08/01/2013

Marwoldeb

Fe ddarllenais lyfr olaf y diweddar Christopher Hitchens yn ddiweddar, sef Mortality. Bu farw o ganser yr osoffegws ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac fel mae'r teitl yn ei awgrymu, mae'r gyfrol yn cynnwys rhai o'i fyfyrdodau wrth i'r salwch ei ddinistrio'n araf. Ceir darnau a gyhoeddwyd eisoes yn Vanity Fair (mae'r erthyglau gwreiddiol wedi diflannu ers hynny) wedi'u plethu â deunydd newydd.

Mae'r llyfr yn rhy fyr o lawer. Yn anffodus, mae yna reswm da iawn am hynny. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, roedd Hitchens wedi gobeithio cynhyrchu rhywbeth mwy sylweddol, ond daeth y diwedd yn annisgwyl o sydyn, trwy gyfrwng math arbennig o gas o niwmonia.

Wrth reswm, ceir cryn dipyn o sôn am grefydd yma. Fe adlewyrchodd Hitchens ar yr hyn a glywodd gan gristnogion - rhai caredig didwyll a rhai annifyr - cyn amlinellu'r gwendidau yn y modd y mae cristnogaeth a chrefyddau eraill yn ymateb i farwolaeth: gweddi ("the man who prays is the one who thinks that god has arranged matters all wrong, but also thinks he can instruct god how to put them right"), yr ôl-fywyd, a Chyngwystl Pascal ("Pascal assumes both a cynical god and an abjectly opportunist human being"). Mae yna lawer i anffyddwyr ei fwynhau, felly.

Mae'r gyfrol yn un teimladwy, er bod sentimentaliaeth yn beth prin iawn ynddo. Roedd Hitchens yn cydnabod yn llwyr bod ei ddegawdau o ddiota ac ysmygu wedi cyfrannu'n helaeth at ei salwch:
In one ways, I suppose, I have been "in denial" for some time, knowingly burning the candle at both ends and finding that it often gives a lovely light. But for precisely this reason, I can't see myself smiting my brow with shock or hear myself whining about how it's all so unfair: I have been taunting the Reaper into taking a free scythe in my direction and have now succumbed to something so predictable and banal that it bores even me.
Yn syth wedyn cawn yr unig awgrym o edifeirwch yn y gyfrol gyfan:
Rage would be beside the point for the same reason. Instead, I am badly oppressed by a gnawing sense of waste. I had real plans for my next decade and felt I'd worked hard enough to earn it. Will I really not live to see my children married? To watch the World Trade Center rise again? To read - if not indeed to write - the obituaries of elderly villains like Henry Kissinger and Joseph Ratzinger? But I understand this sort of non-thinking for what it is: sentimentality and self-pity.
Rwy'n teimlo efallai bod y frawddeg ddiwethaf yna'n ddadlennol. Mae'r myfyrdodau blaenorol, hyd y gwelaf i, yn rai perffaith naturiol yn rhywun sy'n wynebu marwolaeth. Dim ond awgrym ohonynt a gawn yma gan Hitchens, cyn iddo'u tynnu'n ôl drachefn. Roedd yn casáu sentimentaliaeth, neu o leiaf yn casáu'r syniad o arddangos y llygedyn lleiaf ohoni; byddai hynny wedi mynd yn groes i'r persona y roedd wedi'i feithrin dros y degawdau. Fodd bynnag, mae'r darn yma'n bradychu'r ffaith bod y meddyliau yma, er popeth, wedi bod yn troelli yn ei feddwl.

Er nad yw'n gofyn am gydymdeimlad, mae'n anodd peidio teimlo tristwch wrth iddo adrodd yr artaith o golli'i lais. Beth bynnag eich barn am ei wleidyddiaeth, roedd yn feistr geiriau heb ei ail, boed ar bapur neu ar lafar. Rwy'n golygu hyn mewn ffordd garedig, ond roedd yn hoff iawn o'i lais ei hun ac yn mwynhau siarad. Am y rheswm yma, efallai mai dyma'r darn mwyaf dirdynnol:
Depivation of the ability to speak is more like an attack of impotence, or the amputation of part of the personality. To a great degree, in public and private, I "was" my voice. All the rituals and etiquette of conversation, from clearing the throat in preparation for the telling of an extremely long and taxing joke to (in younger days) trying to make my proposals more persuasive as I sank the tone by a strategic octave of shame, were innate and essential to me. I have never been able to sing, but I once could recite poetry and quote prose and was sometimes even asked to do so. And timing is everything: the exquisite moment when one can break in and cap a story, or turn a line for a laugh, or ridicule a laugh. I lived for moments like that. Now if I want to enter conversation, I have to attract attention in some other way, and live with the awful fact that people are then listening "sympathetically". At least they don't have to pay attention for long: I can't keep it up and anyway can't stand to.
Os oes gennych amser, mae'n werth gwrando ar rai o'i ddadleuon cyhoeddus sydd wedi'u cyhoeddi ar YouTube (yn enwedig y rhai am grefydd, wrth gwrs). Roedd yn amlwg wrth ei fodd yn gwneud y math yna o beth, felly mae'n hawdd dychmygu ei ddigalondid wrth i'r canser ddwyn y gallu yma oddi arno.
 
Mae'r gyfrol yn cloi gyda chasgliad o bytiau digyswllt a deipiodd ar ei gyfrifiadur yn ei ddyddiau olaf un. Fe ddichon ei fod wedi bwriadu adeiladu penodau ychwanegol o'u cwmpas, ond fe'u cynhwysir yma er mwyn rhoi syniad o'r math o bethau a aeth trwy'i feddwl yn ystod ei oriau diwethaf (neu, ahem, er mwyn gwneud llyfr tenau iawn fymryn yn dewach). Dengys y rhain bod ei ystyfnigrwydd ddi-hafal wedi aros ag ef hyd y diwedd: er enghraifft, “If I convert it’s because it’s better that a believer dies than an atheist does.” Cellwair drygionus yw hynny, wrth gwrs!

Nid oes ffordd 'gywir' o wynebu marwolaeth, wrth reswm, ond rwy'n edmygu stoicrwydd huawdl ac urddasol rhywun fel Hitchens (a John Diamond gynt). Mae'n bwysig llacio monopoli crefydd ar farwolaeth fel pwnc, ac mae cyfrolau fel y rhain yn gyfraniadau gwerthfawr tu hwnt.

9 comments:

  1. Mae gan farwolaeth a ry derfyn ar ein bywyd afael gref ar ddychymyg dyn. Mae meddwl am farw’n achosi pryder mawr i’r mwyafrif llethol ohonom oblegid ei fod yn ein torri ymaith oddi wrth y byw yn ogystal â’n pleserau.

    Gŵr di-enwaededig o galon a chlustiau oedd y diweddar Cristopher Hitchens y blogir am ei lyfr diweddaraf uchod. Pa rinwedd sydd mewn marw yn y cyflwr hwnnw y bu ef farw ynddo? A yw marw’n ddigrefydd yn rhagori mewn gwirionedd ar farw tra’n glynu wrth efengyl Crist fel yr awgryma Hitchens yn ei lyfr ar farwoldeb ?

    Ar un wedd peth dibwys yw marw. Rhywbeth sy’n digwydd i eraill bob tro’n ddiwahân ydyw. Gan hynny, onid ofer ydyw i neb un ohonom ymboeni ynghylch ein hymddatodiad ?

    ReplyDelete
  2. "A yw marw’n ddigrefydd yn rhagori mewn gwirionedd ar farw tra’n glynu wrth efengyl Crist fel yr awgryma Hitchens yn ei lyfr ar farwoldeb ?"

    Wel fel y dywedais, nid wyf eisiau dweud bod ffordd "gywir" o ymdopi gyda'r peth. Ond yn amlwg fel anffyddiwr, rwy'n gweld llawer iawn mwy o synnwyr yn yr hyn a ddywed Hitchens am y pwnc. Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen nad wyf yn gweld unrhyw gysur o gwbl yn y syniad o nefoedd, nac mewn athrawiaethau cristnogol eraill sy'n ymwneud â marwolaeth, hyd yn oed petaent yn wir.

    Yn bersonol, rhaid cyfaddef fy mod yn meddwl am farwolaeth weithiau. Nid wyf yn poeni o gwbl am y cyflwr o fod wedi marw; mae'n hawdd ei ddychmygu trwy ei gyffelybu â'r cyfnod hwnnw cyn i ni gael ein geni. Ond mae'r syniad o'r eiliadau diwethaf yna, y marw ei hun, yn rywbeth sy'n pwyso ar fy meddwl o bryd i'w gilydd. Rwy'n gallu bod yn morbid weithiau. Ofer yw gofidio gormod am y peth, mae'n wir, ond mae'n beth digon naturiol i'w wneud am wn i.

    Gyda llaw, roeddwn i'n meddwl dy fod wedi dweud yn y gorffennol dy fod yn anffyddiwr?

    ReplyDelete
  3. Rwyt ti’n gywir, Dylan ! Rwyf eisoes wedi datgelu mai anghredadun rhonc ydwyf. Er hynny, credaf fod Cristnogaeth wedi gadael argraff ddofn annileadwy arnaf.

    Amcanaf fy mod ychydig dros ddwywaith dy oedran di. Gan hynnyf gallaf ddweud wrthyt fod y byd wedi newid llawer ers pan oeddwn i’n blentyn.

    Yn nyddiau fy maboed roedd llawer mwy o gyrchu i gysegrleoedd crefydd. Mynychwn y moddion deirgwaith bob Sul yng nghapel Chwarelgoch ym Mhentref Tregarth lle maged fi gan rieni maeth wedi i mi gael fy nghamdrin a’m hesgeuluso’n ddybryd gan fy mam o waed.

    Gwrthodwn yn chwyrn gael fy nerbyn yn gyflawn aelod o’r eglwys y maged fi’n ysbrydol ynddi wedi i mi gyrraedd blaenaeddfedrwydd ond, yn groes i’m hewyllys, gorfodwyd y ddefod arnaf gan ei diaconiaid. Wnes i ddim tywyllu drws yr eglwys wedi hynny.

    Hoffaf feddwl drosof fy hun ym mhob peth. Efallai fod y duedd hoo'n fai mawr ynof !

    Mae ansawdd crefydd wedi dirywio er pan oeddwn i’n blentyn. Dim ond cysgod ydyw bellach o’r hyn ydoedd pan oeddwn yn mynychu’r moddion.

    Yn ysgol Sul capel Chwarelgoch y dysgais yr Wyddor a chan hynny gallwn ddarllen Cymraeg addas i blentyn yn gynnar iawn, iawn ar fy mywyd. Yn wir, mae gennyf lawer atgof melys o hyd o’r ysgol Sul honno a’i hathrawon ymroddgar. Yno y meithrinwyd ynof gariad at eiriau a’m hoffter presennol o ddarllen.

    Yn fy nghartref yn Llanrwst mae seldiau llyfrau lawer ac ymhlith y cyfrolau ar amrywiol bynciau o ddiddordeb i mi arnynt mae " Y Beibl Sanctaidd " a " Y Beibl Cymraeg Newydd ". Nid hel llwch ar fy silffoedd maent. Byddaf yn darllen pennodau ohonynt o dro i dro yn enwedig os byddaf yn chwilio am oleuni ar ryw fater neu’i gilydd oblegid mae unrhyw feibl yn gyforiog o wirioneddau.

    Er enghraifft, dyma i ti ddysgeidiaeth y Beibl ar farwolaeth fel yr amlinellir hi yn Prgethwr 9: 5-6 yn " Y Beibl Cymraeg Newydd " :

    Y mae’r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw’r meirw yn gwybod dim ; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna’r cof amdanynt.

    Yn wir mae eu cariad a’u casineb eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.

    Hoffwn wybod gennyt ai gwir yntau gau yn dy farn di yw geiriau’r ddysgeidiaeth ar farwolaeth a ddyfynais uchod.

    Yn ôl anffyddwyr nid oes y fath beth â Duw trosgynnol yn bod. Yn ôl nhw, nid ymmdengys yn debyg ychwaith fod pwrpas i fywyd dyn ar wyneb y ddaear.

    Anghofiwch am Dduw a hen greiriau eraill oesoedd crêd megis crefydd meddent. Rydym yma’n unig i drosglwyddo’n gennynau i’r genhedlaeth a ddaw.

    Cymeradwynet y seciwlareiddio sy’n digwydd heddiw’n Ewrop lle mae’r boblogaeth gynhenid yn heneiddio ac yn lleihau cymaint nes ein bod ni’n gorfod dibynnu ar fewnfudwyr crefyddol megis, er enghraifft, Mahometaniaid yn bennaf o’r Mahgreb, Y Dwyrain Canol a de Asia i gynyddu’r boblogaeth oblegid mai pobl grefyddol yn anad neb sy’n cenhedlu’r nifer fwyaf o blant. Onid un o rinweddau anffyddiaeth felly yw ei fod yn cyfrannu at dŵf Mahometaniaeth yn Ewrop er o anfodd efallai ?

    A hoffet ti fod yn dad maes o law, Dylan ? Gwn o brofiad chwerwfelys fod y draul o fagu plentyn yn un sylweddol fawr mewn termau arian, ynni ac amser.

    Mae anifeiliaid diddeall yn epilio ond rydym ni’n anrhaethol uwch ein deallusrwydd na phopeth byw arall ar wyneb y ddaear. Gan hynny y mae arnom angen rheswm dros genhedlu. Onid ffydd ein bod ni yma i bwrpas sydd y tu ôl i’r dymuniad i fod yn riant ?

    Gan y credaf fy mod wedi rhoi digon i ti gnoi cil arno dros dro, mi rôf gaead ar fy mhiser ...........am rŵan !

    ReplyDelete
  4. Anghofiais ychwanegu uchod nad ydwyf fi ddim yn aelod o unrhyw eglwys oblegid yn fy myw fedra'i ddim rhoi sel bendith ar unrhyw grefydd gyfundrefnol achos nid yw natur y ddafad i ddilyn a chael ei chorlannu ynof !

    ReplyDelete
  5. "Er enghraifft, dyma i ti ddysgeidiaeth y Beibl ar farwolaeth fel yr amlinellir hi yn Prgethwr 9: 5-6 yn " Y Beibl Cymraeg Newydd ":

    Y mae’r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw’r meirw yn gwybod dim ; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna’r cof amdanynt.

    Yn wir mae eu cariad a’u casineb eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.

    Hoffwn wybod gennyt ai gwir yntau gau yn dy farn di yw geiriau’r ddysgeidiaeth ar farwolaeth a ddyfynais uchod.
    "

    Mae'r adnodau yna'n agos iawn ati. Ond dim ond yn yr un modd â chloc wedi torri. Mae'n hawdd pigo darnau dethol o'r llyfr yna ac anwybyddu'r pethau hurt neu ofnadwy. Beth bynnag, mae athrawiaethau cristnogol fel y nefoedd a'r ôl-fywyd - sydd hefyd yn y Beibl - yn gwrthddweud yr adnodau yma.

    "Yn ôl anffyddwyr nid oes y fath beth â Duw trosgynnol yn bod. Yn ôl nhw, nid ymmdengys yn debyg ychwaith fod pwrpas i fywyd dyn ar wyneb y ddaear."

    Ddim yn deall sut all anffyddiwr ddweud rhywbeth fel hyn. Ym mha ffordd y mae cydnabod nad oes yna dduw gyfystyr â dweud nad oes pwrpas i'n bywyd? Nid oes rhyw bwrpas mawr gwrthrychol sy'n cael ei roi i ni gan greadur hollalluog, gwir, ond mae modd i bawb greu eu pwrpas eu hunain. Yn sicr mae'r awgrym bod gan anffyddwyr rhyw wacter mawr yn od.

    "A hoffet ti fod yn dad maes o law, Dylan ? Gwn o brofiad chwerwfelys fod y draul o fagu plentyn yn un sylweddol fawr mewn termau arian, ynni ac amser.

    Mae anifeiliaid diddeall yn epilio ond rydym ni’n anrhaethol uwch ein deallusrwydd na phopeth byw arall ar wyneb y ddaear. Gan hynny y mae arnom angen rheswm dros genhedlu. Onid ffydd ein bod ni yma i bwrpas sydd y tu ôl i’r dymuniad i fod yn riant ?
    "

    Hoffwn, maes o law. Am amryw resymau. Nid yw'r un ohonynt yn ymwneud ag unrhyw dduwiau trosgynnol. Nid yw dy bwynt yn eglur iawn fan hyn.

    Beth yw dy safbwynt di felly? Rwyt yn swnio fel petaet yn glynnu at ryw fath o ysbrydolrwydd, hyd yn oed os wyt yn ymwrthod â christnogaeth sefydliadol.

    ReplyDelete
  6. Yn un o dy sylwadau uchod fy ddywedi : Yn bersonol, rhaid cyfaddef fy mod yn meddwl am farwolaeth weithiau.................... mae'n beth digon naturiol i'w wneud am wn i.

    Ydyw, mae’n beth digon naturiol i ni fodau dynol ei wenud ond, pe ceisiet dy orau glas, ni fedret ddeffro’r fath feddwl mewn, er enghraiffth, madyn na mul. Pam ? Pam y gall dyn ? Pam mae’n meddyliau ni weithiau’n crwydro y tu hwnt i derfyn angau gan ymholi am y tu hwnt ? Pam mae awydd am anfarwolaeth yn enaid dyn?

    Onid diwinyddiaeth all gynnig ateb i’r fath gwestiwn ?

    ReplyDelete
  7. "Pam y gall dyn ? Pam mae’n meddyliau ni weithiau’n crwydro y tu hwnt i derfyn angau gan ymholi am y tu hwnt ? Pam mae awydd am anfarwolaeth yn enaid dyn?"

    Pam lai? Rydym wedi esblygu'r gallu i feddwl yn ddeallus gan fod hynny wedi bod yn fanteisiol. Mae'n anochel felly bod ein meddyliau'n crwydro o ganlyniad. Unwaith eto, nid oes unrhyw angen o gwbl i gyflwyno unrhyw dduwiau na syniadau ysbrydol eraill er mwyn egluro hyn. Dal yn ansicr beth rwyt yn ceisio'i ddadlau, os wyt yn anffyddiwr.

    "Onid diwinyddiaeth all gynnig ateb i’r fath gwestiwn ?"

    Na, dim o gwbl. Nid yw diwinyddiaeth yn cynnig unrhyw atebion defnyddiol o gwbl, o'r cyfan rwyf wedi'i weld. Parthed marwolaeth yn benodol, nid yw diwinyddwyr yn cynnig unrhyw gysur chwaith. Felly beth yn union yw eu pwrpas?

    ReplyDelete
  8. Diolch i ti am fynd i’r drafferth o ymateb i rai ond nid bob un o’m sylwadau blaenorol ar y blog uchod.

    Dy gwyn di hyd y gwelaf yw nad wyt yn gwybod yn union yn ble’r wyf yn sefyll mewn perthynas ag ybrydolrwydd ar y naill law ac anghrediniaeth ar y llaw arall. Os cywir ydwyf, fedra’i ddim deall yn union beth yw d’anawsterau yn hynny o beth.

    Ceisiais egluro i ti am y rhesymau a roddais na fedra’i ddim ymddihatru o ddylanwad trwm crefydd arnaf.

    Ceisiais egluro gan ddyfynnu un esiampl yn unig mai nid nonsens llwyr yw cynnwys unrhyw feibl.

    Eglurais nad ydwyf yn aelod o unrhyw eglwys wedi i ddiaconiaid capel Chwarelgoch, Tregarth, orfodi’r ddefod arnaf o gael fy nerbyn yn gyflawn aelod o’r eglwys honno wedi i mi gyrraedd blaenaeddfedrwydd.

    A dweud y gwir, nid wyf yn aelod o unrhyw grŵp boed grefyddol neu seciwlar.

    Mae crefydd gyfundrefnol wedi bod yn gyfrifol yn y gorffennol am lawer o ddrygioni yn y byd ond nid wyf am gynnig unrhyw esiampl o hynny o fewn cwmpas y sylw hwn.

    O’m safbwynt i, mae’r un peth yn wir am Anffyddiaeth sy’n cymeradwyo’r seciwlareiddio sydd yn digwydd ar hyn o bryd, er enghraifft, yn Ewrop lle mae’r boblogaeth gynhenid yn heneiddio ac yn lleihau cymaint nes ein bod ni’n gorfod dibynnu ar fewnfudwyr crefyddol megis Mahometaniaid yn bennaf o’r Mahgreb, Y Dwyrain Canol a de Asia i gynyddu’r boblogaeth oblegid mai pobl grefyddol yn anad neb sy’n cenhedlu’r nifer fwyaf o blant. Gan hynny, maentumiaf fod Anffyddiaeth yn cyfrannu at dŵf Mahometaniaeth yn Ewrop er nad o anfodd o bosibl. Beth sydd gennyt i’w ddweud am hynny, Dylan ?

    Dydw i ddim yn fodlon hyrwyddo achos neb ar hyn o bryd.

    Yn fy marn i, mae’r Côheleth (yr athro neu ddadleuydd) yn dweud y gwir am fywyd heb Dduw yn Llyfr y Pregethwr. Gallaf f’uniaethu fy hyn gyda’r mwyafrif llethol o sylwadau’r Côheleth hwnnw pwy bynnag ydoedd. Yn anad dim ymholydd fel fo ydwyf ond fe gyfaddefwn mai nid dyna’r cyfan y gallwn fod oblegid 'does dim byd yn sefyll yn llonydd.

    ReplyDelete
  9. Mae'n annheg disgwyl i mi ymateb i bopeth gan dy fod wedi dweud cymaint o bethau gwahanol a di-gyswllt. Dyna'n union pam rwy'n cael trafferth dilyn dy ffordd o feddwl.

    Rwy'n ymwrthod â phopeth ysbrydol; mae'n perthyn i'r un categori di-dystiolaeth ag unrhyw grefydd gyfundrefnol.

    Wrth gwrs nid yw'r Beibl yn nonsens i gyd. Fel y dywedais, clociau wedi torri ac ati. Mae'r llyfr hyd yn oed yn cynnwys rhai darnau moesol clodwiw iawn, pe tynnir hwy allan o'u cyd-destun o ganol yr holl bethau erchyll.

    Mae seciwlariaeth wedi dod â rhyddid a mwy o opsiynau i fenywod. Bellach mae ganddynt y gallu i ddilyn trywydd amgenach mewn bywyd na chynhyrchu babanod fel ffatris. Os yw bodolaeth y dewis yma'n golygu eu bod yn penderfynu cael llai o blant nag yn y gorffennol, golyga hynny bod rhywbeth sinistr yn perthyn i gymdeithas sy'n disgwyl iddynt chwydu epiliaid allan un ar ôl y llall. Efallai mai'r modd y mae seciwlariaeth yn rhoi rheolaeth i fenywod dros eu cyfarpar atgenhedlu eu hunain yw'r elfen bwysicaf oll, gan mai dyma'r ffordd orau, yn anad dim, o leddfu tlodi.

    Beth bynnag, digon pitw yw twf islam yn Ewrop mewn gwirionedd. Lol paranoid yw'r holl sôn a geir am "Ewrabia", yn sicr (mae'r cwymp yn y gyfradd geni i'w weld ym mhobman i wahanol raddau, gan gynnwys y byd islamaidd). Dylid gwrthwynebu pob crefydd, a ffwndamentalwyr yn enwedig, ond dylid gochel rhag swnio fel hilgi. Rwy'n hapus iawn i feirniadu islam a mwslemiaid pan fo angen, a hynny'n chwyrn, fel y gwelir ar y blog yma. Rwy'n dweud hyn fel rhywun sy'n casáu islam, ond rwyt yn paentio â brwsh rhy drwchus o lawer. Mae yna fwslemiaid yn y wlad yma sy'n fwy rhyddfrydol o lawer na rhai o'r cristnogion "brodorol".

    ReplyDelete