Agnosticiaeth yn fras yw'r safbwynt ei bod yn amhosibl gwybod y naill ffordd na'r llall; fel arfer, defnyddir y term yng nghyd-destun y cwestiwn ynghylch bodolaeth duw. Mae pobl agnostig felly'n honni eu bod yn ymatal rhag mynegi barn am fodolaeth unrhyw fod goruwchnaturiol, oherwydd mae'n amhosibl bod yn sicr a yw'n absennol ai peidio.
Ar yr olwg gyntaf mae hynny'n ymddangos fel safbwynt rhesymol, cytbwys a goluedig. Rwy'n amau mai ymgais i ymddangos felly yw un o brif gymhellion y sawl sy'n ei arddel. Yn fy marn i, fodd bynnag, mae agnosticiaid yn euog o geisio ymbellhau oddi wrth y label "anffyddiaeth" er nad oes llawer o wahaniaeth ymarferol rhyngddynt ac anffyddwyr fel fi.
Un camargraff sydd gan lawer yw mai safbwynt anffyddwyr yw'r canlynol: "rwy'n gwybod nad yw duw'n bodoli". Ond prin iawn yw'r anffyddwyr sy'n dweud hynny. Mae Richard Dawkins wedi cynnig graddfa o safbwyntiau diwinyddol, o 1 i 7: 1 yw sicrwydd 100% bod duw'n bodoli, a 7 yw sicrwydd 100% nad ydyw. Rhif 6 yr wyf i'n ei arddel, a Dawkins hefyd: "nid wyf yn gwybod i sicrwydd, ond mae'n annhebygol iawn bod duw'n bodoli ac felly rwy'n byw fy mywyd fel pe na bai'n bod". Nid ydym yn dweud ein bod yn gwybod i sicrwydd 100% nad oes yna dduw, ond y pwynt yw ei bod yn amhosibl gwrthbrofi bodolaeth unrhyw beth yn bendant. Y cyfan rydym yn ei ddweud yw mai'r unig beth synhwyrol i'w wneud yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth gadarnhaol yw tybio bod duw'n absennol. Dyma pam ei bod yn hurt bod cymaint o bobl grefyddol yn ceisio mynnu mai ein lle ni yw profi absenoldeb duw. Na: nid felly mae pethau'n gweithio.
Ble mae gosod pobl sy'n diffinio'u hunain fel agnosticiaid ar y raddfa yma felly? Rwy'n gobeithio bod pawb yn cytuno y cawn ddiystyru rhif 4, sef y dybiaeth bod rhaid i'r tebygolrwydd fod yn 50%-50% union os nad oes sicrwydd llwyr y naill ffordd na'r llall. Os oes unrhyw un yn arddel y safbwynt yma, rhaid gofyn sut y maent yn dod i ben: enwch unrhyw greadur neu gymeriad mytholegol, neu dyfeisiwch un newydd, ac er cysondeb mae'n rhaid iddynt dderbyn mai tebygolrwydd ei fodolaeth yw 50%. Mae'n rhagrithiol ac anghyson honni bod yn ansicr ynghylch bodolaeth duw heb wneud yr un peth parthed tylwyth teg, Sion Corn, Pegasws, Odin, Zeus, iwnicorniaid, yr anghenfil spagéti ehedog, Bigfoot, lepreconiaid, Vishnu, Isis, tebot Russell, neu Quetzalcoatl. Yr unig ddewis felly yw unai derbyn bod bodolaeth duw yn hynod annhebygol, neu roi eich hunain mewn sefyllfa lle rydych mor feddwl-agored mae'ch ymennydd yn syrthio allan. Mae'r nifer o bethau gwahanol y mae modd eu dychmygu heb dystiolaeth yn anfeidrol, yn llythrennol. Un "posibilrwydd" yn unig yw duw, ac nid oes rheswm o gwbl i'w drin yn wahanol i'r holl bethau eraill anweledig y mae modd eu hamgyffred.
Nid wyf yn siwr ble'n union fyddai Ifan yn gosod ei hun ar y raddfa, ond go brin ei fod o'r farn bod bodolaeth duw yr un mor debygol â'i absenoldeb. Mae hynny'n gadael 5 a 6, sy'n ddau safbwynt y mae modd eu galw'n "anffyddiaeth". Mae'n debyg ei fod yn cytuno â mi hyd yn hyn, ond mae ganddo bryder:
Rydw i’n deall y dadleuon am y pot te yn y gofod, a Siôn Corn a’r tylwyth teg, ond dydw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n dal dŵr yn achos bodolaeth duw. Dydw i ddim yn cyfeirio at unrhyw dduw penodol fan hyn - dyw diffyg tystiolaeth i’r gwrthwyneb ddim yn ddadl gall dros eistedd ar y ffens yn achos Allah neu’r Duw Cristnogol. Ond rydyn ni’n gwybod cyn lleied am y bydysawd a sut y daeth i fod, mae gwrthod yn llwyr y posibilrwydd y gallai cread y bydysawd fod yn weithred fwriadol yn ymddangos braidd yn fyrbwyll i fi. Does yna ddim unrhyw fath o gytundeb ymysg gwyddonwyr ynglŷn â beth ddaeth cyn yr ‘Ergyd Fawr’. Iawn, mae bodolaeth duw yn un posibilrwydd hynod o annhebygol, ond beth bynnag yw’r esboniad terfynol am fodolaeth y bydysawd (os ddaw ateb byth) mae’n siŵr y bydd yn un hynod o annhebygol hefyd. Mae’r ddynoliaeth yn rhy anwybodus i ddiystyru unrhyw beth ar hyn o bryd. Dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn haeddu unrhyw ystyriaeth arbennig cyn bod theorïau mwy tebygol wedi eu harchwilio’n llawn, wrth gwrs.Os yw'r ddynoliaeth yn diystyru unrhyw bosibilrwydd, mae hynny dim ond oherwydd nad oes unrhyw dystiolaeth berthnasol o'i blaid ar gael hyd yma. Mae'r ateb i'r ddadl hon yn ddigon tebyg i'r hyn a ddywedais uchod: mae yna nifer anfeidrol o chwedlau neu esboniadau posibl y mae modd eu hamgyffred i esbonio'r Creu. Os ydyw'n fyrbwyll disytyru un "posibilrwydd" sydd heb unrhyw dystiolaeth o'i blaid (sef bod rhyw fath o dduw wedi creu'r bydysawd), yna mae'n rhaid ei fod yn fyrbwyll diystyru popeth arall hefyd, megis bod popeth wedi'i disian allan gan grwban anferth cosmig brynhawn Iau diwethaf (gyda'n holl atgofion ac ati wedi'u plannu'n barod). Mae yna fwy i'w ddweud am natur tystiolaeth a beth fyddai, yn hypothetig, yn bodloni anffyddiwr bod duw'n bodoli, ond rwyf am adael hynny ar gyfer cofnod ar wahan.
Mae Ifan yn derbyn bod bodolaeth duw'n annhebygol, felly ar ôl popeth rydym o'r un farn wedi'r cyfan. Mae hynny'n golygu mai'r cyfan rydym yn ei wneud yw dadlau'n semantig ynghylch beth i alw'n hunain. Heb dystiolaeth i awgrymu fel arall, rydym ill dau'n byw ein bywydau fel pe na bai yna dduw'n bodoli. Gan mai ystyr anffyddiaeth yw diffyg ffydd, mae'n ymddangos yn derm priodol iawn i ddisgrifio'r ddau ohonom mewn gwirionedd. Dylai Ifan ei gofleidio.
Mae casgliad dipyn bach yn wahanol yn bosib: Dwi'n cyfri fy hun yn anffyddiwr agnostig. Dwi wedi sgwennu am pam dwi'n credu bod yr agnosticiaeth yn werth ei datgan (o leia weithiau):
ReplyDeletehttp://garicgymro.wordpress.com/2011/05/11/atheism-and-agnosticism/
Ifan: "mae bodolaeth duw yn un posibilrwydd hynod o annhebygol, ond beth bynnag yw’r esboniad terfynol am fodolaeth y bydysawd (os ddaw ateb byth) mae’n siŵr y bydd yn un hynod o annhebygol hefyd. Mae’r ddynoliaeth yn rhy anwybodus i ddiystyru unrhyw beth ar hyn o bryd."
ReplyDeleteCywir - ond mae yna reswm syml a phenodol i ystyried y scenario "dim Duw" yn fwy tebygol na bodolaeth Duw, sef, bod hynny'n fwy syml a thaclus. Efallai bod y syniad bod y bydysawd yn bodoli heb i ddim byd achosi iddo wneud yn teimlo'n anystwyth ac yn anhebygol, ond nid yw hynny'n reswm i arddel bodolaeth unrhyw dduw oherwydd bod nad yw hynny'n ateb y cwestiwn. Fel bydd unrhyw blentyn bach yn gallu pwyntio allan, "pwy greodd Duw"? Nid yw cristnogion yn ei chael hi'n anodd i dderbyn y syniad bod Duw "wastad wedi bodoli" ac nad oes angen cyfiawnhad i hynny. Pam eu bod nhw felly'n mynnu bod angen cyfiawnhau bodolaeth y bydysawd?
Yn sicr, dydyn ni ddim yn gwybod llawer am ddechreuad y bydysawd, ac efallai na fyddwn ni fyth yn gwneud; ond nid yw hynny felly'n golygu y dylwn ni ystyried yr holl esboniadau yr un mor debygol a'i gilydd.
Garic: diolch. Rwy'n deall yr hyn sydd gen ti. Fy mhrif bwynt yw nad yw anffyddiaeth yn golygu sicrwydd 100% yn y lle cyntaf felly mae'r term agnosticiaeth yn ddi-angen. Dyhead crefyddol yw sicrwydd, yn y bôn. Wrth astudio'r byd go iawn, gweithio gyda graddfeydd o debygolrwydd a wnawn; nid yw sicrwydd llwyr yn dod i mewn i'r peth.
ReplyDeleteY broblem gyda defnyddio'r gair agnosticiaeth yw bod hynny'n atgyfnerthu'r camargraff bod anffyddiaeth yn golygu sicrwydd nad oes duw. Mae hynny yn ei dro yn rhoi hygrededd i'r lol chwerthinllyd yma bod anffyddiaeth yn gofyn am yr un faint o ffydd ag y mae crefydd, neu bod anffyddwyr yr un mor "ffwndamentalaidd".
Rwy'n credu ein bod yn gytûn, yn ymarferol. Ond fy mhroblem gyda'r gair agnosticiaeth yw bod llawer yn ei ddefnyddio er mwyn ymbellhau oddi wrth y label anffyddiaeth heb fod angen. Yn rhannol oherwydd hyn, efallai.
Welshguy: yn hollol. Cut out the middleman. Hyd yn oed pe anwybyddwn y ffaith nad oes yna unrhyw dystiolaeth o blaid bodolaeth duw, nid yw'r cysyniad yn egluro unrhyw beth chwaith. Mae'n anghywir ac iwsles.
ReplyDelete"Y broblem gyda defnyddio'r gair agnosticiaeth yw bod hynny'n atgyfnerthu'r camargraff bod anffyddiaeth yn golygu sicrwydd nad oes duw."
ReplyDeleteOnd mae defnyddio'r gair anffyddiwr er ei ben ei hun yn gwneud dim i chwalu'r camargraff hwnnw. Dyna pam dwi o blaid defnyddio'r ddau air gyda'u gilydd: Agnostig AC anffyddiwr. Mae hyn yn tanlinellu'r ffaith nad ydy anffyddiaeth (o angenrheidrwydd) yn golygu sicrwydd llwyr. Mae hefyd yn tanlinellu'r ffaith hynod o bwysig nad oes rhaid i agnosticiaeth olygu eistedd ar y ffens. Mae'n bosib cydnabod nad oes sicrwydd llwyr am gwestiwn heb honni nad oes ateb tebygol.
Dwi hefyd yn hoffi'r ffaith bod dweud fy mod i'n anffyddiwr ac yn agnostig yn tueddu i synnu pobl crefyddol (ac weithiau pobl anghrefyddol) ac yn rhoi cyfle i mi egluro be mae anffyddiaeth ac agnosticiaeth yn meddwl go iawn ac i bwysleisio bod y rhan fwyaf o anffyddwyr hefyd yn agnosticiaid i ryw raddau.
Wedi dweud hynny, dwi'n amrywio yr hyn dwi'n galw fy hun yn dibynnu ar y gynulleidfa. Weithiau mae'n haws i alw fy hun yn anffyddiwr heb grybwyll agnosticiaeth.
Ymddiheuriadau am fod mor hir wrth ymateb i'r blogiad yma!
ReplyDeleteYn gyntaf rydw i'n cytuno i raddau mai dadlau'n semantig yden ni - dw i ddim yn anghytuno o gwbwl â'r gosodiad "nid wyf yn gwybod i sicrwydd, ond mae'n annhebygol iawn bod duw'n bodoli ac felly rwy'n byw fy mywyd fel pe na bai'n bod". Y cwestiwn ydi lle mae anffyddiaeth yn dechrau ac agnosticiaeth yn gorffen. Rydw i'n sicr yn ffitio i mewn i ddisgrifiad y geiriadur o'r gair 'agnosticiaeth', ond hefyd y disgrifiad o'r gair 'anffyddiaeth'. Y broblem i raddau ydi fod y geiriau wedi ei hail-ddiffinio o fewn y ddadl rhwng pobol crefyddol ac anffyddwyr. Yn y cyd-destun hwnnw mae agnosticiaeth bellach yn golygu rhywun sydd yn dadlau nad oes modd gwybod os yw’r Duw Cristnogol neu Allah yn bodoli ai peidio. Ond pe bawn i’n galw fy hun yn anffyddiwr fe fyddwn i’n cael fy stwffio mewn i golomendwll arall, sef rhywun sy’n credu’n daer nad yw unrhyw fath o dduw yn bodoli.
(Gyda llaw dw i’n anghytuno â dy awgrym bod pobol sy’n galw eu hunain yn agnostigiaid yn gwneud hynny er mwyn cael eistedd ar y ceffyl uchel yn y canol a edrych lawr eu trwynau ar y cristnogion a’r anffyddwyr yn ymgodymu yn mwd ar y naill ochor. Dw i’n cymryd fod pobol sy’n galw eu hunain yn agnostigiaid yn gwneud hynny... am eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n agnostigiaid.)
Yr unig brif bwynt uchod yr ydw i’n anghytuno â fo yw’r gosodiad yma: “Os yw'r ddynoliaeth yn diystyru unrhyw bosibilrwydd, mae hynny dim ond oherwydd nad oes unrhyw dystiolaeth berthnasol o'i blaid ar gael hyd yma.” Dydw i ddim yn meddwl bod diffyg tystiolaeth yn reswm dros diystyrru unrhywbeth yn achos creu y bydysawd. Y broblem sydd gan wyddonwyr sy’n dadlau dros beth ddigwyddodd cyn y Glec Fawr yw diffyg tystiolaeth cadarn i gefnogi yr un o’u theoriau nhw. O fewn un sefydliad yn yr Unol Daleithiau mae yna academyddion yn dadlau fod ein bydysawd yn un o nifer di-ddiwedd mewn ryw fath o gaws Swisaidd anferth; bod y bydysawd yn agor a chau fel megin am byth bythoedd; neu fod y bydysawd yn ryw fath o anomaledd sy’n cael eu greu pan mae dau ‘bilen’ rhyngddimensiynol yn eu taro ei gilydd. Mae’r pellter sydd rhwng yr amryw theoriau yma yn awgrymu nad ydyn ni wir yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen.
Efallai mai un o’r prif ddadleuon yn erbyn y syniad bod y bydysawd, y ddaear neu’r ddynoliaeth yn benodol wedi ei greu yn fwriadol yw ei fod yn esboniad rhy daclus. Ys dywed Raymon Chandler: ‘It had the austere simplicity of fiction rather than the tangled woof of fact.' Ond nid Sion Corn neu’r Tylwyth Teg ydyw chwaith. Ydi’r aderyn sy’n eistedd ar y ffens y tu allan yn gwybod bod y ffens wedi ei greu gan ddyn? Ydi’r buwch yn y cae yn gwybod bod y cae wedi ei greu gan ddyn? Rydyn ni’n anwybodus iawn ynglŷn â’r bydysawd yma. Er ei fod yn hynod annhebygol, dw i ddim yn meddwl y dylid ‘diystyrru’ dim byd nes bod tystiolaeth cadarn o blaid un o’r theoriau eraill.
Diolch Ifan.
ReplyDelete"Y cwestiwn ydi lle mae anffyddiaeth yn dechrau ac agnosticiaeth yn gorffen. Rydw i'n sicr yn ffitio i mewn i ddisgrifiad y geiriadur o'r gair 'agnosticiaeth', ond hefyd y disgrifiad o'r gair 'anffyddiaeth'."
Fy mhwynt yw bod gwir ystyr "anffyddiaeth" eisoes yn cynnwys yr hyn a olygir gan "agnosticiaeth", ac felly nad oes angen yr ail derm. Nid oes sicrwydd oherwydd nid oes tystiolaeth o blaid duw, felly'r unig safbwynt doeth, a'r safbwynt default, yw cario ymlaen fel pe na bai'n bod.
"Y broblem i raddau ydi fod y geiriau wedi ei hail-ddiffinio o fewn y ddadl rhwng pobol crefyddol ac anffyddwyr. Yn y cyd-destun hwnnw mae agnosticiaeth bellach yn golygu rhywun sydd yn dadlau nad oes modd gwybod os yw’r Duw Cristnogol neu Allah yn bodoli ai peidio. Ond pe bawn i’n galw fy hun yn anffyddiwr fe fyddwn i’n cael fy stwffio mewn i golomendwll arall, sef rhywun sy’n credu’n daer nad yw unrhyw fath o dduw yn bodoli."
Yn hollol, a dyma'n union pam rwy'n pwysleisio'r pwynt yma. Mae gwahaniaethu rhwng agnosticiaeth ac anffyddiaeth yn atgyfnerthu'r camargraff mai'r uchod yw ystyr anffyddiaeth. Byddai'n well gen i frwydro i gywiro'r camargraff ynghylch ystyr anffyddiaeth.
"(Gyda llaw dw i’n anghytuno â dy awgrym bod pobol sy’n galw eu hunain yn agnostigiaid yn gwneud hynny er mwyn cael eistedd ar y ceffyl uchel yn y canol a edrych lawr eu trwynau ar y cristnogion a’r anffyddwyr yn ymgodymu yn mwd ar y naill ochor. Dw i’n cymryd fod pobol sy’n galw eu hunain yn agnostigiaid yn gwneud hynny... am eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n agnostigiaid.)
Dylwn fod wedi dweud "rhai". Nid pawb.
"Yr unig brif bwynt uchod yr ydw i’n anghytuno â fo yw’r gosodiad yma: “Os yw'r ddynoliaeth yn diystyru unrhyw bosibilrwydd, mae hynny dim ond oherwydd nad oes unrhyw dystiolaeth berthnasol o'i blaid ar gael hyd yma.” Dydw i ddim yn meddwl bod diffyg tystiolaeth yn reswm dros diystyrru unrhywbeth yn achos creu y bydysawd.
Wrth gwrs ei fod. Neu'n hytrach, mae'n reswm da dros beidio gwastraffu unrhyw amser yn meddwl am y peth. Fyny i ti a yw hynny'n golygu'r un peth ai peidio.
"Y broblem sydd gan wyddonwyr sy’n dadlau dros beth ddigwyddodd cyn y Glec Fawr yw diffyg tystiolaeth cadarn i gefnogi yr un o’u theoriau nhw. O fewn un sefydliad yn yr Unol Daleithiau mae yna academyddion yn dadlau fod ein bydysawd yn un o nifer di-ddiwedd mewn ryw fath o gaws Swisaidd anferth; bod y bydysawd yn agor a chau fel megin am byth bythoedd; neu fod y bydysawd yn ryw fath o anomaledd sy’n cael eu greu pan mae dau ‘bilen’ rhyngddimensiynol yn eu taro ei gilydd. Mae’r pellter sydd rhwng yr amryw theoriau yma yn awgrymu nad ydyn ni wir yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen."
Mae yna wahaniaethau arwyddocaol rhwng y syniadau rwyt yn eu crybwyll a'r cysyniad o dduw. Mae'r gwahanol syniadau astronomegol yma wedi'u seilio ar dystiolaeth, hyd yn oed os yw rhai ohonynt ar hyn o bryd yn gwrthddweud ei gilydd. Yn bwysicach byth, mae'r theorïau yma'n arwain at bethau y mae modd eu darogan neu ffurfio hypotheses amdanynt; hynny yw, mae modd eu rhoi ar brawf. Beth a wnawn gyda'r posibilrwydd amwys am "rhyw fath o dduw"? Nid yw hynny'n arwain at unrhyw fath o hypothesis y mae modd craffu arno gydag arbrawf. Nid yw'n ddefnyddiol o gwbl. O'r herwydd, yn absenoldeb tystiolaeth mae rhaid ei ddiystyru.
A-ha! http://www.telegraph.co.uk/news/religion/9102740/Richard-Dawkins-I-cant-be-sure-God-does-not-exist.html
ReplyDelete(Er mae hyn yn dod o'r Telegraph felly pinshiad o halen.)
Mae gan y Daily Mail erthygl debyg hefyd. Nid oes unrhyw beth newydd o gwbl yn y sylwadau yna.
ReplyDeleteThere was surprise when Prof Dawkins acknowledged that he was less than 100 per cent certain of his conviction that there is no creator.
Nid yw unrhyw un a gafodd eu synnu gan hynny wedi bod yn talu mymryn o sylw ar hyd y blynyddoedd. Dyna mae Dawkins ac anffyddwyr eraill wedi bod yn ei ddweud erioed; gweler y raddfa 1 i 7 y soniais amdano uchod.
Mae'n uffernol o rwystredig bod y papurau yma'n credu bod hwn yn rhyw fath o foment "gotcha". Diog, camarweiniol ac anwybodus. Rwy'n ei chael yn anodd credu nad oeddent yn gwybod yn iawn mai dyma oedd safbwynt Dawkins eisoes, gan ei fod yn amlinellu'r peth yn fanwl yn ei lyfr ac yn pwysleisio'r pwynt fwy neu lai bob tro y mae'n siarad yn gyhoeddus. Rhaid felly ychwanegu anonest i'r rhestr o ansoddeiriau uchod.
Heb wylio'r drafodaeth gyda Rowan Williams yn ei chyfanrwydd eto. Mae'n siwr fe wnaf ar rhyw bwynt yn y penwythnos.
Mae'n werth darllen yr erthygl yma ar y pwnc.
ReplyDeleteRwyf am gynnig cymhariaeth i esbonio fy marn am agnosticiaid sy'n gwrthod galw'u hunain yn anffyddwyr: Dafydd Elis-Thomas a'r gair annibynniaeth.
ReplyDeleteAm flynyddoedd lawer, roedd DET yn ymwrthod â'r gair annibynniaeth. Yn hytrach roedd yn mynnu ei fod o blaid rhywbeth fel "hunan-reolaeth yn Ewrop" neu mai ei ddymuniad oedd "gweld Cymru'n cymryd ei lle ymhlith rhanbarthau eraill Ewrop" neu rhyw waffl tebyg. Y pwynt yw mai dyna'n union y mae pawb arall yn ei olygu wrth ddefnyddio'r gair annibynniaeth. Mae mynnu hollti blew lle nad oes angen yn atgyfnerthu'r camargraff bod "annibynniaeth" pleidleiswyr creiddiol y Blaid yn rhywbeth culach a mwy sinistr (ac o'r herwydd, bod DET lawer mwy soffistigedig a goleuedig na phawb arall), er bod "annibynniaeth" a "hunan-reolaeth yn Ewrop" yn golygu union yr un peth!
Felly hefyd gydag agnosticiaeth ac anffyddwyr. Mae llawer iawn o bobl sy'n mynnu galw'u hunain yn agnosticiaid, a'n gwrthod y gair anffyddiaeth, er nad oes gwahaniaeth ymarferol o gwbl rhwng eu safbwyntiau a rhai'r mwyafrif helaeth o anffyddwyr. Maent wedyn yn atgyfnerthu'r camargraff bod anfyddiaeth yn rhywbeth drwg, "eithafol". Eto, hollti blew heb fod angen.
Prin iawn yw'r anffyddwyr sy'n dweud "rwy'n gwybod i sicrwydd 100% nad oes yna dduw". Am y rheswm yna, nid oes angen y gair agnosticiaeth oni bai eich bod yn credu bod tebygolrwydd bodolaeth duw'n rhywbeth tebyg i 50:50 (sy'n safbwynt gwallgof wrth gwrs). Os mai eich barn yw bod bodolaeth duw yn annhebygol, yna anffyddiwr ydych.