Roeddwn wrth fy modd i ddarllen heddiw bod Malala Yousafzai, merch 15 oed o Bacistan a gafodd ei saethu yn ei phen gan y Taliban ym mis Hydref, wedi gallu gadael yr ysbyty.
Yn llygaid y Taliban, trosedd anfaddeuol Malala oedd ymgyrchu o blaid gwarchod addysg i ferched ym Mhacistan. Mewn ardaloedd lle mae'r ffwndamentalwyr gwallgof yma'n gryf, nid oes gan ferched yr hawl i fynychu ysgolion. Maent yn rhoi pwysau ar ysgolion yng ngweddill y wlad i'w gwahardd hefyd, ac fel rydym yn ei weld, maent yn fodlon defnyddio terfysg a thrais er mwyn gwireddu'r amcan.
Mae gan bron bob crefydd broblemau â merched i raddau gwahanol, ond mae'n siwr mai dyma'r enghraifft fwyaf eithafol. Nid yw'n anodd deall cymhelliad y Taliban fan hyn. Eu dyhead yw cadw rheolaeth dros ferched. Y ffordd amlycaf a hawsaf o sicrhau hynny yw eu cadw'n anwybodus, a'u hamddifadu o'r gallu i wella'u hunain
Mae Malala wedi dweud bod ganddi obeithion o fynd yn wleidydd. Rwy'n dymuno pob lwc iddi, yn enwedig gan fod hynny'n sicr o olygu perygl enbyd. Beth bynnag ei dyfodol, mae hi eisoes yn arwres anferth, a'n llawn haeddu edmygedd pawb.
Yn y blog uchod, rwyt ti’n osgoi enwi crefydd y ffwndamentalwyr a saethodd Malala druan yn ei phen dest yr un fath â gwleidyddion y Gorllewin yn gyffredinol. Nid oes arnyn nhw eisiau tramgwyddo’n erbyn canlynwyr y grefydd waedlyd a nabodir gan ei chanlynwyr fel Islam.
ReplyDeleteNid oes gydraddoldeb o fath yn y byd i ferched o fewn Islam a mae deuoliaeth y grefydd honno’n caniatáu anrhydeddu merched yn ogystal â’u hanreithio. Mae Islam yn caniatáu i ddynion golbio’u merched.
Darllenais ar y we fod oddeutu 90% o ferched Pacistan wedi cael eu curo gan eu gwŷr. Mae cyfraith ddwyfol y grefydd yn caniatáu’r fath fath ymddygiad gwarthus. Yn gyffredinol, fe gaiff merched Mahometanaidd eu curo o’r crud i’r bedd.
Er tegwch i Mahomet, ni chredai ef y dylid taro merched yn eu hwynebau a chredai hefyd mai dim ond yn ysgafn y dylid eu cystwyo !
Mae llawer o ferched Mahometanaidd yn briod erbyn maent yn 13 oed. Mae rhai ohonynt yn briod gyda gwŷr 60 oed a mwy. Roedd Mahomet ei hun yn briod gydag Aisha pan oedd hi’n 6 oed ac yntau ynghanol ei 50au pan gyflawnodd ei uniad gyda hi. Mae Mahometaniaeth yn caniatáu pedoffilia o’r fath !
Hefyd, gall Fahometaniaid ladd eu gwragedd os ydynt yn tramgwyddo yn erbyn enw da eu gwŷr.
Dan gyfraith ddwyfol Islam, mae tystiolaeth Mahometan yn werth dwywaith fwy na thystiolaeth merch. Er enghraifft, os yw merch yn gwneud cyhuddiad yn erbyn ei gŵr dan gyfraith ddwyfol Mahometanaidd a fod yntau’n gwadu’r cyhuddiad nid yw tystiolaeth yr achwynydd yn werth dim. Gan hynny, mae’n amhosib i ferch gyhuddo dyn o drais dan Sharia !
O safbwynt Mahometan, nid yw merched mor graff â dynion a phan ddaw eu rhawd ddaearol i ben fe aiff y mwyafrif llethol ohonynt ar eu pennau i Uffern !
Os digwydd i gi, asyn neu ferch gerdded o flaen Mahometan pan fydd yn gweddïo mae hynny’n dirymu ei weddi’n llwyr. Dan Fahometaniaeth, mae cŵn, assynod a merched yn gyfartal. Dyna yw sefyllfa Malala druan. Fydd hi byth yn ddiogel ymhlith Mahometaniaid.
Diolch am y sylw. Ond:
ReplyDelete1) Naddo. Sylwer ar y tag ar waelod y darn.
2) Rwy'n parchu deallusrwydd y darllenwyr gan dybio eu bod yn gwybod yn iawn beth yw crefydd y Taliban heb orfod esbonio o'r dechrau.
3) Awgrymaf dy fod yn darllen fy nghofnodion blaenorol ynghylch islam. Rwy'n ddigon parod i ddatgan mai islam, fel y'i harferir, yw'r grefydd waethaf ar y ddaear. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu'n benodol yn beirniadu nerfusrwydd rhai rhyddfrydwyr gorllewinol ynghylch beirniadu mwslemiaid. Rwyf hefyd yn hoffi tynnu hwyl am ben Mohammed, a'n hapus i'w alw'n bidoffeil.
Mae'r rhan fwyaf o dy sylw'n ddigon gwir. Er hynny, dylet gofio hefyd bod Malala ei hun yn fwslem. Mae'n bwysig peidio paentio â brwsh mor drwchus. Mae eithafiaeth yn broblem wirioneddol anferth ym Mhacistan, ond mae bodolaeth mwslemiaid cymhedrol neu ryddfrydol yno'n rywbeth hanfodol i'w werthfawrogi.
Mae Cristnogaeth yn caniatau llawer o'r un pethau.
ReplyDeleteGwir. Wedi dweud o'r blaen nad yw'r ffwndamentaliaeth sydd mor gyffredin yn y byd islamaidd o reidrwydd yn ran annatod o'r grefydd honno. Mae'n amhosibl anwybyddu ffactorau gwleidyddol a hanesyddol. O gymharu'r Beibl a'r Corán, byddai'n anodd penderfynu pa un yw'r erchyllaf.
ReplyDeleteYn hypothetig, petai'r byd islamaidd dros nos yn troi'n gristnogol, nid oes rheswm i dybio mai fersiwn orllewinol "fodern" y ffydd gristnogol a fyddai'n cael ei harfer. Byddai'r ffwndamentaliaeth yr un mor amrwd, hynafol ac ofnadwy. Yr unig wahaniaeth fyddai mai cartwnau am Iesu Grist fyddai'r sbardun ar gyfer y protestiadau ffyrnig, yn hytrach na Mohammed.
Yn Swra Mahomet (ei gofiant/bywgraffiad tra phwysig o safbwynt ei ganlynwyr), fe adroddir sut y daeth y gwalch i amlygrwydd mawr.
ReplyDeleteYn gryno iawn, iawn bu’n pregethu Islam yn Mecca am 13 o flynyddoedd ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, fe enillodd Mahomet 150 o ganlynwyr. Wedi hynny, gorfu iddo symud i Medina. Yno, am y 10 mlynedd olaf o’i oes, daeth yn wleidydd ac yn filwr. O ganlyniad i hynny, fe amcangyfrifir iddo ennill 100,000 o ganlynwyr.
Yn ystod y cyfnod y bu Mahomet yn pregethu Islam roedd yn ennill 12 o ganlynwyr bob bwlyddyn ar gyfartaledd ond roedd yn ennill oddeutu 10,000 o ganlynwyr bob blwyddyn fel gwleidydd a milwr sanctaidd. Roedd Jihad yn talu iddo !
Mae pob Mahometan gwerth ei halen yn ceisio efelychu Mahomet neu fel arall nid ysyrir nhw’n Fahometaniaid.
Llawlyfr rhyfel yw Swra Mahomet yn y bôn a dysgeidiaeth wleidyddol yw Mahometaniaeth yn anad dim.
Yn gyffredinol, pobl greulon yw Mahometaniaid. Maent yn amharchu merched a hoywon yn ddirfawr. Maent yn gul eu meddwl a’u bwriad yw difa pob cymdeithas wâr. Nac anghofier hynny !
Mewn ateb i’r boiCymraeg:
ReplyDeleteMae’r Coran yn frith o ddeuoliaethau. Y rheswm am hynny yw mai dau lyfr sanctaidd wedi’u bwrw’n bwrpasol yn un cybolfa ddryslyd yw’r Coran mewn gwirionedd. Coran cynnar Mecca yw’r naill a coran diweddarach Medina yw’r llall.
O safbwynt Mahometaniaid, mae adnodau diweddarach y Coran yn dirymu’r rhai cynharach. Er hynny, mae adnodau cynnar ac adnodau diweddarach y Coran yr un mor sanctaidd yng ngolwg pob Mahometan. Dyma seiliau’r ddeuoliaeth o fewn Islam.
Yng ngwledydd Crêd, os yw gosodiadau anghyson â’i gilydd, fe ystyrir fod un ohonynt yn anghywir. Mae ein holl wleidyddiaeth yn ogystal â’n moesau ni yng ngwledydd Crêd yn seiliedig ar y gwirionedd hwnnw. Yn fy marn i, mae â wnelo Cristnogaeth lawer â hynny.
Nid oes gyffelybiaeth o fath yn y byd rhwng Cristnogaeth a Mahometaniaeth. Ffieiddbeth yw Mahometaniaeth sy’n arwain at ddistryw. Dyna ddengys tystiolaeth empiraidd 1400 canrif ! Ar y llaw arall, cariad yw hanfod y grefydd Gristnogol doed a ddelo a ydym yn proffesu ai peidio.
"Mae’r Coran yn frith o ddeuoliaethau. Y rheswm am hynny yw mai dau lyfr sanctaidd wedi’u bwrw’n bwrpasol yn un cybolfa ddryslyd yw’r Coran mewn gwirionedd. Coran cynnar Mecca yw’r naill a coran diweddarach Medina yw’r llall."
ReplyDeleteYm mha ffordd y mae hyn yn wahanol i'r Beibl? Nid cyfanwaith mo hwnnw chwaith, ac fel y Corán mae'r Beibl yn baglu dros ei anghysonderau ei hun. Cybolfa yw'r ddau lyfr, wedi'u hysgrifennu flynyddoedd lawer ar ôl y digwyddiadau honedig a ddisgrifir.
Nid yw islam yn arbennig yn hyn o beth, felly. Hynny yw, rwyt yn agos ati yn dy feirniadaeth, i raddau, ond mae yna rywbeth od am y modd rwyt ti'n canolbwyntio ar y ffydd yna'n unig er bod yr un beirniadaethau'n union yn wir am grefyddau eraill.