10/02/2012

Diwrnod da i seciwlariaeth ym Mhrydain

Cafwyd newyddion ardderchog heddiw, wrth i'r Uchel Lys farnu ei bod yn anghyfreithlon bod cyngor tref (Bideford yn Nyfnaint) yn cynnal gweddïau swyddogol cyn cyfarfodydd (adroddiad pwyllog y BBC yw'r ddolen yna; er cyd-bwysedd, dyma lith hysteraidd a doniol y Daily Mail).

Nid oes gennyf unrhyw amynedd o gwbl gydag unrhyw un sy'n cwyno bod y penderfyniad yma'n ymosodiad ar Gristnogaeth ac ar hawliau Cristnogion. Nid oes pwrpas bod yn gwrtais am y peth: mae unrhyw un sy'n credu bod y newyddion yma'n arwydd bod Cristnogaeth o dan warchae yn eithriadol o dwp.

Os yw cynghorydd yn dymuno cael gweddi fach dawel bersonol cyn mynd ati i drafod materion y dydd, nid oes unrhyw un o gwbl yn dymuno rhwystro hynny. Yr unig reswm dros fynnu gwneud yr addoli'n ran o agenda swyddogol y cyngor yw er mwyn gorfodi pawb arall i gydymffurfio â'ch crefydd, a hynny trwy ddefnyddio awennau'r wladwriaeth er mwyn cael sêl bendith swyddogol ar eich ffydd. Dyhead theocrataidd ydyw, ac mae'n hanfodol ei ymladd ar bob cyfrif.

Y pwynt ynghylch seciwlariaeth y mae cymaint o bobl grefyddol yn ei anghofio, neu'n dewis ei ddiystyru, yw bod yr egwyddor honno'n golygu rhyddid crefyddol yn ogystal â rhyddid rhag crefydd. Hynny yw, ni ddylai'r wladwriaeth arddel unrhyw safbwyntiau diwinyddol o gwbl. Dyma'r unig ffordd o sicrhau tegwch i bawb. Mae seciwlariaeth yn gwarchod hawliau pobl grefyddol yn ogystal â rhai anffyddwyr. Er mwyn dangos hynny, dychmygwch ymateb y sawl sy'n cwyno gymaint heddiw petai rhyw gyngor yn cynnal gweddi islamaidd. Mae'n sicr y byddent yn dod i werthfawrogi egwyddor seciwlariaeth mewn chwinciad.

Roedd y stori hon yn newyddion calonogol hefyd, sef bod perchnogion busnes gwely a brecwast wedi colli eu hapêl yn erbyn y dyfarniad ei bod yn anghyfreithlon gwrthod cwpl hoyw rhag aros yn eu gwesty. Eu Cristnogaeth oedd eu cyfiawnhad. Mae yna gwestiwn syml iawn y mae modd ei ddefnyddio gydag achosion fel hyn: a fyddai'n dderbyniol gwrthod pobl croenddu rhag aros yn y gwesty? Na, ac mae'r un egwyddor yn union yn golygu nad yw'n dderbyniol troi hoywon i ffwrdd. Os yw eu rhagfarn yn eu hatal rhag trin pob cwsmer yn gyfartal, yn unol â'r gyfraith, yna eu problem hwy yw hynny.

1 comment:

  1. Dafydd Jones o Lanrwst12/2/12 8:36 pm

    Touché a ddywedaf fi, Dylan !

    ReplyDelete