Roeddwn wedi hanner-disgwyl i'r bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ynghylch priodasau cyfunrywiol fod yn agosach, felly roedd yn braf gweld cydraddoldeb yn curo rhagfarn yn rhwydd, o 400 i 175.
Yn ddigalon, fe bleidleisiodd mwyafrif o'r aelodau Ceidwadol, a phob un o'r wyth sy'n cynrychioli seddau Cymreig, y ffordd anghywir. Ymunodd Paul Murphy a Dai Harvard o'r Blaid Lafur Cymreig â hwy hefyd. Rhag eu cywilydd. Gallwn ond obeithio eu bod yn sylweddoli bod yr oes yn prysur newid, ac eu bod ar ochr anghywir hanes. Bydd cymdeithas y dyfodol yn ffieiddio at y sawl a bleidleisiodd "na" heddiw, yn union fel yr ydym ninnau'n rhyfeddu o edrych yn ôl ar hilgwn y gorffennol. Dylwn fod wedi dysgu peidio disgwyl gwell gan rai o'n haelodau etholedig erbyn hyn, ond fe ddefnyddiodd un, yn gwbl ddi-eironi, yr hen ystrydeb plentynnaidd a thwp hwnnw am "Adam ac Eve, not Adam and Steve". Fe ddywedodd sawl un arall bod y mater yn un "cymhleth" a bod angen pwyllo cyn gwneud newidiadau mor sylweddol. Y gwirionedd, wrth gwrs, yw bod hyn i gyd yn eithriadol o syml. Dull o ffug-barchuso rhagfarn yw dadleuon felly.
Dim ond megis dechrau yw heddiw, wrth gwrs. Mae llawer mwy o "graffu" i'w wneud, a bydd yn ddifyr gweld sut aiff pethau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ond mae pleidlais heddiw'n hanesyddol, ac mae pethau'n edrych yn addawol iawn.
Fel dyn heterorywiol sy'n priodi ei ddarpar-wraig fis nesaf, rwy'n falch iawn o hynny. Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau bod cyfreithloni priodasau cyfunrywiol yn peryglu priodas ei hun fel cysyniad, fel petai teuluoedd heterorywiol ledled Prydain am chwalu'n deilchion o ganlyniad (na, nid wyf innau'n deall sut chwaith). Noder, gyda llaw, bod llawer iawn o'r aelodau seneddol gwrthwynebus wedi godinebu yn y gorffennol, a bod sawl un ar ei ail neu drydedd wraig. Ond beth bynnag, y gwrthwyneb sy'n wir os rywbeth: rwy'n credu bydd fy mhriodas yn golygu mwy fyth o wybod nad oes carfan gyfan o gymdeithas yn cael eu gwahardd rhag mwynhau'r un breintiau.
No comments:
Post a Comment