Mae'n rhyfeddol gweld Llywodraeth Prydain yn mynd i eithafion er mwyn amddiffyn Dominic Cummings, wedi i hwnnw gael ei ddal yn torri sawl rheol yn ymwneud â'r lockdown presennol. Mewn un penwythnos, maent wedi llwyddo i danseilio'r canllawiau mae pawb wedi bod yn eu dilyn ers dros ddeufis, a hynny yn y modd mwyaf abswrd a pheryglus.
Dylai Cummings ymddiswyddo, yn amlwg, ond nid yw wedi gwneud eto. Er nad oes gennyf syniad a fydd yn mynd ai peidio, rwy'n fwy gobeithiol nag ambell un, gan fod yr arolygon barn yn awgrymu'n gryf bod y cyhoedd, gan gynnwys cefnogwyr y Ceidwadwyr, wedi gwylltio'n arw. Nid sgandal arferol swigen San Steffan am un dyn yn unig mo hwn, ond sarhad personol i bawb sydd wedi dilyn y rheolau'n ufudd, gan gynnwys pobl mewn sefyllfaoedd anos o lawer na'r amgylchiadau a wynebodd Cummings.
Rwy'n greadur digon sinigaidd a phesimistaidd ynghylch gwleidyddiaeth, ar y cyfan, gan osod fy nisgwyliadau yn bur isel. Fel hynny, rwy'n lleihau'r siom, a'n cael mwy o fwynhad pan ddaw datblygiadau cadarnhaol. Eto i gyd, mae'n bwysig peidio gadael i sinigiaeth normaleiddio'r syniad na ddylid disgwyl i ymddygiad pobl fel Cummings fod ag iddynt unrhyw oblygiadau. Mae darogan "daw dim byd o hyn" o flaen llaw yn gallu gwneud i ni deimlo'n fydol-ddoeth a phwyllog, mewn cyferbyniad â'r rhai naïf a gor-optimistaidd hynny sy'n cynhyrfu gormod ar achlysuron fel hyn cyn cael eu siomi, ond mae perygl i'r sinigiaeth honno wireddu'i hun (rwy'n cynnwys fy hun ymysg yr euog fan hyn). Os anogir yr argraff nad yw'r cyhoedd yn disgwyl i ffigurau gwleidyddol orfod ymddiswyddo ar ôl camymddwyn, yna mae'r ffigurau gwleidyddol yn amlwg am sylweddoli hynny ac am ddod yn fwy tebygol o geisio dal eu gafael. Mae hefyd yn agwedd ceidwadol yn ei hanfod, gan ei fod yn dilorni'r syniad bod newid er gwell yn bosibl.
Dyma pam mae Donald Trump yn llwyddo i wneud dwsin o bethau bob un dydd (yn llythrennol) fyddai wedi bod yn sgandal farwol i unrhyw weinyddiaeth arall. Mae'r syniad wedi cydio nad oes rheswm i ddisgwyl gwell ganddo, felly mae'r cyhoedd bellach yn numb i lawer o'r hyn a wna. Rhaid osgoi syrthio i'r trap yma yn achos Cummings, ac ym mhob achos arall. Mae'n bwysig cynhyrfu am bethau fel hyn, hyd yn oed os ydym yn amau'n dawel bach na fydd yn arwain at unrhyw newid. Mewn geiriau eraill, bydded i ni osod ein disgwyliadau cyhoeddus yn uwch o lawer na'n disgwyliadau mewnol.
Cytuno'n llwyr Dylan.
ReplyDelete