Asgwrn y gynnen, rwy'n credu, yw'r canlynol:
25. Were legislation to be enacted by Parliament that changed the definition of marriage for the purposes of the law of England, the status and effect of the canonical provisions that set out the Church‘s doctrine of marriage as being between one man and one woman would be called into question. In this way too the consultation overlooks the implications of what is proposed for the position of the established Church.Fel mae'r Independent yn ei ddweud, mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o'r esgobion yn pryderu'n arw yn ei gylch:
Anxiety among Church leaders is so acute that they raise the spectre of disestablishment, warning that any attempt to alter the definition of marriage could fatally undermine the Church’s privileged position.Wrth gwrs, yr ymateb synhwyrol i hynny yw gofyn "ie, ac?" Dau beth ardderchog am bris un fyddai hynny yn fy marn i.
Mae diffyg hunan-ymwybyddiaeth yr eglwys yn druenus. Nid oes modd cyfiawnhau cael eglwys yn ran o'r wladwriaeth, yn enwedig pan mae seddau yn y ddeddfwriaeth wedi'u neilltuo ar gyfer esgobion. Rwy'n hapus iawn i ddarllen datganiadau gan rai llefarwyr o'r eglwys yn "bygwth" datgysylltu, fel petai hynny'n rhywbeth a ddylai ein dychryn i gyd. I'r gwrthwyneb, dylai pawb groesawu'r fath beth yn fawr. Os yw priodasau cyfunrywiol am brysuro'r ysgariad rhwng gwladwriaeth ac eglwys, dyna fwy fyth o reswm i'w cefnogi.
Yn ogystal, mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cwyno nad oedd unrhyw gyfeiriad ati yn ymgynghoriad llywodraeth Prydain. Mae'n werth gofyn felly: a oes unrhyw reswm i dybio bod ei hagwedd hithau'n wahanol i ragfarnau atgas ei chyn-bartner yn Lloegr?
Mae'n ddiddorol yn ei hun eu bod nhw'n pryderu yn bennaf am "the position of the established Church".
ReplyDeleteOs mai amddiffyn a hybu Cristnogaeth yw diben yr enwad yma onid y cyfan sydd angen iddyn nhw ei ddweud yn y papur ymgynghorol yw 'Beibl says no!'? A dweud y gwir fe fyddai gen i fwy o barch tuag atyn nhw petaen nhw'n dweud hynny, o leiaf fe fyddai yn arwydd eu bod nhw'n camwahaniaethu yn erbyn pobol hoyw ar sail 'dealladwy' eu rhithdybiau crefyddol yn hytrach na'u hunan-les nhw eu hunain.
Mae'n arwydd bod eu safle breintiedig bellach yn bwysicach iddynt na'r ysgrythur y maen nhw'n honni eu bod nhw'n ei gynrychioli.
Dw i'n meddwl ei fod yn werth holi pam bod cymaint o bobol hoyw o blaid priodas 'Gristnogol' gan bod y Beibl o'r farn y dylid eu llabyddio nhw. Ond o ystyried bod anffyddiwr fel fi yn gallu priodi mewn capel/eglwys dylai pobol hoyw gael gwneud yr un peth os ydyn nhw'n dymuno.
ReplyDeleteRwy'n ei chael yn anodd deall sut mae modd bod yn gristion os ydych yn gyfunrywiol. Pam dilyn llyfr sy'n argymell eich lladd ac addoli ymysg pobl sy'n credu eich bod yn afiach? Mae'r ymennydd yn beth od, am wn i, ac mae llawer o bobl yn llwyddo i anwybyddu anghysonderau fel hyn. Rhywsut. Ond dyna ni, nid yw hynny'n berthnasol oherwydd mater o hawliau cyfartal yw hyn.
ReplyDeleteY peth gwarthus yw bod eglwysi'n hen ddigon parod i gynnal defodau priodasol cyplau sydd i bob pwrpas yn ddi-grefydd, ond maent am rwystro hawl cyplau cyfunrywiol cristnogol rhag priodi mewn swyddfeydd cofestru.
Roedd priodas yn bodoli cyn unrhyw un o'r prif grefyddau monotheistaidd, ac fe ddatblygodd yn annibynnol ym mhob ran o'r byd. Mae'r diffiniad wedi newid yn gyson ar hyd y blynyddoedd, a hynny er gwell. Lol yw'r honiad bod priodas yn rhywbeth statig sydd heb newid ers miloedd o flynyddoedd.
Mae angen cael gwared ar y syniad twp yma bod gan unrhyw grefydd fonopoli ar y syniad o briodas. Wrth gwrs, mae'r eglwys yn awyddus i'r canfyddiad yma barhau, a hynny am ei fod yn un o'r pethau sy'n ei chadw yn ei safle breintiedig. Maent am frwydro'n ffyrnig i warchod y statws hwnnw.
A dweud y gwir, rwy'n credu y byddai statws yr eglwys wedi dod yn destun trafod yn y dyfodol agos beth bynnag, yn enwedig os yw diwygio Ty'r Arglwyddi ar yr agenda o ddifrif. Yn araf deg, mae tranc yr eglwys yn parhau. Da hynny.
Er hyn i gyd, y prif reswm am eu safbwyntiau erchyll yw rhagfarn amrwd. Maent yn credu bod hoywon yn ych-a-fi. "Rhesymu" post hoc yw'r holl fwydro geiriog am effeithiau andwyol honedig priodasau cyfunrywiol. Eu casineb yw eu man cychwyn mewn gwirionedd.
Mae gan Dylan Iorwerth ddarn barn yn Golwg heddiw sy'n dadlau yr un fath.
ReplyDelete