01/01/2013

Blwyddyn Newydd Dda

Gobeithio eich bod wedi mwynhau cyfnod Nadoligaidd digon dedwydd. Rhaid cyfaddef fy mod yn y gorffennol wedi arbrofi â bod yn dipyn o Scrooge diflas ar yr adeg yma o'r flwyddyn (eitha siwr bu i mi aros yn fy ngwely tan 3 yn y prynhawn un tro). Ond rwyf wedi meddalu bellach. Prin yw'r elfennau cristnogol yn y Nadolig mewn gwirionedd (coed, twrci a gwledda ac yfed gormod, rhannu anrhegion, cwmni teulu ac yn y blaen ac yn y blaen) felly er fy mod yn anffyddiwr ystyfnig a rhonc nid wyf yn teimlo unrhyw ragrith wrth fwynhau'r ŵyl fodern a seciwlar yma.

Neithiwr hefyd bûm yn dathlu pwynt digon mympwyol yn ein calendr. Unrhyw esgus, am wn i.

Mae 2013 wedi cyrraedd, felly. Ar lefel bersonol, rwy'n dechrau cyffroi gan mai dyma fydd blwyddyn fy mhriodas (ym mis Mawrth). Seremoni seciwlar yn Las Vegas, wrth reswm.

I gloi, dyma ystadegau 2012 ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb.

Nid yw'n syndod mai'r adeg prysuraf oedd fy mis mwyaf toreithiog. Mae'n siwr bod yr holl lol yna am Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc wedi helpu hefyd. Diolch i bawb sy'n galw draw.

5 comments:

  1. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  2. Ymddiheuriadau am y sylw di sylwedd uchod, cefais drawiad o glyw’r digwydd wrth geisio cyfarch yn well yn ôl i ti. Ta waeth byrdwn y neges a bwriadwyd ydoedd - blwyddyn newydd da i dithau hefyd a phob hwyl yn dy antur briodasol.

    Las Vegas yn dewis od i anffyddiwr cadarn, dinas sy'n llewyrchu ar ofergoeledd a ffydd yn nheyrnasiad y foneddiges lwc - gobeithio y bydd hi ar dy ochor di yn ystod dy ymweliad.

    ReplyDelete
  3. Ai gyda dyn ynteu gyda dynes a fyddi di'n ymbriodi ?

    ReplyDelete
  4. Diolch yn fawr. Rwy'n siwr o roi cynnig bach ar ambell beth yn y casinos. Mae modd gwneud hynny heb ildio i ryw ofergoelion dwl. Byddaf yn ymwybodol mai gan y 'ty' mae'r fantais, ond mae'n hwyl serch hynny. Prynu hwyl, yn y bôn. Cyn belled bod fy narpar-wraig (gwraig erbyn hynny!) yn llwyddo i'm cadw draw oddi wrth yr ystafelloedd pôcer. Buaswn fel oen mewn lladd-dy.

    Wedi wythnos yn Vegas, y mis mêl yw pedair wythnos o grwydro o San Diego i San Francisco. Teg dweud fy mod yn croesi pob dydd oddi ar y calendr!

    ReplyDelete
  5. Gobeithio bod y sylw diwethaf yna'n ateb dy gwestiwn, Dafydd!

    Fel mae'n digwydd, nid yw priodasau cyfunrywiol yn gyfreithlon yn Nevada eto. Maent wedi cydnabod partneriaethau sifil ers 2009, ond nid priodasau llawn eto. Nid yw'r dydd hwnnw'n rhy bell i ffwrdd yn fy marn i. Am y tro, rwy'n un o'r rhai dethol lwcus hynny sy'n meddu ar yr hawl i briodi eu cariadon.

    ReplyDelete