12/12/2017

Ynghylch dyneiddio natsïaid

Yn ddiweddar, mae genre syrffedus o newyddiaduraeth wedi dod fwyfwy i'r amlwg, sef portreadau tyner o ffasgwyr ac ymgyrchwyr o blaid goruchafiaeth y dyn gwyn. Dyma enghraifft arbennig o anffodus gan y New York Times: proffeil o Natsi o'r iawn ryw o Ohio, gyda phwyslais ar y ffaith ei fod yn treulio llawer o'i amser yn gwneud pethau normal bywyd.

Rwy'n credu'n gryf ei bod yn bwysig peidio portreadu natsïaid fel rhyw fath o gartŵns. Mae perygl o'u gosod mewn categori ddi-gymhariaeth ar wahan, fel petaent o blaned arall. Byddai gwneud hynny'n awgrymu nad ydynt yn berthnasol i'n byd ni heddiw. Call, felly, yw cofio mai pobl o gig a gwaed yw natsïaid. I raddau helaeth iawn, mae eu bywydau'n debyg i'n rhai ni; maent yn byw yn ein cymunedau, yn caru'u mamau, a'n prynu bwyd mewn siopau.

Problem yr erthygl, a rhai eraill o'r un anian, yw y dylai hyn fod yn amlwg. Nid yw "pobl yw natsïaid" yn stori ddiddorol. Oes wir angen ei hadrodd?  Roedd hyd yn oed Hitler yn gallu bod yn glên weithiau; so what? Unig ganlyniad erthyglau fel hyn yw rhoi platfform i bobl ffiaidd a normaleiddio'u safbwyntiau.

Mae llawer wedi amddiffyn yr erthygl trwy gyfeirio at the banality of evil, geiriau enwog Hannah Arendt. Ond nid dyma oedd gan Arendt mewn golwg, ac mae'n anffodus bod ymadrodd mor ddefnyddiol wedi troi'n cliché a cholli ystyr. Nid llyfr am Eichmann yn mynd â'i gi am dro a dweud 'helo' wrth ei gymdogion yw Eichmann In Jerusalem. Esboniad ydyw o sut y daeth gwneud pethau hollol erchyll i deimlo'n normal o dan yr amgylchiadau. Awgrymaf nad rhoi llwyfan enfawr i natsïaid, heb herio'r dadleuon o gwbl, yw'r ffordd orau o sicrhau na ddaw'r amgylchiadau hynny'n eu hôl.

Ar 20 Awst 1939, 12 diwrnod cyn i'w danciau groesi'r ffin i Wlad Pwyl, fe gyhoeddodd y Times enghraifft o'r genre yma am neb llai na Hitler ei hun, a'i dŷ gwyliau yn y mynyddoedd. Wyth degawd yn ddiweddarach, ymddengys nad ydynt wedi dysgu'r wers.

No comments:

Post a Comment