03/11/2020

Beth fydd hanes Trump?

Mae perygl i bopeth yn y blogiad hwn ddyddio'n wael yn fuan iawn, ond mae'n edrych yn debygol iawn y bydd Joe Biden yn ennill yr etholiad arlywyddol yn America. Rwy'n deall bod pobl yn nerfus am y syniad bod yr arolygon barn yn anghywir, ar ôl i Trump wneud yn well na'r disgwyl yn 2016, ond, yn fy marn i, mae o hyd yn rhy hawdd gor-ddysgu gwersi'r etholiad diwethaf. Yn hynny o beth, mae'r un mor debygol mai Biden fydd yn gwneud yn well na'r disgwyl â'r ffordd arall rownd.

Llawn mor bwysig â'r gwahaniaeth rhwng cefnogaeth y ddau ymgeisydd yw bod bron pob arolwg barn yn rhoi mwy na 50% o'r bleidlais i Biden. Hyd yn oed pan oedd Hillary Clinton ar ei hanterth yn y polau yn 2016, ni ddaeth erioed yn agos at hanner y bleidlais. Nid oes llawer o bobl ar ôl sydd heb benderfynu sut i bleidleisio, ac mae hynny'n lleihau'r ansicrwydd yn sylweddol. Mae'r ras wedi bod yn rhyfeddol o sefydlog, mewn gwirionedd, er popeth sydd wedi digwydd yn ystod 2020. Mae pobl yn wirioneddoli hoffi Biden, rhywbeth sy'n sicr bad oedd yn wir am Clinton (ac, ysywaeth, mae'n anodd osgoi'r casgliad amlwg bod misogynistiaeth yn esbonio llawer o'r gwahaniaeth).

Y pryder mwyaf, wrth gwrs, yw bod Trump am geisio dwyn yr etholiad. Yn wir, nid oes amheuaeth o gwbl am hynny: mae wedi datgan ei fwriad yn blaen (dyma reol hawdd ond gwirioneddol ddi-ffael i chi: pan mae Trump yn addo rhywbeth da, mae'n gelwydd; ond pan mae'n cyhoeddi ei fod am wneud rhywbeth sy'n swnio'n ddrwg, dyna'r amser i gredu bob gair (a disgwyliwch gwaeth eto). Nid bod yn smala yw hyn: dyma'n llythrennol yr unig ffordd gywir i ddehongli'r dyn).

Cwestiwn arall yw a fydd yr ymdrech honno'n llwyddiannus. Y gobaith mwyaf yw bod Biden mor bell ar y blaen bod unrhyw ymgais coup yn ofer (mae'n warthus, wrth gwrs, bod angen i'r Democratiaid sicrhau buddugoliaeth swmpus er mwyn gallu ennill o gwbl). Ond hyd yn oed os yw'r coup yn aflwyddiannus, bydd yr ymdrech yn digwydd, a bydd diffyg cywilydd Trump a'i blaid yn gwthio'r system i'r eithaf.  Mae'r dyddiau wedi'r etholiad am fod yn fler a brawychus y naill ffordd neu'r llall. Bydd cyfrifoldeb mawr ar y cyfryngau. Yn anffodus, maent wedi cael trafferth delio â Trump dros y blynyddoedd diwethaf, felly bydd rhaid gobeithio eu bod wedi dysgu gwersi a pharatoi'n well y tro hwn. Er enghraifft amlwg, dylent sylweddoli nad oes rhaid darlledu nac ail-adrodd unrhyw Weriniaethwr sy'n ceisio hawlio buddugoliaeth cyn bod unrhyw ganlyniadau i gyfiawnhau hynny.

Gan gymryd mai Biden fydd yr arlywydd wedi 20 Ionawr (boed angen i lusgo Trump yn gorfforol allan o'r Tŷ Gwyn neu beidio), a bod y Democratiaid yn ail-ennill y Senedd, bydd yn rhaid iddynt flaenoriaethu trwsio democratiaeth y wlad (i'r graddau i'r fath beth fodoli yn America erioed). Er popeth arall fydd ar eu plât, fel y pandemig, chwalfa economaidd, anghydraddoldeb affwysol a system iechyd chwerthinllyd o fethedig, mae'n hollol, hollol, hollol hanfodol eu bod yn cael gwared, yn syth bin, ar bob un rhwystr sy'n ei gwneud yn anodd i bobl bleidleisio. Nid oes unrhyw beth pwysicach na galluogi pob oedolyn yn y wlad i bleidleisio'n rhwydd. a sicrhau nad oes modd i'r Gweriniaethwyr erydu'r hawl sylfaenol honno drachefn yn y dyfodol. Bydd rhaid hefyd gwneud Washington DC yn dalaith, a chynnig refferendwm ar y mater (gydag annibyniaeth neu setliadau eraill fel opsiynau, wrth gwrs) i diriogaethau fel Ynysoedd Americanaidd y Wyryf, Guam ac Ynysoedd Gogledd Mariana, a Samoa Americanaidd. Dyna'r peth moeol i'w wneud beth bynnag, ond byddai hefyd yn cywiro, i raddau o leiaf, allu'r Gweriniaethwyr i reoli'r Senedd gyda chefnogaeth lleiafrif o boblogaeth y wlad. Mae'n adrodd cyfrolau nad oes sicrwydd, hyd yn oed eleni, y bydd y Democratiaid yn cipio'r ddeddfwrfa honno er bod disgwyl iddynt fod ymhell ar y blaen yn y bleidlais boblogaidd.

Bydd angen hefyd cael gwared ar system anacronistig y coleg etholiadol, wrth gwrs, ond bydd hynny bron yn amhosibl oherwydd byddai'n golygu diwygio'r cyfansoddiad. Ond un peth fydd yn dechnegol hawdd fydd cywiro sefyllfa anghylaniadwy'r Goruchaf Lys, lle mae'r Gweriniaethwyr wedi llwyddo, trwy dwyll a rhagrith, i sicrhau mwyafrif eithafol o asgell-dde. Rhaid i Ddemocratiaid dderbyn mai'r unig ffordd o adfer y system ac o warchod normau yw i ychwanegu barnwyr, rhywbeth y mae modd ei wneud gyda mwyafrif syml yn y Senedd. Byddai hynny'n ymfflamychol yn wleiyddiol, ond nid oes dewis. 

Bydd gan y Democratiaid ffenestr o ddwy flynedd ar y mwyaf i gyflawni hyn i gyd. Nid gormodiaith yw dweud bod parhad America fel gwlad ddemocrataidd yn y fantol, ac y byddai gan hynny oblygiadau brawychus i weddill y byd hefyd. Nid yw'r Gweriniaethwyr hyd yn oed yn smalio erbyn hyn bod modd iddynt ddarbwyllo mwyafrif y boblogaeth i'w cefnogi. Plaid ethno-genedlaetholgar gwyn ydyw, a'i hunig bwrpas yw atal cefnogwyr y blaid arall rhag pleidleisio, ac i ddibynnu ar y llysoedd, y maent wedi'u llenwi â hacks ffyddlon, i rwystro a gwahardd popeth ar agenda'r Democratiaid ar yr ychydig achlysuron hynny pan fydd y blaid honno wedi ennill buddugoliaeth digon sylweddol i grafu mwyafrifoedd yn y ddwy ddeddfwrfa. Bydd gan y Democratiaid o fis Ionawr hyd at yr etholiadau canol-tymor nesaf ymhen dwy flynedd i sicrhau mai'r unig ffordd bosibl i'r Gweriniaethwyr ennill grym fydd trwy ddenu cefnogaeth mwyafrif o'r boblogaeth, er mwyn gorfodi'r blaid honno newid. Ar ôl hynny bydd yn rhy hwyr. 

Beth am dynged Trump ei hun? Bydd yn gwadu'r canlyniad, yn amlwg, dim ots pa mor agos fydd pethau, oherwydd mae'r dyn yn narsisist pathetig, ond mae'n wirioneddol bosibl bod rhaid iddo ennill yr etholiad yma er mwyn osgoi carchar. Nid oes ryfedd felly ei fod mor despret. Mae'n hollol hanfodol, yn fy marn i, bod Trump, ei blant, a phob person llwgr arall o'u cwmpas, yn cael eu herlyn a'u dedfrydu i garchar. Yn anffodus, ar ôl ennill grym, greddf y Democratiaid fydd 'edrych ymlaen, nid am yn ôl', gan bortreadu hynny fel y peth nobl, llesol, niwtral a phragmataidd i'w wneud. Mae'r reddf honno'n gwbl gyfeiliornus, a'r gwrthwyneb sy'n wir: y llwybr nobl, llesol, niwtral a phragmataidd yw sicrhau bod pobl llwgr yn cael eu cosbi. Os nad oes modd i arlywydd Gweriniaethol gael ei erlyn tra bod y Gweriniaethwyr mewn grym (oherwydd nad oes ganddynt gywilydd o gwbl), na chwaith pan mae'r Democratiaid mewn grym (oherwydd pryder am gael eu cyhuddo o 'fod yn wleidyddol'), byddai'n golygu trwy ddiffiniad nad oes posibl i unrhyw arlywydd Gweriniaethol gael ei erlyn am unrhyw beth, waeth pa mor ddifrifol ei droseddau. Mae'n hollol amlwg nad yw sefyllfa fel hyn yn gynaliadwy. Roedd buddugoliaeth Trump yn 2016 yn symptom o gymdeithas sydd wedi torri, ond mae'r dyn hefyd yn dangos yn glir sut mae'r gymdeithas honno wedi torri, sef bod gan oligarciaid llwgr rwydd hynt i wneud fel y mynnent. Mae hynny, ac anghydraddoldeb yn gyffredinol wrth gwrs, yn broblem arall bydd yn rhaid i Biden a'r Democratiaid ei datrys ar frys. 

Fel mae'n digwydd, ni fuaswn yn synnu gweld Trump yn cyhoeddi dechrau ei ymgyrch ar gyfer 2024 yn fuan iawn (gan gymryd mai colli fydd ei dynged y tro hwn). Nid oherwydd bod ganddo obaith - na hyd yn oed y bwriad - o ennill ymhen pedair blynedd, ond er mwyn ei alluogi i alw unrhyw ymdrechion i'w ddwyn i gyfraith fel hit job gwleidyddol. 

Mae'n glir beth ddylai ddigwydd, felly. Ond ai dyna fydd yn digwydd, mewn gwirionedd? Fel rwyf wedi'i nodi o'r blaen, er fy mhesimistiaeth am gyfeiriad y byd yn gyffredinol, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i osod ein disgwyliadau yn uchel. Mae perygl i dderbyn o flaen llaw ei bod yn annhebygol y bydd Trump yn mynd o flaen ei well fod yn broffwydoliaeth sy'n gwireddu'i hun. Rwy'n credu bod y tebygolrwydd y bydd yn cael ei erlyn yn llai na'r hanner, ond un peth sy'n gwneud i mi feddwl bod mwy o siawns na mae sinigiaid savvy yn ei gydnabod yw'r ffaith bod ymddygiad Trump yn yr wythnosau nesaf yn debygol o blymio i ddyfnderoedd is eto. Mae'n bosibl bydd y cyfuniad o geisio hawlio buddugoliaeth yng ngwyneb pob ffaith i'r gwrthwyneb, a'r difrod bwriadol fydd yn ei achosi i'r hyn sy'n weddill o'r llywodraeth ffederal mewn tantrwm sbeitlyd, ar ben y ffaith bydd llawer o bobl sy'n gwybod gormod yn troi'n ei erbyn oherwydd na fydd rheswm rhagor i fod yn deyrngar iddo, yn ddigon i ddymchwel y mur gwleidyddol sy'n ei amddiffyn. Yn hynny o beth, y peth doethaf i Trump ei wneud, er ei les ei hun, fyddai i ildio'n wylaidd a chadw'i ben lawr. Oherwydd ei dwpdra a'i narsistiaeth, fodd bynnag, dyna'r union beth sy'n hollol sicr na fydd yn gallu ei wneud. Ei dwpdra sydd wedi ei alluogi i godi mor uchel. Byddai'n briodol a hyfryd dros ben petai'r twpdra hwnnw'n peri iddo golli'r cyfan.

2 comments:

  1. Dyna faswn i yn ei lecio hefyd,ond tydwi ddim hanner mor optimistig a chdi Dylan.

    ReplyDelete
  2. Sylwadau craffus iawn Dylan.

    ReplyDelete