Mae Iddew gan Dyfed Edwards yn gorffen gydag epilog byr, chwe blynedd ar ôl croeshoelio Yeshua (sef Iesu Grist), lle mae rhai o ddilynwyr y meseia honedig yn gwrando ar yr hyn sydd gan ddyn diarth o'r enw Shau'l, nad oedd wedi ymddangos yn y stori cyn hyn, i'w ddweud am y ffydd newydd. Bu'r dyn hwn yn erlid Mudiad Yeshua nes yn ddiweddar, ond cafodd droedigaeth ac mae bellach yn ferw gwyllt o syniadau am sut i ledaenu'r efengyl newydd. Mae dilynwyr Yeshua'n gwrando arno'n ansicr. A dyna ragflas o'r nofel ddilynol, sef Apostol.
Mae'r stori o'r pwynt hwn yn canolbwyntio ar yr elyniaeth rhwng dilynwyr Yeshua (Kepha a Yakov yn enwedig, sef Pedr a Iago, brawd Iesu) a Paulos, sy'n parhau hyd yn oed ar ôl i hwnnw weld y goleuni. Hawdd yw dychmygu y byddai cyfeillion agos Iesu Grist wedi bod yn bur brin eu hamynedd gyda'r dieithryn rhyfedd yma a oedd mor elyniaethus tuag at y grefydd newydd ond a aeth ati nid yn unig i'w chofleidio ond i herio dehongliad cyfeillion Iesu eu hunain o'r ffydd, gan fynnu'n syth ei fod wedi cael ei ddewis gan eu duw i hyrwyddo dehongliad newydd. O gofio bod aelodau'r Mudiad wedi adnabod Yeshua a'i ystyried yn ffrind (ac yn achos Yakov, wedi tyfu fyny gydag ef), tra nad oedd Paulos wedi cwrdd ag ef erioed, nid oes ryfedd eu bod wedi'i ystyried yn ddyn haerllug ar y naw.
Dangosodd Iddew sut y gall crefydd newydd fel Cristnogaeth fod wedi deillio o ddigwyddiadau perffaith naturiol a di-nod. Yn Apostol, cawn boetread realistig dros ben o'r ffraeo a'r cecru wrth i athrawiaethau crefydd newydd gael eu pennu (a'u dyfeisio ar fympwy) yn y dyddiau cynnar. Neges Apostol, rwy'n credu, yw mai Paul, nid Iesu Grist, yw'r person pwysicaf yn hanes Cristnogaeth. A dweud y gwir, bron y gallwn awgrymu bod Iesu Grist y person ei hun yn amherthasol. Canfas gwag oedd Iesu i Paul, i bob pwrpas; byddai unrhyw berson arall wedi gwneud y tro llawn cystal.
Obsesiwn mawr Paul oedd y syniad o berthynas uniongyrchol gyda'r meseia. O'r herwydd, roedd yn eithriadol o awyddus i gyflwyno'r ffydd newydd i holl genhedloedd y byd, nid dim ond yr Iddewon. Yn groes i Kepha/Pedr a Yakov/Iago, mynnodd nad oedd rhaid i ddynion gael eu henwaedu, na dilyn rhai o gyfreithiau mawr eraill yr Iddewon, er mwyn cael eu derbyn.
Teg iawn dweud felly mai creadigaeth Paul yw Cristnogaeth. I Paul mae'r diolch (neu, efallai, y diawlio) bod Cristnogaeth wedi lledaenu i bob cornel o'r byd. Gwnaeth Gristnogaeth yn bopeth i bawb, gan ganiatáu'r hyblygrwydd hwnnw a alluogodd y grefydd i addasu i wahanol gymunedau ac amgylchiadau.
Mae arddull Apostol yn debyg iawn i Iddew, gyda'r un ail-adrodd rhythmig lled Feiblaidd, a defnydd helaeth o enwau Hebraeg a ieithoedd Beiblaidd eraill. Unwaith eto, mae'r stori yn eithriadol o afaelgar. Dyma ddwy o'r nofelau gorau yn ein hiaith, yn fy marn i. Mae'n ddiddorol, serch hynny, nad yw'r un o'r cymeriadau yn arbennig o hoffus (yn rhyfedd ddigon, rwy'n credu mai'r cymeriad y cydymdeimlais fwyaf ag ef dros y ddwy nofel oedd Yeshua ei hun). Mae Paulos yn ddyn carismataidd dros ben, wrth reswm, ond hefyd yn rhyfedd, blin ac ystyfnig fel mul. Hawdd iawn yw dychmygu bod portread y nofel o'r dyn go iawn yn agos iawn ati.
No comments:
Post a Comment