07/12/2017

Yeshua

Rwyf newydd fwynhau darllen Iddew gan Dyfed Edwards yn arw. Mae'n adrodd stori Yeshua (Iesu), a sut y bu i hwnnw ganfod ei hun ar y groes.

Anffyddiwr yw Dyfed, ond nid polemig gwrth-Gristnogol yw'r nofel o bell ffordd. Os rywbeth, roeddwn yn cydymdeimlo llawer mwy â'r Yeshua yma, sy'n gymeriad o gig a gwaed, nag â fersiwn arwynebol ac anghyson y Beibl. Nid oes unrhyw elfennau goruwchnaturiol, wrth reswm, ac mae'n cynnig esboniadau banal dros ben ar gyfer tarddiad stori porthi'r pum mil a'r honiad bod Yeshua/Iesu wedi cerdded ar wyneb Môr Galilea.

Mae Yeshua'r nofel yn ddyn ecsentrig, yn grediniol mai ef yw'r meseia. Fel mae'r llyfr yn ei ddangos, roedd hynny'n beth cyffredin iawn ar y pryd. Trefedigaeth Rufeinig oedd Israel y cyfnod; o ganlyniad roedd y lle'n ferw gwyllt o chwyldroadwyr anniddig.  Gydag amgylchiadau o'r fath, nid rhyfedd bod yno dir ffrwythlon ar gyfer chwltiau apocalyptaidd di-rif. Yn wir, pwynt a anghofir yn aml gan Gristnogion modern yw bod Yeshua, ei ddilynwyr, a Christnogion cynnar yn gyffredinol, yn gyndyn bod diwedd y byd ar fin cyrraedd yn ystod eu hoes hwy.

Gan fod y plot mor gyfarwydd, cryfderau'r nofel yw'r cymeriadau a'r arddull. Mae llawer iawn o ail-adrodd rhythmig, ac mae'n effeithiol dros ben. Roeddwn hefyd yn hoff o'r defnydd o enwau Hebraeg.

Mae darllen y gyfrol wedi f'anfon i feddwl eto am yr holl ddamcaniaethu ynghylch bodolaeth Iesu Grist fel ffigwr hanesyddol. O gofio'r diffyg cofnodion cyfoes, nid oes modd gwybod i sicrwydd. Yn wir, pan mae cyn lleied o wybodaeth ar gael, nid wyf yn siwr beth mae hyd yn oed yn ei olygu i ofyn a oedd yn berson go iawn ai peidio. Gwyddom bod rhywun o'r enw Yeshua wedi bod yn fyw yn Israel 2,000 o flynyddoedd yn ôl, oherwydd y ffaith syml bod hwnnw'n enw cyffredin ar y pryd. Ond heb dystiolaeth ddibynadwy am fanylion ei fywyd, nid yw'n gwneud synnwyr i drin cymeriad y chwedl fel person hanesyddol yn fy marn i.

Mae hyn yn wir am gymeriadau fel y Brenin Arthur hefyd. Efallai na fodolodd y fath berson erioed. Efallai bod yno rywun â'r enw hwnnw wedi bod yn rhyw fath o frenin. Neu efallai ei fod wedi'i seilio ar gyfuniad o wahanol gymeriadau lled hanesyddol. Ond gan mai ffrwyth dychymyg yw pob manylyn pellach, beth yw'r ots? Petai crefydd yn codi'n y dyfodol wedi'i seilio ar gymeriad o'r enw Dylan Llyr, a fu fyw yng Nghymru yn 2017, ond bod pob manylyn bywgraffiadol arall yn hollol anghywir, yna nid 'fi' fyddai'r cymeriad hwnnw o gwbl mewn gwirionedd.

Beth bynnag yw'r gwir am Iesu Grist, mae'n hawdd iawn dychmygu sut gall stori Iddew fod yn agos ati. Yn hynny o beth, efallai bod y nofel yn fwy o her i ddilynwyr modern Iesu Grist nag y byddai llyfr amrwd gwrth-Gristnogol wedi bod (sef beth y buaswn i, yn ôl pob tebyg, wedi'i gynhyrchu petawn i wedi rhoi cynnig arni). Mae'r nofel yn dangos yn glir (trwy gyfrwng stori afaelgar a chrefftus, nid trwy bregethu) sut mae chwedlau rhyfeddol yn gallu tyfu, gyda digon o amser, o ddigwyddiadau gwreiddiol perffaith naturiol a banal. Rwy'n ei chael yn anodd iawn deall sut y gall unrhyw un ddarllen Iddew a pharhau i fynnu bod chwedlau goruwchnaturiol y Beibl yn debygol o fod yn wir.

2 comments:

  1. Yn ddiddorol, dwi wedi trafod y nofel gyda sawl Cristion o argyhoeddiad, sydd yn credu ei bod yn ardderchog - yn 'herio' eu ffydd, ond ddim yn gwneud iddyn nhw amau. Mae hynny'n cadarnhau i fi bod fydd/crefydd yn rhywbeth na ellir ei esbonio ac sy'n sefyll y tu hwnt i resymeg.

    ReplyDelete