19/12/2012

Eironi a chomedi

Bu cryn drafod a gwylltio fis yn ôl wedi i S4C ddarlledu eitemau hiliol digon cywilyddus o Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc. Y ddadl amddiffynnol fwyaf cyffredin oedd ei bod yn amhosibl i'r darnau fod yn hiliol, gan mai "dim ond hwyl ddi-niwed" oeddent. Mae hynny'n awgrymu'n gryf mai craidd y broblem yw bod llawer o bobl yn cael trafferth deall beth yn union yw hiliaeth, neu, yn benodol, sut mae'r grefft o ddychan yn gweithio. Mae'r erthygl berthnasol hon gan John Pierce Jones yng nghylchgrawn Barn yn un bwysig, rwy'n credu.

Mae'r brotest mai "dim ond hwyl ddi-niwed" oedd sgets "Ping a Pong" yn dangos bod yr amddiffynwyr yn credu mai'r unig fath o hiliaeth sy'n bod yw'r math cas ac ymosodol. Ond mae'n hen ddigon posibl bod yn eithriadol o hiliol gan wenu, hefyd. Yn wir, awgrymaf bod y math hwnnw o hiliaeth yn fwy cyffredin a thrafferthus. Mae hefyd yn broblem sy'n anos ei herio gan nad yw'r sawl sy'n ei arddel yn sylweddoli eu bod yn hiliol yn y lle cyntaf.

Dadl amddiffynnol gyffredin arall oedd bod cyfresi fel Little Britain yn gwneud yr un math o beth, ond nad oes unrhyw un yn cyhuddo David Walliams a Matt Lucas o hiliaeth a rhagfarnau anghynnes eraill. Fel mae'n digwydd, nid yw hynny'n wir o gwbl: mae llawer wedi beirniadu'r rhaglen honno hefyd am feithrin rhagfarn. Er hynny, ac fel y dywedais yn y cofnod blaenorol ar y mater, mae'r ddadl yma o leiaf yn ein harwain at bwnc diddorol sy'n haeddu sylw, sef eironi a'r defnydd ohono mewn comedi.

Y gwahaniaeth syml rhwng Little Britain ac eitemau'r ffermwyr ifainc yw bod Walliams a Lucas yn gwneud hwyl am ben rhagfarn ei hun. Mae'n anodd darllen meddyliau'r ffermwyr, ond mae'n ddadlennol tu hwnt nad oes unrhyw un o'u hamddiffynwyr yn unman hyd y gwn i wedi ceisio honni mai eironi cyfrwys oedd ar waith (ac rwy'n weddol saff fy mod wedi darllen a gwrando ar y drafodaeth gyfan). "Hwyl ddi-niwed!" oedd y gri, dro ar ôl tro ar ôl tro. Os nad oes unrhyw un sydd wedi neidio i amddiffyn y ffermwyr ifainc wedi hawlio mai enghreifftiau o eironi a gafwyd yn y sgetsys, nid oes rheswm i unrhyw un arall ystyried y posibilrwydd hwnnw chwaith.

Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod eironi Little Britain yn llwyddo bob tro, neu hyd yn oed yn arbennig o aml. Yn bersonol, buan iawn y cefais lond bol arni. Mae gormod o'r syniadau yn y rhaglen yn rai digon diog, hyd yn oed os yw amcan y dychan yn iawn. Os oedd unrhyw werth dychanol i gymeriadau fel Vicky Pollard ar y dechrau, dyweder, fe grebachodd yn fuan iawn wedi i'r rhaglen dyfu mewn poblogrwydd, gyda chymaint o'r gwylwyr yn methu'r jôc (yn ddiarwybod iddynt). Y cwestiwn a ddylid ei ofyn yw hwn: a lwyddodd y cymeriad yna i ddenu sylw at y modd annheg y portreadir y dosbarth gweithiol yn y cyfryngau? Rwy'n credu ei bod yn amhosibl gwadu mai'r gwrthwyneb sy'n wir, a bod yr ystrydeb bellach yn gryfach nag erioed. Felly hefyd yn achos "Daffyd", yr "unig berson cyfunrywiol yn Llanddewi Brefi". Unwaith mae'r gynulleidfa'n dechrau gwneud pethau twp fel hyn, mae'r jôc ar ben mewn gwirionedd.

Fy mhwynt, yn y bôn, yw bod eironi'n ddibynnol ar ddealltwriaeth y gynulleidfa. Cyn belled bod pawb yn ymwybodol o'r hyn sy'n mynd ymlaen, mae'n bosibl dychanu rhagfarnau ac ystrydebau trwy eu gwthio i'r eithaf mewn modd abswrd. Fodd bynnag, yr eiliad y mae'r gynulleidfa'n newid, ac mae'r chwerthin yn dechrau digwydd gyda'r ystrydeb yn hytrach nag ar ei phen, mae hynny wedyn yn adlewyrchu ar yr act ei hun.

Byddai enghraifft yn gymorth er mwyn egluro. Yn ei hunangofiant(ish), How I Escaped My Certain Fate: The Life and Deaths of a Stand-Up Comedian, mae Stewart Lee (fy hoff ddigrifwr, siwr o fod) yn digwydd crybwyll rhywbeth am act Al Murray ("The Pub Landlord") a berodd peth syndod i mi:
Back then [y 90au], the Pub Landlord was a bulletproof satire of the soft right, with a prominent back story that informed his prejudice, played out to packed Fringe festival attics of adoring liberals. I am sure Al had legitimate artstic worries about the point of preaching to the converted, whilst also wondering how to broaden his appeal to achieve the premier-league position he craved (Al was subsequently to cook a high-profile fish pie on a celebrity chef show, which helped him secure his Pub Landlord character a wider audience of ITV viewers). But the places the character appeared and the attitudes of the punters who flocked to see him in the noughties have inevitably changed the way the material is received. Some might say it's patronising to suggest that not all the audience get Al's joke, but I wanted to be able to talk about race, for example, without any risk of racists thinking that, covertly, I was trying to agree with them. (293-4)
Roedd hyn yn agoriad llygad oherwydd nid oeddwn wedi sylweddoli mai dychanu'r dde oedd amcan Murray, yn wreiddiol o leiaf. Ers i mi ddod yn ymwybodol o'i sioe, y cyfan a sylwais arno oedd dyn yn mynegi rhagfarnau ar lwyfan a chynulleidfaoedd yn cytuno ag ef. Roeddwn i wedi methu'r jôc, gan ffieiddio o ganlyniad. Y broblem yw bod llawer o'i ffans hefyd yn methu'r jôc, ond yn cymeradwyo beth bynnag. Sylwer bod arddull y sioe yr un fath yn union ag erioed: nid yw'r jôc ei hun wedi newid. Gallwn ddychmygu, petawn wedi digwydd taro ar ei draws mewn selar tafarn yng Nghaeredin yn Awst 1998, dyweder, byddwn wedi'i ystyried yn ddoniol tu hwnt. Heddiw, fodd bynnag, byddai'r un set yn union yn fy niflasu, er mai'r unig beth sydd wedi newid yw natur y gynulleidfa. Er fy mod bellach yn ymwybodol o wir gymhellion Murray, mae'r ffaith ei fod mor barod i berfformio o flaen pobl sy'n mwynhau'r rhagfarnau yn hytrach na chwerthin ar eu pen yn peri iddo golli hygrededd bron cynddrwg â phetai'i gymeriad yn ddi-dwyll yn y lle cyntaf. Annheg neu beidio, yn fy marn i mae digrifwch a gwerth yr act yn dibynnu lawn cymaint ar y gynulleidfa ag ar gynnwys y set ei hun. Goblygiadau hyn wrth gwrs yw ei bod yn anodd iawn llenwi Wembley a thrin rhai pynciau gydag eironi yn llwyddiannus ar yr un pryd. Ond dyna ni.

Efallai ei bod yn wir bod y syniad yma'n un digon snobyddlyd a sarhaus. Yn wir, y feirniadaeth amlycaf o Lee yw ei fod yn rhy hunan-gyfiawn ac elitaidd. Mae'n berffaith bosibl bod y feirniadaeth honno'n deg hefyd, a bod yn onest. Mae Lee wedi dweud nad oes ganddo unrhyw ddymuniad i fod yn arbennig o boblogaidd (yn yr uwch-gynghrair, fel petai) oherwydd mae'n bwysicach iddo bod ei gynulleidfa'n deall. Y gwir yw bod llawer o ddeunydd Lee yn gwneud hwyl am anwybodaeth cyfran helaeth o'r cyhoedd. Os yw hoffi hynny'n fy ngwneud yn snob, yna rwy'n euog. Mae'r clip yma ohono'n melltithio Top Gear yn wych, er enghraifft:


Mae digrifwyr fel Jimmy Carr a Frankie Boyle yn fater arall, fodd bynnag. Rwy'n siwr eu bod yn ystyried eu hunain yn ryddfrydwyr da, ac maent yn gwneud hwyl am agweddau ceidwadol ac ati. Mae'r ddau yn enwog hefyd am fod yn shocking ac nid oes unrhyw beth o gwbl yn bod ar hynny ynddo'i hun; mae angen bod, weithiau. Y broblem yw bod eu comedi weithiau yn rhyfeddol o adweithiol. Yn benodol, rwy'n argyhoeddedig erbyn hyn bod gan Carr (a llawer o'i gynulleidfa) broblem gwirioneddol â merched. Cymerer y clip isod o un o sioeau hwnnw, er enghraifft:


Yma mae Carr yn pigo ar ferch yn un o'r rhesi blaen a'i "chyfaill" gwrywaidd. Fe ddatgelir, diolch i'w ffrindiau eraill angharedig, bod ganddynt rhyw fath o berthynas "agored". Ymateb Carr yw canmol y dyn ond galw hithau'n "genuine slag".

Mae hynny'n dweud cyfrolau am agwedd Carr, oherwydd rwy'n ei chael hi'n anodd iawn canfod unrhyw arwydd o eironi yn y darn. Mae yna enw i'r math yma o beth: slut-shaming (ac mae'n cyd-fynd gyda phob clod i'r arwr o staliwn wrth ei hochr, wrth reswm). Nid oes unrhyw beth herfeiddiol nac edgy'n perthyn i'r uchod mewn gwirionedd. Yn hytrach, mae'n enghraifft glasurol o fysoginistiaeth hen-ffasiwn yn syth o working men's clubs y 70au. Ail-adrodd ac ategu hen anghyfartaleddau yw hyn, a dim byd mwy; ni fyddai modd i Carr fod yn llai delwddrylliol yma petai'n trio. Ceir rhywbeth digon tebyg gan Boyle o dro i dro, er enghraifft am yr anabl. Mae comedi fel petai wedi gwneud cylch cyfan, gan droi cefn ar Jim Davidson a Bernard Manning ac ati rai degawdau'n ôl cyn eu dynwared drachefn heddiw, ond wedi'i guddio tu ôl llen denau o "eironi" anargyhoeddedig.

Yn anochel, bydd beirniadaeth fel hyn yn esgor ar brotestiadau bod "cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhemp" a bod pobl fel fi'n greaduriaid pathetig di-hiwmor sy'n benderfynol o roi stop ar hwyl pawb arall. Wrth gwrs, mae hynny'n lol: fel rwyf mor benderfynol i'w bwysleisio bob cyfle, beirniadaeth yn unig yw hyn, nid ymgais i dawelu unrhyw un. Nid yw'n wir chwaith bod hyn i gyd yn golygu bod yna bynciau sensitif cyfain sydd off limits i gomedi. Er enghraifft, nid oes unrhyw beth rwyf wedi'i ddweud yma'n golygu ei bod yn amhosibl gwneud jôcs da am bwnc eithriadol o ddifrifol fel ymosodiadau rhywiol. Fel mae'r erthygl wych yma'n egluro, y tric yw sicrhau mai targed y jôc yw'r treiswyr, neu'r diwylliant sy'n cyfiawnhau neu esgusodi trais. Os yw'n gwneud hwyl am ben y ddioddefwraig, neu'n atgyfnerthu'r agweddau hyll, dyna pryd mae gennym broblem.

Yn ogystal, rwy'n amau byddai rhai o'm ffrindiau'n cadarnhau bod fy hiwmor yn gallu bod yn afiach ar adegau, gan ddychanu agweddau cul trwy ddweud y pethau mwyaf hurt posibl. Y gwahaniaeth pwysig yw fy mod yn ceisio sicrhau bod unrhyw un sy'n clywed yn deall yr eironi (nid yw dweud pethau dwl am fabanod meirwon o flaen dieithriaid yn syniad arbennig o ddeallus, er enghraifft). Ni fyddwn yn meiddio dweud y fath bethau o flaen cynulleidfa (eilbeth yw fy niffyg talent difrifol, wrth reswm), ac nid rhagrith mo hynny.

Mae eironi'n gallu bod yn beth digon goddrychol a llithrig, ac mae'r ffin yn gallu bod yn annelwig. Ond fel arfer mae'n hawdd iawn gweld rhagfarn amrwd. Dyna a gafwyd yn sgetsys y ffermwyr ifainc ar S4C, a dyna yw rhywiaeth Jimmy Carr hefyd.

5 comments:

  1. Difyr; mae'n debyg nad yw'r wefan yna'n bodoli. Cyfle am ffortiwn?

    ReplyDelete
  2. Rwy'n aelod o dîm sy'n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel 'mod i'n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?

    Cofion, Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
    CorpwsCymraeg@gmail.com

    ReplyDelete
  3. Diddorol! Diolch am gysylltu. Newydd e-bostio.

    ReplyDelete
  4. Falch o ddarganfod y Blog.

    ReplyDelete