyfan).
Mae'n debyg bod gostyngiad o 14.3% wedi bod yn y ganran sy'n galw'u hunain yn gristnogion yng Nghymru dros y degawd diwethaf, gan olygu bod y ffigwr o dan 60% erbyn hyn. Mae hyn yn fwy arwyddocaol o gofio nad credinwyr pybyr mo'r rhain o bell ffordd. Awgrymaf mai 'cristnogion mewn enw'n unig' yw llawer o'r bobl yma, sef pobl nad ydynt yn tywyllu addol-dy, na hyd yn oed yn meddwl rhyw lawer am fodolaeth duw heblaw am ar adegau pan mae rhywun yn gofyn iddynt. I nifer sylweddol o bobl, label ddiwylliannol yw cristnogaeth yn anad dim.
Am y rheswm yma, mae'n wirioneddol fendigedig bod 32% o Gymry bellach yn datgan yn agored nad ydynt yn arddel ffydd grefyddol. Un peth yw peidio ymarfer crefydd yn ymarferol, ond mae ateb holiadur gan gofleidio hynny'n gam arwyddocaol pellach.
Yn wir, Cymru yw'r rhan lleiaf crefyddol o Brydain. Rwy'n credu roedd hynny'n wir yn 2001 hefyd, ond mae'n destun balchder mawr i mi o hyd, serch hynny. Yn sicr mae'n newid byd o gymharu â chwta canrif yn ôl, pan roedd anghydffurfiaeth llethol yn teyrnasu ac roedd Cymru'n un o'r llefydd mwyaf crefyddol yng ngorllewin Ewrop.
Byddai'n ddifyr gweld a oes unrhyw berthynas yn bodoli rhwng ffydd grefyddol a'r gallu i siarad Cymraeg. Fy nhyb yw nad oes un sylweddol, ond byddai'n ddefnyddiol cael tystiolaeth. Beth bynnag y gwir am hynny, mae'r crebachu yn y ddau'n awgrymu nad yw bellach yn rhy ddoeth i garedigion y naill na'r llall alw'r Gymraeg yn 'iaith y nefoedd'.
Ystyr anffodus o'r gair 'bendigedig' yn y paragraff uchod wrth sôn am 32% heb fod yn arfer unrhyw grefydd. Galwch chi o fel y mynnwch, ond nid yw ei alw'n 'fendigedig' yn gywir nac yn deilwng o darddiad y gair!
ReplyDeleteHuw
Rwy'n falch o weud fy mod i'n dod o Flaenau Gwent ac yn byw yng Nghaerffili, sef y 2 ardal lleiaf grefyddol yng Nghymru :o)
ReplyDeleteMae'n berffaith gywir. Os yw'r gair yn rhannu'r un tarddiad â "bendith", pa ots?
ReplyDeleteByddai'n fwy bendigedig petai'r ffigwr yn uwch, wrth gwrs.
ReplyDelete